Ellis Edwards
Roedd Ellis Edwards (9 Mehefin, 1844 - 2 Chwefror, 1915) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a wasanaethodd fel athro, dirprwy brifathro ac wedyn yn brifathro Coleg y Bala.[1]
Ellis Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mehefin 1844 Yr Wyddgrug |
Bu farw | 2 Chwefror 1915 y Bala |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, pennaeth |
Cefndir
golyguGanwyd Edwards yn yr Wyddgrug yn blentyn i'r Parch Roger Edwards, gweinidog ac argraffydd ac Eleanor (née Williams) ei wraig. Cafodd ei addysgu mewn ysgol yng Nghaer am 3 mlynedd, rhwng 12 a 15 oed, bu wedyn yn ddisgybl athro (athro dan hyfforddiant) yn yr ysgol am ddwy flynedd, wedi hynny bu yn athro mewn ysgol yn Scarborough. Wedi gwario blwyddyn fel athro bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Bala ac wedyn ym Mhrifysgol Caeredin lle graddiodd MA dosbarth cyntaf ym 1870.[2] Derbyniodd gradd DD er anrhydedd gan Brifysgol Caeredin ym 1901.[3] Roedd yn gyfoed ac yn gyfaill oes i'r nofelydd Daniel Owen.
Yn ystod ei blentyndod cafodd Edwards afiechyd a amharodd ar ei glyw a bu'n drwm ei glyw am weddill ei oes gan droi yn hollol fyddar erbyn diwedd ei oes.
Gyrfa
golyguWedi graddio cafodd Edwards ei ordeinio yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bu'n gwasanaethu fel gweinidog ar gapel Cymraeg Croesoswallt am gyfnod o flwyddyn a hanner. Rhwng 1872 a 1874. Ar farwolaeth y Parch Dr John Parry, penodwyd Edwards yn athro yng Ngholeg y Bala fel olynydd iddo.[4] Ar adeg ei apwyntiad roedd Coleg y Bala yn cynnig addysg gyffredinol yn ogystal â gweithredu fel athrofa baratoadol i ymgeiswyr am y weinidogaeth. Bu Edwards yn gyfrifol am rhai o'r pynciau cyffredinol megis y celfyddydau, Llenyddiaeth Saesneg, Lladin a rhifyddeg. Fe'i penodwyd yn ddirprwy brifathro'r coleg ym 1889 a phrifathro ym 1908.
Roedd Edwards yn gerddor brwdfrydig, yn arweinydd cymanfaoedd, yn feirniad cystadlaethau cerddorol mewn eisteddfodau [5] ac yn gyfansoddwr emyn donau.[1]
Bu Edwards, fel nifer o arweinwyr anghydffurfiol ei ddydd, yn gefnogwr brwd o'r Blaid Ryddfrydol ac yn un o sylfaenwyr mudiad cenedlaetholgar y blaid, Cymru Fydd. Yn ôl William George (brawd David Lloyd George) Edwards oedd yn gyfrifol am fathu enw'r mudiad.[6]
Marwolaeth
golyguBu farw yn annedd y prifathro yng Ngholeg y Bala yn 70 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanycil.[7] Ni fu'n briod.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Edwards, G. A., (1953). EDWARDS, ELLIS (1844 - 1915), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a phrifathro Coleg y Bala, 1906-15. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 3 Mehefin 2020
- ↑ "BALA - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1870-11-12. Cyrchwyd 2020-06-03.
- ↑ "DR ELLIS EDWARDS OF BALA - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1901-02-14. Cyrchwyd 2020-06-03.
- ↑ "MAE SON AMDANYNT - Papur Pawb". Daniel Rees. 1893-05-27. Cyrchwyd 2020-06-03.
- ↑ "CYSTADLEUAETH LENYDDOL YN Y BALA - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1874-12-30. Cyrchwyd 2020-06-03.
- ↑ Adolygiad o History of the first Welsh National Movement, William George. Gwasg y Brython, 1945 yn Wales cyf V rhif 8/9, Rhagfyr 1945 adalwyd 3 Mehefin 2020
- ↑ "DR ELLIS EDWARDS - Y Goleuad". John Davies. 1915-02-05. Cyrchwyd 2020-06-03.