Elizabeth Watkin-Jones
Awdures Gymraeg yn ysgrifennu i blant oedd Elizabeth Watkin-Jones (nee Parry), hefyd Elizabeth Watkin Jones (13 Gorffennaf 1887 – 9 Mehefin 1966).[1] Yn ôl Bedwyr Lewis Jones, mae Elizabeth Watkin-Jones 'ymhlith prif awduron llyfrau i blant yn Gymraeg'.
Elizabeth Watkin-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 13 Gorffennaf 1877 Nefyn |
Bu farw | 9 Mehefin 1966 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, athro |
Magwraeth ac addysg
golyguRoedd yn enedigol o Nefyn, Llŷn yn yr hen Sir Gaernarfon, yn ferch i Henry a Jane Parry. Boddodd ei thad, a oedd yn gapten llong, yn harbwr Iquique, De America, pan oedd Elizabeth yn ieuanc, heb iddo gyfarfod a'i ferch.
Mynychodd ysgol y pentref ac yna ysgol sirol Pwllheli cyn cael ei derbyn i Goleg y Normal, Bangor. Wedi gadael bu'n athrawes plant bach yn Aberdâr, Onllwyn, Porthmadog, Trefriw a Nefyn, lle bu'n ddisgybl.[1]
Personol
golyguPriododd John Watkin-Jones yn Chwefror 1916. Wedi'r Y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n byw am gyfnod byr yn Merthyr, cyn dychwelyd i Nefyn yn 1920 pan benodwyd ei gŵr yn brifathro yno.
Bu farw ym Mae Colwyn ac yno y cafodd ei hamlosgi.
Yr awdur
golyguYn Saesneg y dechreuodd sgwennu, gan gyfrannu i gylchgronau plant: Chuck's Own, Bubbles, a Fairyland Tales, cyn troi i sgwennu'n Gymraeg yn y 1930au. Cyfrannodd i Dywysydd y Plant, Trysorfa'r Plant, Y Winllan, Cymru'r Plant, Yr Athro, a'r comic Hwyl.[1]
Enillodd sawl gwobr yn eiseddfodau 1939 a 1949 am storiau, nofelau a dramau i blant.
Llyfryddiaeth
golyguCyhoeddiadau
golygu- Plant y Mynachdy (1939)
- Luned Bengoch (1946)
- Y Cwlwm Cêl (1947)
- Y Dryslwyn (1947)
- Esyllt (1951)
- Lowri in the collection Storïau Ias a Chyffro (1951)
- Lois (1955)
Llyfryddiaeth
golygu- Dafydd Guto Ifan a Hywel T. James, Merch y glannau: Elizabeth Watkin-Jones 1887-1966 (Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd, 1990)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1959). "Watkin-Jones, Elizabeth". Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein. Cyrchwyd 29 Mai 2010.