Ffrydlys cyffredin
Ffrydlys cyffredin Pellia epiphylla | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Pelliales |
Teulu: | Pelliaceae |
Genws: | Pellia |
Rhywogaeth: | P. epiphylla |
Enw deuenwol | |
Pellia epiphylla |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Ffrydlys cyffredin (enw gwyddonol: Pellia epiphylla; enw Saesneg: overleaf pellia). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Pelliales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.[1] Mae ganddo thali mawr, gwyrdd, canghennog. Ceir organau atgenhedlu benywaidd a gwrywaidd ar yr un thalws.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, yng Ngogledd America, Ewrop, Gogledd Affrica a rhannau o Asia. Mae'n tyfu mewn lleiniau mewn mannau llaith, cysgodol ar swbstradau niwtral neu asidig. Mae'n gyffredin ar lannau afonydd, nentydd a ffosydd ac mae hefyd yn tyfu mewn coetir gwlyb, corsydd ac ar greigiau gwlyb.[2]
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[3] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Edwards, Sean R. (2012). English Names for British Bryophytes. British Bryological Society Special Volume. 5 (arg. 4). Wootton, Northampton: British Bryological Society. ISBN 978-0-9561310-2-7. ISSN 0268-8034.
- ↑ Atherton, Ian; Sam Bosanquet & Mark Lawley, eds. (2010) Mosses and Liverworts of Britain and Ireland: a field guide, British Bryological Society.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.