Hermon, Ynys Môn

pentref ar Ynys Môn

Pentref bychan yng nghymuned Bodorgan, Ynys Môn, yw Hermon[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Enwir y pentref ar ôl y mynydd sanctaidd yn y Beibl, Mynydd Hermon. Milltir i'r gogledd o Hermon ceir pentref bychan arall ag enw Beiblaidd, sef Bethel. Mae yng nghymuned Bodorgan.

Hermon
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1936°N 4.4114°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH391688 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Hermon (gwahaniaethu).

Lleolir Hermon ar ochr orllewinol Ynys Môn tua hanner milltir i'r dwyrain o bentref Llangadwaladr, ar ffordd yr A4080 rhwng Aberffraw i'r gorllewin a Malltraeth i'r dwyrain. Milltir i'r de ceir traeth y Malltraeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato