Ysgol o feddwl ym maes economeg wleidyddol a flodeuai yn Ffrainc yn ystod y 18g yw ffisiocratiaeth (Ffrangeg: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value).) sydd yn gwrthwynebu ymyriad y wladwriaeth yn yr economi ac yn dadlau bod y tir yn ffynhonnell i bob math o gyfoeth. Datblygodd damcaniaeth y ffisiocratiaid, dan ddylanwad François Quesnay (1694–1774), i herio'r drefn fercantilaidd a sbarduno'r ddadl ddeallusol gyntaf yn y ddisgyblaeth.

Ffisiocratiaeth
Math o gyfrwngdamcaniaeth mewn economeg, carfan meddwl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Adwaith yn erbyn y ffafriaeth dros fasnach a gweithgynhyrchu oedd ffisiocratiaeth yn bennaf, ac arddelai hefyd y ddeddf naturiol a rhyddid economaidd – ar batrwm Hugo Grotius, John Locke, a Samuel von Pufendorf – yn hytrach na chenedlaetholdeb economaidd cul. Anghytunai'r ddwy garfan ynglŷn ag ystyr gwerth, a gafodd ei ystyried gan y mercantilyddion yn gywerth ag arian tra'r oedd y ffisiocratiaid yn diffinio gwerth yn nhermau cynhyrchu nwyddau. Dadleuai'r ffisiocratiaid hefyd bod llewyrch economaidd yn dibynnu ar sector amaethyddol cynhyrchiol, yn groes i farn y mercantilyddion taw masnach yw diffiniad ffyniant economaidd a bod angen felly i gyfoethogi'r masnachwyr yn fwy nag unrhyw un arall.

Am y tro cyntaf, daeth rhyddid yr unigolyn yn ganolog i syniadaeth economaidd. Megis y rhyddfrydwyr clasurol cynnar, a arddelasant unigolyddiaeth radicalaidd ac hawliau sifil a gwleidyddol y dinesydd, ffurfiai'r ffisiocratiaid athrawiaeth ar sail rhyddid economaidd, gan ddadlau byddai'r fath system yn gytûn â'r ddeddf naturiol ac felly'n arwain at y cynhyrchiad diwydiannol mwyaf a'r dosbarthiad cyfoeth mwyaf cyfiawn. Roedd y ffisiocratiaid yn seilio'u dealltwriaeth o gyfoeth ar wrthrychau materol, ac nid metelau gwerthfawr yn unig. Gwelsant gweithgynhyrchu a masnachu yn ddiwydiannau diffrwyth gan nad ydynt yn echdynnu adnoddau crai, dim ond yn newid neu addasu'r hyn a gynhyrchwyd gan ddiwydiannau cynradd, yn bennaf amaeth. Ystyriasant y gwerth a ychwanegwyd at adnoddau crai gan weithgynhyrchu a masnachu yn gywerth â chostau'r broses gynhyrchu, tra bod amaeth yn dwyn gwarged net. Tybiai'r ffisiocratiaid taw amaeth oedd yr unig ffynhonnell am gyllid gwladol yn y bôn, a'i fod yn briodol felly i'r wladwriaeth godi ei refeniw drwy dreth unigol ac uniongyrchol ar rent.

Quesnay a'i gylch

golygu
 
Tableau économique gan François Quesnay.

Sefydlwyd ffisiocratiaeth gan François Quesnay, meddyg y Brenin Louis XV a'i ordderch Madame de Pompadour. Dylanwadwyd ar ei syniadaeth gan athroniaeth Aristoteles a Tomos o Acwin yn ogystal â'i ddealltwriaeth o gylchrediad y gwaed a gallu'r corff dynol i iachau yn naturiol. Yn nechrau'r 1750au, dechreuodd Quesnay gynnal salon yn ei ystafelloedd ym Mhalas Versailles ar gyfer llyswyr a ymddiddorasant ym mhroblemau ariannol a gweinyddol Ffrainc. Amlinellir ei ddamcaniaethau economaidd ar ffurf diagram yn ei waith Tableau économique (1758), sydd yn dangos y gydberthynas rhwng y gweithdy a'r fferm. Honnai Quesnay mai'r fferm yn unig sydd yn cyfrannu at gyfoeth y wlad. Ymhelaethai ei ddisgybl Victor Riqueti, Marquis de Mirabeau, ar hynny yn Explication du Tableau économique (1759), a thraethodau megis Théorie de l’impôt (1760) a Philosophie rurale (1763).

Ym 1763 daeth Pierre Samuel du Pont de Nemours dan ddylanwad Quesnay, ac yna P.P. le Mercier de la Rivière (1719–92), G.F. le Trosne (1728–80), yr abbé Nicolas Baudeau (1730–92), yr abbé P.J.A. Roubaud (1730–91), ac eraill. Amlygwyd syniadau'r ffisiocratiaid dan arweiniad du Pont, a gyhoeddai gasgliad o ysgrifau Quesnay dan y teitl La Physiocratie; ou, constitution naturelle du gouvernement le plus avantageux au genre humain (1767), a dyna darddiad yr enw. Rhoddwyd yr enw hwnnw arnynt yn y 19g, fodd bynnag; les économistes oedd yr enw cyfoes ar y garfan hon. Bu Roubaud, golygydd y Gazette du commerce, a Baudeau, golygydd yr Ephémérides du citoyen, hefyd yn bwysig wrth boblogeiddio ffisiocratiaeth.

Wedi cyfnod heb ddylanwad, ceisiodd disgyblion Quesnay fanteisio ar eu cysylltiadau â Jacques Turgot, a benodwyd yn Rheolwr Cyffredinol y Cyllid ym 1774. Cyhuddwyd Turgot o roi polisi'r llywodraeth yng ngofal y damcaniaethwyr economaidd, a chollodd ei swydd ym 1776. Cafodd y prif ffisiocratiaid eu halltudio. Er gwaethaf anffodion y damcaniaethwyr eu hunain, cafodd eu syniadau rywfaint o lwyddiant yn niwedd y 18g. Ymgorfforwyd masnach rydd yng Nghytundeb Eden (1786) rhwng Ffrainc a Theyrnas Prydain Fawr. Yn sgil y Chwyldro Ffrengig, cyhoeddwyd ordinhad ar 29 Awst 1789 i ryddfrydoli'r fasnach ŷd, ac ar 1 Rhagfyr 1790 sefydlwyd treth ar dir gan y Cynulliad Chwyldroadol. Er i'r polisïau hynny gydymffurfio ag argymelliadau'r ffisiocratiaid, roedd yr arian papur (assignat) a gyhoeddwyd gan y Cynulliad yn groes i'w dealltwriaeth o gyfoeth.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Physiocrat. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Medi 2020.