Euskara Batua

Fersiwn o'r iaith Fasgeg, wedi'i greu i siaradwyr deall ei gilydd yn well

Mae Euskara Batua (Basgeg Unedig) yn fersiwn o Euskara (yr iaith Fasgeg), wedi'i greu'n bwrpasol er mwyn i siaradwyr yr iaith o wahanol ardaloedd ddeall ei gilydd yn well, ac i'w defnyddio ar gyfer ysgrifennu a darllen. Lluniwyd canllawiau ar gyfer geirfa, gramadeg a sillafu.

Euskara Batua
Enghraifft o'r canlynolamrywiaeth, iaith safonol Edit this on Wikidata
MathBasgeg Edit this on Wikidata
Papur dyddiol Berria (2019)
Silffoedd llyfrau Basgeg mewn siop lyfrau yn ninas Donostia

Ers y 1970au mae Euskara Batua wedi cael ei ddefnyddio fel elfen bwysig wrth i'r iaith Fasgeg ennill lle yn y system addysg, ac mewn darlledu, cyhoeddi, busnes a llywodraeth gyda nifer y siaradwyr yn cynyddu. Yn yr 21ain ganrif, mae bron pob testun Basgeg yn cael ei gyhoeddi yn Euskara Batua, hynny yw, testunau gweinyddol, gwerslyfrau addysg, cyhoeddiadau cyfryngau, testunau llenyddol, ac ati.[1][2][3][4][5]

Rhaniadau iaith a gwlad

golygu

Yn hanesyddol mae Gwlad y Basg wedi'i rhannu rhwng Ffrainc a Sbaen, gyda mynyddoedd y Pyreneau hefyd yn rhannu ardaloedd y wlad. Roedd llawer o siaradwyr Basgeg heb fawr o gysylltiad gyda siaradwyr o ardaloedd eraill a datblygodd y tafodieithoedd yn dra gwahanol i'w gilydd. Sbaeneg a Ffrangeg oedd unig ieithoedd y system addysg, ac roedd y Fasgeg wedi'i gwahardd. Prin oedd nifer y Basgwyr oedd y gallu ysgrifennu a darllen yr iaith.

Cafodd Euskara Batua ei ddyfeisio gan gefnogwyr yr iaith ar ddiwedd y 1960au a ddechrau'r 1970au, cyfnod ar ddiwedd unbennaeth Ffasgaidd Sbaen. Eu gobaith oedd adfywio'r iaith a'i gwneud yn iaith pob maes o fywyd y wlad wrth i'r mesurau gormesol cael eu llacio.

Yn 1979 rhoddwyd peth hunanlywodraeth i ran o ochr deheuol y Wlad gan lywodraeth Sbaen gan warantu statws swyddogol i'r iaith Fasgeg. Sefydlwyd canolfannau i oedolion dysgu'r iaith (Euskaltegi), ysgolion iaith Fasgeg, a dechreuodd awdurdodau lleol a busnesau ddefnyddio'r iaith. Sefydlwyd sianeli teledu EiTB, gorsaf radio Euskadi Irratia a phapurau newydd. Ond yng ngogledd Gwlad y Basg, ar ochr Ffrainc, mae'r iaith yn parhau i fod heb ei chydnabod yn llawn, a Ffrangeg yw'r unig iaith swyddogol.

Seiliwyd Euskara Batua yn bennaf ar dafodieithoedd yr ardaloedd canolog (Gipuzkoa a Lapurdi). Mae Euskara Batua yn cael ei defnyddio erbyn hyn mewn addysg, o'r ysgol gynradd i'r brifysgol, ar y teledu a'r radio, ac yn y mwyafrif o'r holl gynnyrch ysgrifenedig yn y Fasgeg. Mae siaradwyr newydd, sydd wedi dysgu'r Fasgeg fel ail iaith, yn dueddol o ddefnydio Batua, yn enwedig yn y dinasoedd. Yng nghefn gwlad mae siaradwyr oedrannus yn aml yn dal wrth y tafodieithoedd naturiol.

Cyfarfod i greu

golygu
 
Aelodau Cyngres Arantzazu
 
Llawysgrif bachgen a gafodd ei gosbi am siarad Basgeg yn y 1960au: "En la escuela no tengo que hablar vasco" sef 'Wna i ddim siarad Basgeg eto yn yr ysgol', yn Sbaeneg.

Crëwyd Euskara Batua yn y 1970au gan yr Euskaltzaindia (Academi'r Iaith Fasgeg), yn seiliedig yn bennaf ar dafodieithoedd canolog y Fasgeg ac ar y traddodiad ysgrifenedig. Ar ôl cael ei ormesu ers canrifoedd gan awdurdodau Sbaen a Ffrainc, ac yn enwedig o dan reolaeth Franco pan gwaharddwyd yr iaith Fasgeg gan arwain at leihad sylweddol yn nifer y siaradwyr, roedd yr Academi yn teimlo'r angen i greu math unedig o Fasgeg, fel bod gan yr iaith fwy o siawns i fyw.

Cynhaliwyd Cyngres Arantzazu yn 1968 mewn mynachdy, lle gosodwyd y canllawiau sylfaenol ar gyfer geirfa, gramadeg a sillafu. Cymerwyd cam pellach ym 1972 gyda chynnig i safoni rhediad berfol yr iaith.

Er i ddadleuon codi ynglŷn â llunio set newydd o reolau iaith safonol (1968-1976) cafodd Euskara Batua ei derbyn fwyfwy fel iaith safonol y Fasgeg mewn addysgu, y cyfryngau, a gweinyddiaeth (1976 -1983).[6]

Gwrthwynebiad

golygu

Mae rhai awduron neu gyfieithwyr Basgeg fel Matías Múgica yn teimlo bod Batua yn gweithio fel pidgin yn unig, gan golli ansawdd ieithyddol o gymharu â'r tafodieithoedd traddodiadol.

Mae Euskara Batua wedi cael ei ddisgrifio fel "iaith artiffisial" gan ei beirniaid. Math o Esperanto wedi'i blastro, ac ar adegau prin ei fod yn ddealladwy i'r ddwy ochr gyda'r tafodieithoedd ar yr eithafion (sef yr un mwyaf gorllewinol neu Bizkaia a'r un mwyaf dwyreiniol neu Zuberoa). Ar ben hynny, mae puryddion Basgaidd (fel Oskillaso a Matías Múgica) wedi dadlau y bydd Euskara Batua yn lladd y Fasgeg hanesyddol go iawn. Mae eraill yn dadlau bod Euskara Batua wedi diogelu dyfodol iaith sy'n cystadlu â Ffrangeg a Sbaeneg.[7][8]

Seilio ar y dafodiaith ganolig

golygu
 
Tafodieithoedd Basgeg, yn ôl ardal yr 21ain ganrif gan Koldo Zuazo

Yn ôl yr ieithydd Koldo Zuazo y rhesymau dros seilio'r Euskara Batua ar y dafodiaith ganolog Gipuzkoa oedd:[9]

Ieithyddol: mae'r dafodiaith ganolog fel 'croesffordd' i'r iaith. Mae'r dafodiaith fwyaf gorllewinol, yn Bizkaia, yn anodd ei deall i siaradwyr tafodieithoedd eraill; ac mae'r un peth yn digwydd gyda'r dafodiaith fwyaf dwyreiniol yn Zuberoa.

Demograffeg: yn 1968, yr ardal ganolog a'r ardal orllewinol oedd lle roedd y rhan fwyaf o siaradwyr Basgeg yn byw.

Cymdeithaseg: ers y 18fed ganrif, mae bri ar y dafodiaith ganolog.

Economaidd a diwylliannol: Bilbo yn sicr yw'r ddinas Basgaidd bwysicaf, ond nid yw'n ddinas Basgeg ei hiaith.

Dywedodd Koldo Zuazo (ysgolhaig a chefnogwr tafodieithoedd Basgeg) "gan ystyried yr holl nodweddion yma, dwi'n meddwl ei bod yn deg ac yn synhwyrol i seilio Euskara Batua ar dafodiaith ganolog y Fasgeg, ac yn siŵr - dyna'r rheswm i Batua fod mor llwyddiannus".

Manteision Euskara Batua

golygu

Yn ôl Koldo Zuazo, mae Euskara Batua wedi'u rhoi chwe phrif fantais i'r iaith Fasgeg:

  • Mae siaradwyr Basgeg yn gallu deall ei gilydd yn hawdd pan maen nhw'n defnyddio Euskara Batua. Mae problemau deall yn codi wrth ddefnyddio tafodieithoedd traddodiadol, yn arbennig rhwng siaradwyr tafodieithoedd o ardaloedd sy'n bell oddi wrth ei gilydd.
  • Cyn creu Euskara Batua, roedd yn rhaid i siaradwyr Basgeg ddefnyddio Sbaeneg neu Ffrangeg i drafod pynciau gwaith modern.
  • Mae Euskara Batua wedi galluogi mwy o oedolion nag erioed i ddysgu'r iaith Fasgeg.
  • Mae ystod daearyddol yr iaith Fasgeg wedi bod yn lleihau ers canrifoedd. Mae hen fapiau yn dangos bod Basgeg gynt yn cael ei siarad mewn ardal llawer fwy na heddiw. Fodd bynnag, nawr, diolch i'r Euskaltegi a'r Ikastola, ysgolion cynradd, uwchradd a phrifysgolion sy'n dysgu Euskara Batua, mae'r ardal sy'n siarad Basgeg yn ehangu o'r newydd, gan fod siaradwyr Basgeg bellach i'w cael ymhob rhan o Wlad y Basg a thu hwnt.
  • Mae Euskara Batua wedi rhoi bri i'r Fasgeg oherwydd mae modd ei defnyddio mewn lefel uchel o gymdeithas bellach.
  • Mae siaradwyr Basgeg yn fwy unedig: ers i Euskara Batua gael ei greu, mae ffiniau mewnol yr iaith hefyd wedi'u torri, ac mae'r teimlad o fod yn gymuned yn fwy byw. Gyda chymuned siaradwyr cryfach, mae'r iaith Fasgeg yn dod yn gryfach.

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hualde, José Ignacio; Zuazo, Koldo (2007). "The standardization of the Basque language" (yn en). Language Problems and Language Planning 31 (2): 142–168. doi:10.1075/lplp.31.2.04hua. ISSN 0272-2690. https://www.researchgate.net/publication/233647140.
  2. "EITB Euskal Irrati Telebista". EITB Euskal Irrati Telebista (yn Basgeg). Cyrchwyd 2021-04-14.
  3. "ARGIA Kazetaritza independientea. Txikitik eragiten". Argia. Cyrchwyd 2021-04-14.
  4. Berria.eus. "Berria - Euskal Herriko euskarazko egunkaria". Berria (yn Basgeg). Cyrchwyd 2021-04-14.
  5. "Iparraldeko Hitza.eus" (yn Basgeg). Cyrchwyd 2021-04-14.
  6. Trask, R. L. (1997). The history of Basque (yn Saesneg). Llundain: Routledge. ISBN 0-415-13116-2. OCLC 34514667.
  7. "Euskeranto" yw gair "portmanteau" o "Euskera" ac "Esperanto", iaith adeiledig sy'n cymryd geirfa o nifer o ieithoedd Ewropeaidd.La politisation des langues régionales en France Nodyn:In lang, Hérodote, Philippe Blanchet, t. 29, 2002/2 (N°105)
  8. Múgica, José Ignacio (1982-05-01). "El euskañol o el euskeranto" [Euskañol or euskeranto]. ABC (Madrid) (yn Sbaeneg). t. 19.
  9. Zuazo, Koldo (2008). Euskara normaltzeko bideak (PDF). Euskalgintza XXI. Mendeari Buruz. Euskaltzaindiaren nazioarteko XV. Biltzarra (yn Basque). Euskaltzaindia. tt. 3–13.CS1 maint: unrecognized language (link)