Ffilm gomedi ramantus
Is-genre o ffilm sy'n cyfuno comedi a rhamant yw ffilm gomedi ramantus. Datblygodd yn gynnar yn hanes ffilm, fel addasiad o'r gomedi ramantus theatraidd.
Poster y ffilm gomedi ramantus Americanaidd Too Many Husbands (1940). | |
Enghraifft o'r canlynol | genre mewn ffilm |
---|---|
Math | comedi ramantus, ffilm ramantus, ffilm gomedi |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Unol Daleithiau America
golyguYn hanes ffilm yn Unol Daleithiau America, gellir rhannu ffilmiau comedi ramantus yn bedair math: y "wir" gomedi ramantus, y ffars, y gomedi screwball, a'r stori am berthynas.[1]
Bu comedi isel a chorfforol, megis slapstic, yn addas ar gyfer ffilm fud, ac felly'r ffars oedd y ffurf gyffredin ar ffilm gomedi ramantus yn ystod oes gynnar y sinema. Dylanwadwyd ar y ffilmiau hyn gan ddigrifwch bras vaudeville a'r neuadd gerdd a oedd mor boblogaidd ar y pryd, a bu nifer ohonynt yn ymwneud ag ysgariad ac ailbriodi. Yn yr Unol Daleithiau America, nid oedd unrhyw sensoriaeth ar y diwydiant ffilm, ac felly roedd nifer o ffilmiau comedi ramantus cynnar Hollywood yn ymwneud â rhyw. Cyflwynwyd Côd Hays ym 1934 i reoleiddio cynnwys ffilmiau Americanaidd, a chychwynnodd cyfnod newydd o gomedi ramantus—screwball—a gyfunai elfennau'r ffars â straeon rhamantus traddodiadol gyda sefyllfaoedd chwareus ond nid anweddus.[1] Ymhlith esiamplau'r gomedi screwball, a flodeuai hyd at ddiwedd y 1940au, mae It Happened One Night (1934) gan Frank Capra a Twentieth Century (1934) gan Howard Hawks, ac mae sêr y cyfnod yn cynnwys Clark Gable, Carole Lombard, John Barrymore, Cary Grant, Claudette Colbert, William Powell, Jean Arthur, Katharine Hepburn, a Myrna Loy.
Dirywiodd poblogrwydd y gomedi ramantus wedi'r Ail Ryfel Byd, a dim ond ychydig o enghreifftiau nodedig a gynhyrchwyd yn y 1950au a'r 1960au, er enghraifft Pillow Talk (1959), Lover Come Back (1961), a Send Me No Flowers (1964) gyda Doris Day a Rock Hudson, a'r addasiad (1961) o'r nofel Breakfast at Tiffany's gan Truman Capote. Yn niwedd y 1970au ailddyfeisiwyd y genre gan Woody Allen, a bu ei ffilm Annie Hall (1977) yn hynod o ddylanwadol ar "straeon am berthynas", sy'n portreadu perthnasau modern cymhleth gyda sylw ar y chwyldro rhyw, menywod yn y gweithle, a newidiadau cymdeithasol a diwylliannol. Yn y 1990au cafwyd adfywiad o'r "wir" gomedi ramantus, er enghraifft ffilmiau Nora Ephron, Sleepless in Seattle (1993) a You've Got Mail (1998).[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 David R. Shumway, "Romantic comedy" yn Schirmer Encyclopedia of Film. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 20 Mawrth 2024.
Darllen pellach
golygu- Stanley Cavell, Pursuits of Happiness: The Hollywood Comedy of Remarriage (Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press, 1981).
- Peter William Evans a Celestino Deleyto (goln), Terms of Endearment: Hollywood Romantic Comedy of the 1980s and 1990s (Caeredin: Edinburgh University Press, 1998).
- Wes D. Gehring, Romantic vs. Screwball Comedy: Charting the Difference (Lanham, Maryland: Scarecrow Press, 2002).
- James Harvey, Romantic Comedy in Hollywood from Lubitsch to Sturges (Efrog Newydd: Knopf, 1987).
- Mark D. Rubinfeld, Bound to Bond: Gender, Genre, and the Hollywood Romantic Comedy (Westport, Connecticut: Praeger, 2001).