Fforest Clud

cadwyn o fynyddoedd ym Mhowys
(Ailgyfeiriad o Fforest Faesyfed)

Cramen garreg o ucheldir yn nwyrain canolbarth Cymru yw Fforest Clud (Saesneg: Radnor Forest). Gelwir yr ucheldir yn 'fforest' am ei fod yn dir agored a osodwyd o'r neilltu ar gyfer hela gan arglwyddi lleol yn yr Oesoedd Canol. Roedd yn ffurfio calon yr ardal ddaearyddol ganoloesol a adwaenid fel Rhwng Gwy a Hafren.

Rhos Fawr
Fforest Clud
Llethrau uchaf Rhos Fawr
Llun Llethrau uchaf Rhos Fawr
Uchder 660m / 2,165 troedfedd
Lleoliad Canolbarth Cymru
Gwlad Cymru

Ar 22 Mehefin, 1402, cafodd Owain Glyndŵr fuddugoliaeth fawr ar y Saeson ym Brwydr Bryn Glas, ar odre ogleddol Fforest Clud.

Pwyntiau uchaf Fforest Clud yw'r Rhos Fawr, llwyfandir eang o laswellt a grug sy'n cyrraedd uchder o 660 m, a llwyfandir cyffelyb i'r dwyrain, Y Domen Ddu (Black Mixen yn Saesneg), bron ar y ffin â Swydd Henffordd yn Lloegr. Ceir mast darlledu ar ben y copa olaf.

Yn ôl traddodiad llên gwerin lleol, bu draig yn byw yn y Fforest ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair eglwys i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi Llanfihangel Cefn-llys, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfihangel Nant Melan a Llanfihangel Casgob, i'r archangel Sant Mihangel, sy'n gorchfygu'r ddraig yn y Beibl. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys.[1]

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu