Ffeuen goffi
Hedyn y planhigyn coffi yw ffeuen goffi a ffynhonnell ar gyfer coffi. Dyna'r garreg o fewn i'r ffrwyth coch neu borffor sy'n aml yn cael ei gyfeirio ato fel ceiriosen. Yn union fel ceirios cyffredin, mae'r ffrwyth coffi hefyd yn ffrwyth caregog. Er mai hadau yw ffa coffi, maen nhw'n cael eu cyfeirio atynt fel 'ffa' am eu bod yn edrych yn debyg i ffa go iawn. Mae'r ffrwythau – ceirios coffi neu fwyar coffi – fel arfer yn cynnwys dwy garreg gyda'u hymylon fflat yn erbyn ei gilydd. Mae canran fechan o geirios yn cynnwys un hedyn, yn hytrach na'r ddau arferol. Gelwir rhain yn "pysrawn". Ceir pysrawn mewn 10 i 15% o ffrwythau yn unig, ac mae yna gred gyffredin (heb ei phrofi'n wyddonol) bod mwy o flas arnynt nag sydd ar ffa coffi arferol.[1] Fel cnau Brasil (hedyn) a reis gwyn, mae ffa coffi yn cynnwys endosberm yn bennaf.[2]
Y ddau fath pwysicaf o blanhigyn coffi o safbwynt economaidd yw'r Arabica a'r Robusta; mae tua ~60% o'r coffi sy'n cael ei gynhyrchu yn Arabica a ~40% yn Robusta.[3] Mae ffa Arabica yn cynnwys 0.8–1.4% o gaffein a ffa Robusta yn cynnwys 1.7–4% o gaffein.[4] Gan fod coffi yn un o'r diodydd sy'n cael ei yfed fwyaf o yn y byd, mae ffa coffi yn gnwd gwerthfawr ac yn gynnyrch allforio pwysig. Mae coffi yn dad a thros 50% o enillion trwy gyfnewid tramor i rai gwledydd sy'n datblygu.[5]
Hanes
golyguYn ôl chwedloniaeth, cafodd coffi ei ddarganfod yn Ethiopia gan fugail geifr o'r enw Kaldi.
- Dyddiadau arwyddocaol
- Cafodd y planhigyn coffi cyntaf ei ddarganfod ym mynyddoedd Yemen. Erbyn 1500, roedd yn cael ei allforio i weddill y byd o borthladd Mocha, Yemen.
- Amaethu cyntaf yn India (Chikmagalur) – 1600
- Amaethu cyntaf yn Ewrop (hefyd yr amaethu cyntaf y tu allan i ddwyrain Affrica/Arabia) – 1616
- Amaethu cyntaf yn Java – 1699
- Amaethu cyntaf yn y Caribi (Ciwba, Hispaniola (Haiti and the Gweriniaeth Dominica), Jamaica, Puerto Rico) – 1715–1730
- Amaethu cyntaf yn Ne America – 1730
- Amaethu cyntaf yn India'r Dwyrain Iseldiraidd – 1720
- Y planhigion yn cael eu cyflwyno i'r Americas am y tro cyntaf o gwmpas 1723.
- Ffa wedi'u rhostio yn cael eu gwerthu mewn marchnad arwerthu (Pittsburgh) – 1865
- Datblygu dulliau pwysig o sychu trwy chwistrellu yn y 1950au
- Dosbarthiad
Mae De Amercia bellach yn gyfrifol am tua 45% o holl allforion coffi y byd. Mae'r rhan fwyaf o'r coffi yma yn cael ei dyfu yn Brasil.
Mae'r Unol Daleithiau yn mewnforio mwy o goffi gan unrhyw genedl arall.[6] Yn ôl ystadegau a gasglwyd yn 2011, roedd 4.24 kg (9 pwys) o goffi yn cael ei yfed gan bob person ar gyfartaledd, ac roedd gwerth y coffi oedd yn cael ei fewnforio dros $8 biliwn.[7] Yn 2015, roedd Americaniaid yn yfed tua 400 miliwn o gwpanau o goffi y dydd, mwy nag unrhyw wlad arall yn y byd.[8]
Mae planhigion coffi yn tyfu mewn ardal benodol rhwng trofannau Cancr a Capricorn sy'n cael ei galw yn y llain ffa neu'r llain goffi.[9][10][11][12]
Etymoleg
golyguMae'r Oxford English Dictionary yn awgrymu bod ieithoedd Ewropeaidd wedi cael yr enw o'r gair Tyrceg kahveh, o gwmpas y flwyddyn 1600, efallai trwy'r Eidaleg caffè. Arabeg qahwah, sy'n cael ei ynganu fel kahveh mewn Tyrceg, sef yr enw ar y trwyth neu ddiod; a oedd yn ôl geiriadurwyr Arabaidd yn wreiddiol yn golygu "gwin" neu fath o win, ac yn deillio o wraidd y ferf qahiya "i beidio a chael archwaeth." Theori arall gyffredin yw bod yr enw yn deillio o Dalaith Kaffa, Ethiopia, ble gallai'r rhywogaeth fod wedi tarddu.[13]
Planhigyn coffi
golyguMae coeden goffi tua 5-10 medr (16-33 troedfedd) o uchedr ar gyfartaledd. Gydag amser, mae'n canghennu llai a llai ac yn deilio ac yn dwyn mwy o ffrwyth.
Mae planhigion coffi yn cael eu tyfu mewn rhesi sawl troedfedd ar wahan. Mae rhai ffermwyr yn plannu cored ffrwythau o'u cwmpas neu'n plannu'r coffi ar lethrau bryniau, gan eu bod yn tyfu dan amodau penodol. Yn ddelfrydol, mae ffa Arabica yn cael eu tyfu mewn tymheredd rhwng 15 a 24 °C (59 a 75 °F) a'r Robusta rhwng 24-30 °C (75-86 °F) ac yn derbyn rhwng 15 a 30 centimedr (5.9 a 11.8 modfedd) o law y flwyddyn.[14] Mae angen glaw trwm ar ddechrau'r tymor pan mae'r ffrwyth yn datblygu a llai yn ddiweddarach yn y tymor wrth iddo aeddfedu.
Diod Coffi
golyguCaiff y ffeien goddi ei malu i greu coffi mâl ar gyfer gwahanol fathau o ddiodydd coffi. Ymysg y ffordd mwyaf poblogaidd mewn tai coffi neu Caffe bellach yw amrywiadau ar baneidiau coffi sy'n seiliedig ar goffi Espresso. Mae'r espresso yn cael ei chynyrchu gan peiriant espresso benodol sy'n creu coffi mâl, ac yna'n hidlo dŵr berw i greu hylid, crema, cryf, bron â gwaead triogl neu sudd. Caiff gwahanol amrywiaethau o ddŵr, llaeth neu powdr coco ei hychwanegu i greu gwahanol fathau o ddiodydd yn seiliedig ar yr espresso, megis Cappuccino, Caffè mocha ag ati.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Peaberry Coffee Beans: Speciality Coffee Drinkers Guide". ilovebuttercoffee.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-12. Cyrchwyd 1 Dec 2016.
- ↑ "Arabica and Robusta Coffee Plant". Coffee Research Institute. Cyrchwyd 25 August 2011.
- ↑ "Coffee: World Markets and Trade" (PDF). United States Department of Agriculture - Foreign Agricultural Service. June 16, 2017. Cyrchwyd December 8, 2017.
- ↑ "Botanical Aspects". International Coffee Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 October 2011. Cyrchwyd 25 August 2011. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "The Story of Coffee". International Coffee Organization. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 October 2011. Cyrchwyd 25 August 2011. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Monthly Coffee Market Report" (PDF). International Coffee Organization. July 2011. t. 7. Cyrchwyd 24 August 2011.
- ↑ "United States of America Country Datasheet" (PDF). International Coffee Organization. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 16 January 2013. Cyrchwyd 24 August 2013. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Coffee Statistics 2015". E-Imports. Cyrchwyd 15 February 2016.
- ↑ Klos, Beth. "The Coffee Bean – Not a Fiend". www.brighamandwomens.org. Cyrchwyd 16 February 2017.
- ↑ Soin, Eija (September 2005). "Land use change patterns and livelihood dynamics on the slopes of Mt. Kilimanjaro, Tanzania". Agricultural Systems 85 (3): 306–323. doi:10.1016/j.agsy.2005.06.013.
- ↑ Lamb HH (1977). Climate: present, past and future. 2. t. 681. ISBN 0-06-473881-7.
- ↑ Sevey, Glenn C. (1907). Bean Culture: A Practical Treatise on the Production and Marketing of Beans. Orange Judd Company. ASIN B000863SS2.
- ↑ Richard M. Souza, 2008, Plant-Parasitic Nematodes of Coffee, p. 3.
- ↑ "Major coffee producers". National Geographic. 2015. Cyrchwyd 25 September 2015.