Elizabeth Watkin-Jones

awdur llyfrau i blant
(Ailgyfeiriad o Elizabeth Watkin Jones)

Awdures Gymraeg yn ysgrifennu i blant oedd Elizabeth Watkin-Jones (nee Parry), hefyd Elizabeth Watkin Jones (13 Gorffennaf 18879 Mehefin 1966).[1] Yn ôl Bedwyr Lewis Jones, mae Elizabeth Watkin-Jones 'ymhlith prif awduron llyfrau i blant yn Gymraeg'.

Elizabeth Watkin-Jones
Ganwyd13 Gorffennaf 1877 Edit this on Wikidata
Nefyn Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mehefin 1966 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg Pwllheli
  • Athrolys Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, athro Edit this on Wikidata

Magwraeth ac addysg

golygu

Roedd yn enedigol o Nefyn, Llŷn yn yr hen Sir Gaernarfon, yn ferch i Henry a Jane Parry. Boddodd ei thad, a oedd yn gapten llong, yn harbwr Iquique, De America, pan oedd Elizabeth yn ieuanc, heb iddo gyfarfod a'i ferch.

Mynychodd ysgol y pentref ac yna ysgol sirol Pwllheli cyn cael ei derbyn i Goleg y Normal, Bangor. Wedi gadael bu'n athrawes plant bach yn Aberdâr, Onllwyn, Porthmadog, Trefriw a Nefyn, lle bu'n ddisgybl.[1]

Personol

golygu

Priododd John Watkin-Jones yn Chwefror 1916. Wedi'r Y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n byw am gyfnod byr yn Merthyr, cyn dychwelyd i Nefyn yn 1920 pan benodwyd ei gŵr yn brifathro yno.

Bu farw ym Mae Colwyn ac yno y cafodd ei hamlosgi.

Yr awdur

golygu

Yn Saesneg y dechreuodd sgwennu, gan gyfrannu i gylchgronau plant: Chuck's Own, Bubbles, a Fairyland Tales, cyn troi i sgwennu'n Gymraeg yn y 1930au. Cyfrannodd i Dywysydd y Plant, Trysorfa'r Plant, Y Winllan, Cymru'r Plant, Yr Athro, a'r comic Hwyl.[1]

Enillodd sawl gwobr yn eiseddfodau 1939 a 1949 am storiau, nofelau a dramau i blant.

Llyfryddiaeth

golygu

Cyhoeddiadau

golygu
  • Plant y Mynachdy (1939)
  • Luned Bengoch (1946)
  • Y Cwlwm Cêl (1947)
  • Y Dryslwyn (1947)
  • Esyllt (1951)
  • Lowri in the collection Storïau Ias a Chyffro (1951)
  • Lois (1955)

Llyfryddiaeth

golygu
  • Dafydd Guto Ifan a Hywel T. James, Merch y glannau: Elizabeth Watkin-Jones 1887-1966 (Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd, 1990)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1959). "Watkin-Jones, Elizabeth". Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein. Cyrchwyd 29 Mai 2010.

Dolenni allanol

golygu