Senedd Euskadi

senedd dros 3 talaith Cymuned Ymeraethol Gwlad y Basg (o'r 7 talaith hanesyddol)

Senedd Euskadi, hefyd Senedd Gwlad y Basg (Basgeg: Eusko Legebiltzarra, Sbaeneg: Parlamento Vasco) yw corff deddfwriaethol Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yn Sbaen a'r cynulliad etholedig y mae Llywodraeth Gwlad y Basg yn gyfrifol amdano.

Basque Parliament
Eusko Legebiltzarra
Parlamento Vasco
12fed Senedd Basgaidd
[[file:Basque Parliament logo.png|250px|upright|alt=Coat of arms or logo]]
Gwybodaeth gyffredinol
MathUnsiambraeth
Arweinyddiaeth
ArlywyddionBakartxo Tejeria, Plaid Genedlaethol Basgaidd (EAJ/PNV)
ers 20 Tachwedd 2012
Vice PresidentTxarli Prieto, PSE–EE
ers 3 Awst 2020
Second Vice PresidentEva Blanco, EH Bildu
ers 21 October 2016
SecretaryIñigo Iturrate, EAJ/PNV
ers 21 October 2016
Vice SecretaryGustavo Angulo, EP–EA
ers 3 August 2020
Cyfansoddiad
Aelodau75
Parlamento Vasco 2020.svg
Grwpiau gwleidyddolGovernment (41)

Opposition (34)

Etholiadau
System bleidleisioClosed party lists in three 25-seat constituencies, with seats allocated using the Dull D'Hondt
Etholiad diwethaf12 July 2020
Man cyfarfod
Parlamento Vasco.jpg
Vitoria-Gasteiz, Araba
Gwefan
Website
Senedd-dŷ Gwlad y Basg, Eusko Legebiltzarra

Cyd-destunGolygu

Dylid nodi nad yw'r senedd yn gyfrifol am 3 talaith y Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (a elwir yn aml yn Euskadi) ac nid am holl daleithiau hanesyddol - saith talaith - Gwlad y Basg. Mae gan talaith Nagarroa Garaia senedd ei hun gyda grymoedd tebyg. Mae'r 3 dalaith sy'n rhan o wladwriaeth Ffrainc a elwir yn aml yn Basgeg yn Iparralde (Gogledd); Lapurdi, Nafarroa Beherea, Zuberoa wedi eu llyncu oddi fewn i département fwy Pyrénées-Atlantiques (yn fwriadol i danseilio eu hunaniaeth, er bod ymgyrch oesol dros greu departement benodol Basgaidd).

LleoliadGolygu

Mae’r Senedd yn cyfarfod ym mhrifddinas Gwlad y Basg, Vitoria-Gasteiz, er y cynhaliwyd sesiwn gyntaf y cynulliad modern, fel y’i cyfansoddwyd gan Statud Ymreolaeth Gwlad y Basg, yn Gernika – canolfan symbolaidd rhyddid Gwlad y Basg – ar 31 Mawrth 1980.[1] Yn ddiweddarach yn 1980 dechreuodd gyfarfod ar safle Cyngor Álava. Ym 1982, cafodd ei safle ei hun mewn hen ysgol uwchradd. Cerflun derw gan Nestor Basterretxea yw symbol y Senedd sy'n cynrychioli coeden arddull, cyfeiriad at draddodiad cynulliadau gwleidyddol Gwlad y Basg yn cyfarfod o dan goeden, fel yn Gernika. Bu gobaith, ac efallai dyheuad o hyd, mai yn Iruňa (Pamplona), prifddinas Nafar ac, yn hanesyddol, yr unig wladwriaeth Basgaidd a fodolai hyd y cyfnod modern, y lleolir y senedd-dŷ rhyw ddydd mewn Euskal Herria unedig.

Ceir cerflun gan y cerflunydd Basgeg enwog, Néstor Basterretxea tu ôl podiwm y Senedd. Mae'r cerflun yn ddarlun symbolaidd o goeden Gernika lle, yn hanesyddol, byddai'r Basgiaid yn cwrdd i lunio eu cyfreithiau. Mae gan y goeden symbolaidd yma saith cangen sy'n symbol o'r saith dalaith Basgeg.

HanesGolygu

Yr oedd creu Senedd Fasgaidd wedi ei nodi yn Statud Ymreaolaeth Gwlad y Basg 1936, ond yr oedd union ddeinameg y Rhyfel Cartref Sbaen a'r cyfnod byr y bu mewn grym — naw mis— yn ei gwneud yn amhosibl ei rhoi ar waith.

Ganed Senedd Gwlad y Basg ar ôl cymeradwyo Statud Ymreolaeth Gwlad y Basg 1979 a chynhaliodd ei sesiwn gyntaf yn Nhŷ Cynulliad hanesyddol y Gernika ar 31 Mawrth 1980 wrth ymyl y goeden Gernika, sy'n symbol o siarteri a hawliau cyfreithiol Gwlad y Basg a lle urddir prif weinidogion (Lehendakari) Llywodraeth Gwlad y Basg yn ei chysgod.

Ei ail leoliad oedd Palas Cyngor Taleithiol Bizkaia, yn Bilbo, a'i drydydd lleoliad dros dro oedd adeilad Cynulliad Gyffredinol Álava, yn Vitoria-Gasteiz, a leolir ychydig fetrau o hen Sefydliad Ramiro de Maeztu, ei leoliad diffiniol ers 1 Chwefror 1982. Adnewyddwyd yr adeilad hwn o'r 19g gan y penseiri José Erbina a Julio Herrero. Yn ogystal, yn 2000 ehangwyd ei gyfleusterau gweinyddol trwy gaffael adeilad cyfagos sydd wedi'i gysylltu gan dwnnel tanddaearol.[2]

AelodaethGolygu

Mae'n cynnwys saith deg pump o ddirprwyon sy'n cynrychioli dinasyddion o dair talaith cymuned ymreolaethol Gwlad y Basg (a elwir yn Euskadi ar lafar ac yn swyddogol). Mae pob talaith (Araba, Gipuzkoa a Bizkaia) yn ethol yr un nifer o ddirprwyon, er bod ganddynt lefelau gwahanol iawn o boblogaeth. Dewiswyd hyn i ennill cefnogaeth Araba a Nafar, tiriogaethau llai poblog. Eto i gyd, ni ymunodd Nafarrroa â'r gymuned ymreolaethol.

Dull etholGolygu

 
yr Izaro, coeden dderwen symbolaidd sydd gyda'i 7 cangen yn cynrychioli saith talaith Gwlad y Basg, gan y cerflunydd enwog, Néstor Basterretxea, yn y senedd-dŷ

Mae'r senedd yn senedd yn un sy'n dilyn model unsiambraeth.

Cynhelir yr etholiadau gan ddefnyddio cynrychiolaeth gyfrannol rhestr gaeedig gyda seddau'n cael eu dyrannu ar sail Daleithiol gan ddefnyddio dull dyrannu D'Hondt. I fod yn gymwys ar gyfer seddi mewn talaith benodol, rhaid i restrau etholiadol dderbyn o leiaf 3% o'r pleidleisiau a fwriwyd yn y dalaith honno, gan gynnwys pleidleisiau "en blanco" ar gyfer "dim un o'r uchod." Rhwng 1984 a 2001, y trothwy etholiad oedd 5% ym mhob talaith. Cynhelir sesiynau Senedd Gwlad y Basg yn Fasgeg a Sbaeneg, gyda gwasanaethau cyfieithu.

Mae’r Senedd yn cynnwys 75 o ddirprwyon a etholwyd gan bleidlais gyffredinol i oedolion o dan system o gynrychiolaeth gyfrannol.

Aelodaeth gyfredol (etholiad 2020)Golygu

Wedi'r etholiad ddiwethaf, a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2020, cadwyd y canlyniad isod o'r seddi:[3]

  • Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg (EAJ-PNV): 31 o seneddwyr (39.12% o'r bleidlais)
  • Euskal Herria Bildu (EH Bildu): 21 o seneddwyr (27.84% o'r bleidlais)
  • Plaid Sosialaidd Gwlad y Basg-Chwith Gwlad y Basg (PSE-EE / PSOE): 10 o seneddwyr (13.64% o'r bleidlais)
  • Elkarrekin Podemos / Podemos-Izquierda Unida (Podemos-IU): 6 o seneddwyr (8.03% o'r bleidlais)
  • Partido Popular]] + Ciudadanos (PP+Cs): 6 o seneddwyr (6.75% o'r bleidlais)
  • Vox (Vox): 1 seneddwr (1.96% o'r bleidlais)
 
Antiguo Instituto Ramiro de Maeztu

CyfeiriadauGolygu

  1. Parlamento Vasco - Servicios > Conócenos > La sede Archifwyd 2012-09-06 yn Archive.is Nodyn:In lang
  2. Rioja Andueza, Iker (30 Mawrth 2015). "Puertas abiertas en el Parlamento". El Mundo.
  3. Bello, Carlos Medina (2020-07-12). "12J: Urkullu gana en el País Vasco y Feijoó suma su cuarta mayoría absoluta en Galicia". espanadiario.net (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2020-07-14.

Dolenni allanolGolygu