Empire of the Sun (ffilm)
Ffilm ryfel Saesneg yw Empire of the Sun (1987). Cyfarwyddwyd gan gan Steven Spielberg, ac mae'n serennu Christian Bale, John Malkovich, a Miranda Richardson. Mae'n seiliedig ar y nofel o'r un enw gan J.G. Ballard a gyhoeddwyd yn 1984; addaswyd ar gyfer y sgrîn gan Tom Stoppard a Menno Meyjes. Adrodda Empire of the Sun hanes Jamie "Jim" Graham, sydd yn datlygu fel unigolyn o fyw gyda theulu Prydeinig cefnog yn Shanghai i fod yn garcharor rhyfel yng Nghanolfan Ymgynnull Sifiliaid Lungha, gwersyll Siapaneaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig |
Dyddiad cyhoeddi | 1987, 10 Mawrth 1988 |
Genre | ffilm ryfel, ffilm glasoed, ffilm ddrama, ffilm a seiliwyd ar nofel |
Prif bwnc | Pacific War, awyrennu, yr Ail Ryfel Byd |
Lleoliad y gwaith | Shanghai |
Hyd | 154 munud, 152 munud |
Cyfarwyddwr | Steven Spielberg |
Cynhyrchydd/wyr | Kathleen Kennedy, Frank Marshall, Steven Spielberg, Robert Shapiro |
Cwmni cynhyrchu | Amblin Entertainment |
Cyfansoddwr | John Williams |
Dosbarthydd | Warner Bros., Netflix |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Sinematograffydd | Allen Daviau |
Yn wreiddiol roedd Harold Becker a David Lean i fod cyfarwyddo'r ffilm cyn i Spielberg gymryd yr awenau. Roedd gan Spielberg ddiddordeb mewn cyfarwyddo Empire of the Sun oherwydd ei gysylltiad personol i ffilmiau Lean ac i'r thema o'r Ail Ryfel Byd. Ystyria Spielberg y ffilm hon fel ei waith mwyaf dwys ar "golli diniweidrwydd". Deliai nofel Ballard gyda'r thema o ddewrder ond unwaith eto creodd Spielberg ffilm a oedd yn ymdrin â phlant yn cael eu gwahanu o'u rhieni. Fodd bynnag, nid oedd y ffilm yn llwyddiant enfawr yn y theatrau er iddi gael ei chanmol yn fawr gan y beirniaid.
Plot
golyguMae plentyndod braf llanc ysgol Seisnig ifanc, Jamie Graham (ymddangosiad cyntaf Christian Bale mewn ffilm) yn byw gyda'i rieni cyfoeddog mewn ardal moethus o Shanghai yn dod ben yn sydyn yn 1941 pan mae Ymerodraeth Japan, yn lawnsio rhyfel yn erbyn yr Unol Daleithiau, Prydain a'r Iseldiroedd.
Ar doriad y wawr un bore, mae Jim yn gweld kamikaze defod tri peilot Siapaneaidd yn y maes awyr. Mae defodoliaeth y seremoni yn achosi iddo gael ei gymryd drosto gan emosiwn, mae'n dechrau canu emyn Cymreig "Suo Gân" a ganodd fel bachgen côr ifanc yn Shanghai.
Cast
golyguActor | Cymeriad |
---|---|
Christian Bale | James "Jamie" Graham |
John Malkovich | Basie |
Miranda Richardson | Mrs. Victor |
Nigel Havers | Dr. Rawlins |
Joe Pantoliano | Frank Demarest |
Leslie Phillips | Maxton |
Masatō Ibu | Sgt. Nagata |
Emily Richard | Mary Graham (Mam Jamie) |
Rupert Frazer | John Graham (Tad Jamie) |
Peter Gale | Mr. Victor |
Takatoro Kataoka | Kamikaze boy pilot |
Ben Stiller | Dainty |
David Neidorf | Tiptree |
Ralph Seymour | Cohen |
Robert Stephens | Mr. Lockwood |
Zhai Nai She | Yang |
Guts Ishimatsu | Sgt. Uchida |
Emma Piper | Amy Matthews |
James Walker | Mr. Radik |
Jack Dearlove | Carcharwr sy'n canu |
Anna Turner | Mrs. Gilmour |
Ann Castle | Mrs. Phillips |
Yvonne Gilan | Mrs. Lockwood |
Ralph Michael | Mr. Partridge |
Sybil Maas | Mrs. Hug |
Cyfarwyddwr
golyguGanwyd y cyfarwyddwr ffilm Steven Spielberg ar 18 Rhagfyr 1946 yn Cincinnati. Roedd yn fwyaf cynhyrchiol yn 1959 ac mae ganddi 4 ffilm a ystyrir yn nodedig yn fydeang. Derbyniodd ei addysg yn Arcadia High School.
Ymhlith y gwobrau mae wedi'u hennill y mae:
- KBE
- Cadlywydd Urdd y Coron
- Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen
- Gwobr Emmy 'Daytime'
- Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America
- Medal y Dyniaethau Cenedlaethol
- Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau
- Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau
- Gwobr yr Academi am Ffilm Orau
- Gwobr BAFTA am y Ffilm Orau
- Anrhydedd y Kennedy Center
- Gwobr Saturn am y Cyfarwyddwr Gorau
- Gwobr Golden Globe am Gyfarwyddwr Gorau
- Gwobr Saturn am y Cyfarwyddwr Gorau
- Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau
- Gwobr Saturn am y Cyfarwyddwr Gorau
- Gwobr Emmy Daytime am Rhaglen Blant Animeddiedig Eithriadol
- Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres[1]
- Gwobr Inkpot
- Officier de la Légion d'honneur
- Medal Rhyddid yr Arlywydd
- Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI
- Gwobr Heddwch y Cenhedloedd Unedig
- Gwobr Golden Globe
- Gwobr i'r Sgript Gorau (Gŵyl Ffilm Cannes)
- Gwobr César
- Y César Anrhydeddus
- Gwobr Saturn am y Cyfarwyddwr Gorau
- Urdd y Wên
- Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal
- Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias
- Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard[2]
- Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau
- Gwobr BAFTA am Gyfarwyddo Gorau
- Gwobr Eryr y Sgowtiaid Nodedig
- seren ar Rodfa Enwogion Hollywood
- Doctor honoris causa o Brifysgol Jagiellonian, Krakow
- Gwobr Golden Globe am Gyfarwyddwr Gorau[3]
Derbyniad
golyguRhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
- 6.8/10[4] (Rotten Tomatoes)
- 62/100
- 77% (Rotten Tomatoes)
.
Gweler hefyd
golyguCyhoeddodd Steven Spielberg nifer o ffilmiau gan gynnwys y canlynol:
Rhestr Wicidata:
Ffilm | Delwedd | Gwlad | Iaith wreiddiol | dyddiad |
---|---|---|---|---|
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull | Unol Daleithiau America | Saesneg Rwseg |
2008-05-21 | |
Indiana Jones and the Last Crusade | Unol Daleithiau America | Saesneg | 1989-01-01 | |
Indiana Jones and the Temple of Doom | Unol Daleithiau America | Saesneg | 1984-05-23 | |
Jaws | Unol Daleithiau America | Saesneg | 1975-01-01 | |
Jurassic Park | Unol Daleithiau America | Saesneg | 1993-01-01 | |
Munich | Unol Daleithiau America Ffrainc Canada |
Saesneg Hebraeg Almaeneg Arabeg Eidaleg Ffrangeg |
2005-01-01 | |
Raiders of the Lost Ark | Unol Daleithiau America | Saesneg | 1981-06-12 | |
Saving Private Ryan | Unol Daleithiau America | Saesneg | 1998-01-01 | |
Something Evil | Unol Daleithiau America | Saesneg | 1972-01-01 | |
The Lost World: Jurassic Park | Unol Daleithiau America | Saesneg | 1997-05-23 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.loc.gov/about/awards-and-honors/living-legends/steven-spielberg/.
- ↑ https://www.harvard.edu/on-campus/commencement/honorary-degrees. dyddiad cyrchiad: 2 Mai 2019.
- ↑ https://www.vanityfair.fr/ecrans/article/golden-globes-2023-palmares-complet.
- ↑ "Empire of the Sun". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd 5 Hydref 2021.