Euskal Herria Bildu

Ffederasiwn o bleidiau asgell-chwith cenedlaetholgar yng Ngwlad y Basg yw Euskal Herria Bildu neu EH Bildu. Dechreuodd fel clymblaid yn 2012, gan fabwysiadu strwythur ffederasiwn yn 2017. Mae tri phlaid yn rhan ohoni bellach: Eusko Alkartasuna Sortu, ac Alternatiba.

Euskal Herria Bildu
Math o gyfrwngplaid wleidyddol yng Ngwlad y Basg, clymblaid, plaid fawr Edit this on Wikidata
IdiolegAsgell chwith Abertzale, Cenedlaetholdeb Basgaidd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2012 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSortu, Eusko Alkartasuna, Alternatiba, Aralar Party Edit this on Wikidata
RhagflaenyddBildu, Amaiur Edit this on Wikidata
PencadlysBilbo Edit this on Wikidata
Enw brodorolEuskal Herria Bildu Edit this on Wikidata
GwladwriaethSbaen Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.ehbildu.eus/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pleidiau o fewn y ffederasiwn

golygu

Eusko Alkartasuna

golygu

Plaid ar y ganol-chwith y sbectrwm gwleidyddol sy'n arddel democratiaeth gymdeithasol a cenedlaetholdeb Basgaidd. Ymrannodd y blaid hon o Blaid Genedlaethol Gwlad y Basg (EAJ) yn yr 1980au. Ymunodd â chlymblaid Bildu gyda phleidiau mwy radical yn 2011, a ffurfiasant EH Bildu yn 2012.

Plaid radical asgell chwith o blaid annibyniaeth yw Sortu, sy'n rhyw fath o etifedd i bleidiau megis Herri Batasuna, Euskal Herritarrok a Batasuna (a wnaed yn anghyfreithlon gan wladwriaeth Sbaen yn 2003). Yn wahanol i'w rhagflaenwyr, roedd Sortu o'r dechrau'n deg yn dweud y dylai ETA ddod â'r brwydro arfog i ben. Ffurfiwyd Sortu yn 2011, felly doedd ganddi ddim hanes fel plaid y tu allan i gynghrair Bildu.

Alternatiba

golygu

Plaid wrth-gyfalafol werdd gymharol fach yw Alternatiba, sydd hefyd yn rhan o Bildu ers y dechrau.

Aralar

golygu

Crewyd plaid Aralar yn 2001 wrth i garfan ymwahanu oddi wrth Euskal Herritarok (sef rhagflaenydd Batasuna), carfan oedd am i ETA ymwrthod â brwydro arfog ynghynt. Daeth Aralar i ben yn 2017, felly nid ydynt yn rhan o ffederasiwn EH Bildu bellach.

Cynrychiolaeth

golygu

Yn etholiad 2024 Senedd Euskadi, sy'n llywodraethu Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, derbyniodd EH Bildu 32% o'r bleidlais ac maent yn dal 27 o blith 75 sedd y senedd.

Yn etholiad 2023 Senedd Nafarroa, sy'n llywodraethu talaith Nafarroa Garaia sy'n rhan o Wlad y Basg ond nid yn rhan o'r Gymuned Ymreolaethol, derbyniodd EH Bildu 17% o'r bleidlais ac maent yn dal 9 o 50 sedd y senedd.

Mae ganddynt 6 aelod yn Senedd (Congreso de los Diputados) Sbaen (ers etholiad 2023), ac un aelod yn Senedd Ewrop (ers etholiad 2024).