Bryn Saith Marchog
Pentref bach gwledig yn rhan deheuol Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, yw Bryn Saith Marchog( Bryn Saith Marchog ) (neu Brynsaithmarchog) - (cyfeiriad grid SJ078505). Saif ar lan ddwyreiniol Afon Clwyd gyferbyn â phentref Derwen, tua 5 milltir i'r gogledd o Gorwen. Mae ar yr A494.
Math |
pentrefan ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad |
![]() |
Gerllaw |
Afon Clwyd ![]() |
Cyfesurynnau |
53.040278°N 3.379167°W ![]() |
![]() | |
Cyfeirir at Fryn Saith Marchog yng Nghainc Gyntaf y Mabinogi, chwedl Branwen ferch Llŷr. Cyfeiriad onomastig i esbonio enw lle ydyw. Pan â Bendigeidfran i Iwerddon mae'n gadael saith tywysog a'u saith marchog i warchod Ynys Prydain. Nid enwir y marchogion ond ceir cyfeiriad at y lle:
- Yn Edeirn[i]on yd edewit y gwyr hynny, ac o achaws hynny y dodet Seith Marchawc ar y dref.[1]

Mae Ifor Williams yn nodi, gan ddilyn awgrym yr Athro Joseph Loth, fod 'seith/saith' yn gallu golygu "sant" mewn Cymraeg Canol. Mae'n bosibl felly mai "Bryn Sant Marchog" a olygid yn wreiddiol (ceir enghreifftiau o'r enw 'Sadwrn Farchog' am Sant Sadwrn hefyd).[2]
Pobl o Fryn Saith MarchogGolygu
- Eric Jones - dringwr
CyfeiriadauGolygu
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prestatyn · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion