Llanfihangel Rhydieithon

pentref ym Mhowys

Pentref bychan a chymuned yn ardal Maesyfed, dwyrain canolbarth Powys, yw Llanfihangel Rhydieithon (Seisnigiad: Llanfihangel Rhydithon), sydd 56.1 milltir (90.3 km) o Gaerdydd a 143.5 milltir (231 km) o Lundain. Mae'n gorwedd i'r gorllewin o Fforest Clud ar yr A488 rhwng Llandrindod i'r de-orllewin a Llanandras i'r dwyrain. Cyfeiria'r enw lle at ryd ar afon Ieithon ger y pentref.

Llanfihangel Rhydieithon
Llanfihangel Nant Melan church - geograph.org.uk - 1168075.jpg
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.291379°N 3.24538°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000303 Edit this on Wikidata

ChwedlGolygu

Yn ôl traddodiad llên gwerin lleol, bu draig yn byw yn Fforest Clud ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair eglwys i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi Llanfihangel Cefnllys, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfihangel Nantmelan a Llanfihangel Cascob, i'r archangel Sant Mihangel, sy'n gorchfygu'r ddraig yn y Beibl. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys[1].

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfihangel Rhydieithon (pob oed) (228)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel Rhydieithon) (15)
  
6.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel Rhydieithon) (83)
  
36.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfihangel Rhydieithon) (38)
  
38%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cynrychiolaeth etholaetholGolygu

Cynrychiolir Llanfihangel Rhydieithon yn Senedd Cymru gan Kirsty Williams (Y Democratiaid Rhyddfrydol) a'r Aelod Seneddol yw Roger Wiliams (Y Democratiaid Rhyddfrydol).[5][6]

CyfeiriadauGolygu

  1. [https://web.archive.org/web/20070430204832/http://www.churchinwales.org.uk/swanbrec/churches/trails/dragons.htm Archifwyd 2007-04-30 yn y Peiriant Wayback. "St Michael and the Dragon of Radnor Forest" ar wefan yr Eglwys yng Nghymru (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu).
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  6. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

Gweler hefydGolygu