Emyr Edwards

Dramodydd, llenor a bardd

Dramodydd, llenor a bardd oedd Emyr Edwards (4 Gorffennaf 1931 – 5 Gorffennaf 2021).[1] Roedd yn fab i'r Prifardd J. M. Edwards. Treuliodd ei yrfa fel pennaeth yr Adran Ddrama yng Ngholeg Hyfforddi Morgannwg yn Y Barri ac yna ym Mholytechnig Cymru, Pontypridd. Bu'n gynhyrchydd am bedair blynedd yn nyddiau cynnar datblygiad S4C. Am gyfnod bu'n ddarlithydd ar gwrs Theatr Cerdd a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Emyr Edwards
Ganwyd4 Gorffennaf 1931 Edit this on Wikidata
Bu farw5 Gorffennaf 2021 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, athro, bardd, llenor
TadJenkin Morgan Edwards Edit this on Wikidata

Yn sylfaenydd Cwmni Theatr yr Urdd, roedd yn awdur toreithiog, gan gyhoeddi sawl llyfr ar theori'r actor, ynghyd â chyfansoddi dramâu a dramâu cerdd. Bu'n brif arholwr arholiad Drama Safon Uwch i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru am 25 mlynedd, cyn ymddiswyddo yn 2003 yn sgîl ymchwiliad i ymddygiad John A Owen yn Ysgol Rhydfelen[2].

Tra'n ddramodydd ifanc, sylwodd Emyr Edwards bod diffyg cyfleoedd ar gael i bobl ifanc ymddiddori mewn actio trwy gyfrwng y Gymraeg, a dyna sut y daeth y syniad o greu Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd. Fe aeth y cwmni ymlaen i sbarduno gyrfaoedd nifer o actorion a dramodwyr eraill fel Siân James, Stifyn Parri a Cefin Roberts.

Yn ogystal â chyhoeddi nifer o lyfrau canllaw ar gyfer actorion a chynhyrchwyr, fe gyhoeddodd Emyr gyfresi o ddramâu byrion, gan gynnwys Y Fodrwy a Dramâu Byrion Eraill. Bu hefyd yn gyfrifol am drosi dramâu i'r Gymraeg fel dwy o ddramâu Tennessee Williams Cab Chwant, ei drosiad o A Streetcar Named Desire a Pethe Brau, ei addasiad o The Glass Menagerie. Enillodd gystadleuaeth y ddrama fer dair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe gyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth sef Guernika a Cherddi Eraill ac yn addas iawn - Cerddi'r Theatr.

Enillodd ei dad, J.M. Edwards, Goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith yn 1937, 1941 ac 1944.

Bu farw ym mis Gorffennaf 2021 yn 90 oed, ychydig fisoedd ar ôl ei wraig, Cath, wedi salwch hir. Mae'n gadael un mab, Seth.[3][1]

Llyfryddiaeth

golygu
 
Cab Chwant - trosiad Emyr Edwards
 
Pethe Brau - Emyr Edwards

Gwreiddiol

golygu
  • Diwrnod Mawr ym Merthyr (1974)
  • Twm : drama wedi ei seilio ar anturiaethau Twm Sion Cati (1980)
  • The Inheritor (1984)
  • Beibl i Bawb (1988)
  • Cyffro ar y Costa (1989)
  • Cwlwm (1991)
  • Taffi a Chonffeti Ffair (1991)
  • S.L (1992)
  • Mewn Cadwyni (1992)
  • Branwen (1992)
  • Abertawe'n Fflam (1993)
  • Dan Bach Pontypridd (1993)
  • Bracchi (1996)
  • Nye (1997)
  • Byd islaw'r Bont (1998)
  • Anwylaf Maria Anwylaf Dietrich (1998)
  • Via Dolorosa (1999)
  • Dod i Ben (1999)
  • Antur Maes y Mynydd (1999)
  • Cyffro yn y Cwm (2000)
  • Yr Ynys (2002)
  • Tŷ o Gardiau (2004)
  • Y Cythreuliaid (2004)
  • Yng Nghysgod yr Eos (2005)
  • Gwreichion (2005)
  • Gwragedd Guernika (2006)
  • Apocalyps (2007)
  • Pris Cezanne (2007)
  • Yr Atig (2007)
  • Ymweliad yr Hen Derodactyl (2007)
  • Y Tu ôl i'r Llen (2007)
  • Y Fodrwy (2007)
  • Yr Hawl i fesur ei Hyd (2008)
  • Campau y Doctor Gwydion (2008)
  • Brwydr y Bais (2009)
  • Melltith yn y Marina (2009)
  • Adolff (2011)
  • Cwymp y Cedyrn (2011)
  • Cythraul Cystadlu (2011)
  • Bwlis (2011)
  • Wyneb yn Wyneb (2011)
  • Cerdd y Cyffro (2011)
  • Sŵn ym mrig y Morwydd (2011)
  • Y Storïwr a Dramâu Byrion Eraill (2013)

Addasiad / Trosiad / Cyfieithiad

golygu

Drama Gerdd

golygu
  • Jiwdas Iscariot (1979)
  • Penderyn (1982)
  • Senghenydd (1983) (drama gerdd)
  • Chicago (1985) (drama gerdd)
  • Merch Y Blodau (1985)
  • Y Bont (1985) (drama gerdd)
  • Trafferth Lawr Yn Tseina (1987)
  • Pasiant Y Peiriannau (1987) (drama gerdd)
  • Elfis (1988) (drama gerdd)
  • Kitch (1989)
  • Guernica (1992) (drama gerdd)
  • Trystan Ac Esyllt (opera roc gydag Euros Rhys Evans)

Cyfrolau o Ddramâu

golygu

Y Theatr

golygu
  • Llawlyfr Actio (1970)
  • Myth Into Drama (1979)
  • Theatr Y Cyfryngau (1979)
  • Llawlyfr Cynhyrchu (1980)
  • Llais O'r Llenni (1988)
  • Bertolt Brecht - Arfau I'r Actor Ifanc (2002)
  • Constantin Stanislavski - Arfau I'r Actor Ifanc (2002)
  • Jerzy Grotowski - Arfau I'r Actor Ifanc (2002)
  • Dyfeisio Theatr - Arfau I'r Actor Ifanc (2002)
  • Persbectif Theatr (2006)
  • Sut I Greu Drama Fer (2012)
  • Agor Llenni (2013)
  • Perfformio: Stori'r Perfformiwr Ar Lwyfan Y Theatr Gymraeg (2013)

Barddoniaeth

golygu

Amrywiol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Click here to view the tribute page for David Emyr EDWARDS". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-23.
  2. "BBC NEWS | Wales | Owen inquiry - examiner quits". newsimg.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-23.
  3. "Y dramodydd a'r llenor Emyr Edwards wedi marw yn 90 oed". BBC Cymru Fyw. 2021-07-06. Cyrchwyd 2024-08-23.
  4. "Gweithiau gwreiddiol, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-08-23.