Ffilm yn Nigeria
Mae gan Nigeria y diwydiant ffilm cenedlaethol mwyaf o holl wledydd Affrica. Gwneir y nifer fwyaf o ffilmiau Nigeriaidd yn yr iaith Saesneg, iaith gyffredin y wlad, ond cynhyrchir hefyd lluniau yn Iorwba, Hawsa, ac Igbo, ac weithiau ieithoedd brodorol eraill. Yn gyffredinol, rhennir hanes ffilm yn Nigeria yn bedwar cyfnod: yr oes drefedigaethol (cyn y 1960au), yr oes euraid (1960au–1980au), oes y fideo (1990au–2000au), a Sinema Newydd Nigeria (ers y 2000au).[1] Gelwir diwydiant ffilm Nigeria yn aml yn "Nollywood", cyfansoddair cywasgedig o Nigeria ac Hollywood, er bod rhai yn Nigeria yn gwrthod yr enw hwnnw.
Set ffilm yn Lagos, prifddinas Nigeria. | |
Enghraifft o'r canlynol | byd ffilmiau yn ôl gwlad neu ranbarth |
---|---|
Lleoliad | Nigeria |
Gwladwriaeth | Nigeria |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr oes drefedigaethol
golyguDygwyd cyfrwng ffilm i Nigeria yn gyntaf yn niwedd y 19g, ar ffurf y cinetosgop, dyfais a chanddi dwll ysbïo i wylio lluniau symudol.[2] Cafodd ei ddisodli yn nechrau'r 20g gan dechnoleg taflunio, a chafodd y set gyntaf o ffilmiau ar y sgrin fawr eu harddangos i gynulleidfaoedd yn Neuadd Goffa Glover yn Lagos o 12 i 22 Awst 1903.[1][3] Y llun mawr cynharaf a wneuthurwyd yn Nigeria yw Palaver (1926), ffilm fud 108 munud o hyd a gyfarwyddwyd gan y Sais Geoffrey Barkas, a oedd hefyd yn y ffilm gyntaf i gynnwys actorion Nigeriaidd mewn rhannau sylweddol.[4][5] Erbyn 1954, y "sinema symudol" oedd prif gyfrwng ffilm yn Nigeria, a bu faniau yn arddangos ffilmiau i o leiaf 3.5 miliwn o bobl ar draws y wlad. Yn ogystal, cynhyrchwyd lluniau gan Uned Ffilm Nigeria i'w harddangos yn rhad ac am ddim mewn 44 o dai sinema. Ym 1957 cyhoeddwyd Fincho, a gyfarwyddwyd gan Sam Zebba, y ffilm gyntaf a chafodd ei hawlfreinio'n gyfan gwbl i Uned Ffilm Nigeria, ac hefyd y ffilm liw gyntaf o Nigeria.[6]
Yr oes euraid
golyguYn sgil annibyniaeth Nigeria ar Brydain ym 1960, chwyddodd diwydiant sinema'r wlad yn gyflym, a sefydlwyd nifer o ddarlundai newydd.[7] O ganlyniad, trodd nifer o theatrau yn sinemâu yn niwedd y 1960au a'r 1970au, yn enwedig yng Ngorllewin Nigeria, wrth i actorion, dramodwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr drawsnewid o'r hen lwyfan i'r sgrin fawr, yn eu plith Hubert Ogunde a Moses Olaiya.[8][9] Ym 1972 cyhoeddwyd y Gorchymyn Brodori gan Yakubu Gowon, pennaeth y wladwriaeth, a orfodai oddeutu 300 o sinemâu i drosglwyddo o'u perchenogion estron i ddinasyddion Nigeriaidd, gan arwain at fwy o gynrychiolaeth gan Nigeriaid ym myd ffilm.[10] Cyfrannai'r ymchwydd olew yn y 1970au hefyd at dwf diwylliant y sinema yn Nigeria, gan gynyddu gallu prynu'r cyhoedd a rhoi ddigon o incwm i'r bobl wario ar fynychu'r sinema a chael setiau teledu yn y cartref.[8] Wedi cyfnod o lwyddiant gweddol gan ffilmiau Nigeriaidd yn y swyddfa docynnau, Papa Ajasco (1984) gan Wale Adenuga fyddai'r llun ysgubol gyntaf yn nhermau ariannol, gan ennill elw gros o ₦61,000 (tua 2015 ₦21,552,673) ymhen tridiau. Flwyddyn yn ddiweddarach, aeth Mosebolatan (1985) gan Moses Olaiya ati i wneud elw gros o ₦107,000 (tua 2015 ₦44,180,499) mewn pum niwrnod.[11]
Oes y fideo
golyguWedi diwedd yr oes euraid, cafodd y diwydiant ffilm yn Nigeria hwb yn y 1990au ar sail llwyddiant y farchnad fideos. Câi'r ffasiwn hon ei holrhain gan amlaf yn ôl i boblogrwydd Living in Bondage (1992), drama gyffro Igbo a gyhoeddwyd yn syth i fideo. Cyrhaeddodd y diwydiant syth-i-fideo ei anterth yng nghanol y 2000au, gan ddyrchafu Nigeria i'r ail safle ar y rhestr o ddiwydiannau ffilm mwyaf y byd yn nhermau'r nifer o gynyrchiadau blynyddol, y tu ôl i India ac o flaen Unol Daleithiau America..[12] Enillodd lluniau Nigeriaidd le blaenllaw ar sgriniau ar draws Affrica, ac hefyd yn y Caribî ac ymhlith yr Affricanwyr ar wasgar.[13] Cafodd ffilm Nigeria ddylanwad pwysig ar ddiwylliant Affrica oll[14] a daeth enwau actorion Nigeriaidd yn gyfarwydd ar draws y cyfandir. Arweiniodd yr ymchwydd hefyd at adlach yn erbyn y ffilmiau mewn sawl gwlad, gan beri rhai i boeni am oruchafiaeth Nollywood a elwid "Nigerialeiddio Affrica".[15][16]
Sinema Newydd Nigeria
golyguDirywiodd y farchnad fideos erbyn diwedd y 2000au, ond erbyn hynny cychwynnodd oes newydd yn ffilm Nigeria gyda phwyslais ar safon, nid nifer, a chynyrchiadau proffesiynol. Câi'r ffilm ddirgelwch The Figurine (2009), yn Saesneg ac Iorwba, ei hystyried yn drobwynt yn niwydiant ffilm cyfoes Nigeria. Sbardunwyd adfywiad yn niwylliant tai sinema'r wlad gan y don sinematig hon, a elwir "Sinema Newydd Nigeria".[1][17] Yn 2013, Nigeria oedd y diwydiant ffilm trydydd gwerthfawrocaf yn y byd ar sail ei refeniw.[18]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Emeagwali, Gloria (Spring 2004). "Editorial: Nigerian Film Industry". Central Connecticut State University. Africa Update Vol. XI, Issue 2. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 November 2009. Cyrchwyd 16 July 2014.
- ↑ "X-raying Nigerian Entertainment Industry At 49". Modern Ghana. 30 September 2009. Cyrchwyd 13 April 2015.
- ↑ Olubomehin, Oladipo O. (2012). "CINEMA BUSINESS IN LAGOS, NIGERIA SINCE 1903". Historical Research Letter 3. ISSN 2224-3178.
- ↑ Ekenyerengozi, Michael Chima (21 May 2014). "Recognizing Nigeria's Earliest Movie Stars - Dawiya, King of the Sura and Yilkuba, the Witch Doctor". IndieWire. Shadow and Act. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 May 2014. Cyrchwyd 13 April 2015.
- ↑ "PALAVER: A ROMANCE OF NORTHERN NIGERIA". Colonial Film. Cyrchwyd 13 April 2015.
- ↑ "Lights, Camera, Africa!!!". Goethe Institute. Cyrchwyd 24 August 2015.
- ↑ Olubomehin, Oladipo O. (2012). "CINEMA BUSINESS IN LAGOS, NIGERIA SINCE 1903". Historical Research Letter 3. ISSN 2225-0964.
- ↑ 8.0 8.1 "History of Nollywood". Nificon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 September 2013. Cyrchwyd 15 October 2014.
- ↑ Adegbola, Tunde (2011). "Coming of Age in Nigerian Moviemaking". African Film Festival Inc. New York. Cyrchwyd 7 April 2015.
- ↑ Obiaya, Ikechukwu. "The Blossoming of the Nigerian Video Film Industry". Academia. Cyrchwyd 7 April 2015.
- ↑ Olubomehin, Oladipo O. (2012). "CINEMA BUSINESS IN LAGOS, NIGERIA SINCE 1903". Historical Research Letter 3. ISSN 2224-3178.
- ↑ "Nigeria surpasses Hollywood as world's second largest film producer – UN". United Nations. 5 May 2009. Cyrchwyd 26 March 2013.
- ↑ "Nollywood: Lights, camera, Africa". The Economist. 16 December 2010. Cyrchwyd 20 February 2015.
- ↑ Onikeku, Qudus. "Nollywood: The Influence of the Nigerian Movie Industry on African Culture". Academia. Cyrchwyd 12 February 2015.
- ↑ Onuzulike, Uchenna (2007). "Nollywood: The Influence of the Nigerian Movie Industry on African Culture". Nollywood Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 January 2014. Cyrchwyd 12 February 2014.
- ↑ ""Nollywood": What's in a Name?". Nigeria Village Square. 3 July 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 March 2021. Cyrchwyd 20 February 2015.
- ↑ "Nigerian films try to move upmarket: Nollywood's new scoreboard". The Economist. 17 July 2014. Cyrchwyd 20 March 2015.
- ↑ Brown, Funke Osae (24 Rhagfyr 2013). "Nollywood improves quality, leaps to N1.72trn revenue in 2013". Business Day Newspaper. Business Day Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2014.