Ellis Owen

amaethwr, hynafiaethydd, a bardd

Hynafiaethydd, awdur, beirniad llenyddol a bardd oedd Ellis Owen, a adwaenir fel rheol fel Ellis Owen, Cefnymeysydd (31 Mawrth 1789 - 27 Ionawr 1868).[1]

Ellis Owen
Ganwyd31 Mawrth 1789 Edit this on Wikidata
Eifionydd Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ionawr 1868 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed ef ar fferm 'Cefn-y-meysydd Isaf', ym mhlwyf Ynyscynhaearn yn Eifionydd ac addysgwyd ef mewn ysgol yn yr eglwys ym Mhenmorfa, gyda David Owen (Dewi Wyn o Eifion) yn gyd-ddisgybl; yna aeth i ysgol yn yr Amwythig i ddysgu Saesneg. Treuliodd ei oes yn hen lanc, adref gyda'i fam a'i chwiorydd, yn ffermio 'Cefn-y-meysydd Isaf' ac fe'i claddwyd ger drws Eglwys Ynyscynhaearn, Pentrefelin ger Cricieth.

Fel llawer o bobl dysgedig ei oes, gweithiai oddi fewn ei gymuned, a bu'n warden yr eglwys leol, yn arolygydd 'pwysau a mesur' dros y sir, yn llywydd ac yn ysgrifennydd ysgolion Sul Methodistiaid Calfinaidd Llŷn ac Eifionydd ac yn ysgrifennydd Cymdeithas y Beiblau yn Nhremadog.

Bardd a hanesydd golygu

Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn hanes leol, ac ysgrifennodd lawer o erthyglau ar y pwnc mewn amryw o gyfnodolion rheolaidd hefyd e.e. Seren Gomer, Y Drysorfa, Y Gwladgarwr, a'r Brython. Yn 1846 sefydlodd 'Gymdeithas Lenyddol Eifionydd' yng Nghefn-y-meysydd; bu beirdd fel Eben Fardd, Dewi Wyn a Morris Williams (Nicander) yn ymwneud a'r gymdeithas hon am gyfnod o tua 12 mlynedd.

Cyhoeddwyd ei farddoniaeth a'i ysgrifau o dan y teitl Cell Meudwy yn Nhremadog yn 1877.

Llyfryddiaeth golygu

  • Y Gestiana, Tremadog, 1892, 71-4
  • Cell Meudwy, sef Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol (Cefnymeusydd), 1877 (cofiant), 1-34

Enwogion Sir Gaernarfon, 1922, 268-9

  • Cymru (O.M.E.), xxvi, 29-33
  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen ... from the earliest times to the present, 1908
  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru, ii, 333
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 998-1024, 2710, 3292, 3423, 4452, 4857, 6041.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gofal! Mae'r Bywgraffiadur ar-lein yn rhoi 31 Ionawr fel diwrnod ei farw; fel y gwelir o'r ddelwedd uchod, ar y27fed y bu farw.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: