Eos (asiantaeth hawliau darlledu)

Corff sy'n cynrychioli rhai cannoedd o gyfansoddwyr cerdd Cymraeg yw Eos. Ffurfiwyd gan fod yr aelodau'n anhapus â'r taliadau a gant drwy asiantaeth freindaliadau PRS (Performing Rights Society).[1]

Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
PencadlysCymru Edit this on Wikidata

Yn 2007 torrwyd ar y ffioedd i 15% yr oedd gan y PRS, sef oddeutu £110,000. Yn Ionawr 2007 cytunodd y BBC i godi'r ffi i dair gwaith y swm presennol ond gwrthododd Eos gan fynnu eu bont yn talu ffi "blanced".[2] Golyga hyn y byddai taliadau'r BBC yn nes at un filiwn o bunnoedd. Yn 2013 a chynt roedd cerddorion Cymraeg a Chymreig yn derbyn 42c y funud.

Yn ôl Eos mae'r BBC yn rhoi taliad flanced o tua £50 miliwn i PRS. Dywedodd llefarydd hefyd fod y £110,000 a gafodd cerddorion Cymraeg yn llai nag 1% o holl gyllideb Radio Cymru er bod cyfanswm yr amser y chwaraeir cerddoriaeth ar y sianel yn 40%.

CyfeiriadauGolygu

  1.  Eos. Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru. Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
  2. Golwg; cyfrol 25; rhif 17; Ionawr 10, 2013
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato