Francis Jayne
Roedd Francis John Jayne (1 Ionawr 1845 – 23 Awst 1921) yn offeiriad Anglicanaidd Cymreig a wasanaethodd fel Prifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ac fel Esgob Caer.[1]
Francis Jayne | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ionawr 1845 Llanelli |
Bu farw | 23 Awst 1921 Croesoswallt |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Esgob Caer |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Jayne yn Llanelli, Sir Frycheiniog (Sir Fynwy bellach) yn fab i John Jayne, perchennog glofa, ac Elisabeth (née Hains) ei ail wraig.[2]
Addysg
golyguCafodd ei addysgu yn Ysgol Rugby a Choleg Wadham, Rhydychen, lle graddiodd efo gradd dosbarth cyntaf yn ‘’Literae Humaniores’’ (astudiaeth o ieithoedd, hanes ac athroniaeth glasurol Groeg a Rhufain) ym 1865. Graddiodd, efo gradd dosbarth cyntaf eto, ym 1868 mewn Cyfreitheg a Hanes Cyfoes. Ym 1868 daeth yn gymrawd Coleg yr Iesu Rhydychen.
Teulu
golyguPriododd Emily Sarah, merch hynaf Watts John Garland. Bu iddynt chwe mab a thair merch.
Priododd chwaer Watts John, Mary Garland, ag Alfred George Edwards, Archesgob cyntaf Cymru.
Gyrfa
golyguYm 1870 ordeiniwyd Jayne fel offeiriad Eglwys Loegr gan gael ei benodi yn gurad Eglwys St Clemence, Rhydychen. Ym 1871 cafodd ei benodi yn diwtor yng Ngholeg Kebel, Rhydychen.
Coleg Llanbed
golyguYm 1879 cafodd ei benodi'n brifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan; coleg diwinyddol ar gyfer paratoi dynion i’r offeiriadaeth Anglicanaidd. Yn ystod ei brifathrawiaeth llwyddodd Jayne i godi bri'r coleg. Llwyddodd i greu cysylltiadau rhwng Coleg Dewi Sant a Cholegau Rhydychen a Chaergrawnt; adeiladodd neuaddau preswyl newydd a dyblodd nifer yr efrydwyr.
Awgrymodd Adroddiad yr Arglwydd Aberdâr (1881) cysylltu Coleg Dewi Sant a Phrifysgol Aberystwyth. Roedd yn anghyfreithiol, ar y pryd, i golegau “enwadol” cael nawdd o’r llywodraeth.
Barn y Y Pwyllgor i Ymchwilio i Addysg Ganolradd ac Uwchradd yng Nghymru, oedd bod Coleg Llanbed yn cynnig addysg o’r safon uchaf a byddai modd cefnogi Coleg Llanbed o gael ei huno ag Aberystwyth fel cyd goleg oedd yn cynnig mwy nag addysg enwadol. Roedd yr enwadau anghydffurfiol yn gandryll yn erbyn y syniad. Roedd Jayne hefyd yn gandryll yn erbyn y syniad.
Yn hanes yr anghydffurfwyr Cymreig, llwyddodd yr anghydffurfwyr Cymreig i fethu caniatáu i Lanbed dod yn rhan o Brifysgol Cymru ym 1881.
Yn hanes Eglwys Loegr (a Choleg Llanbed) Jayne bu awdur annibyniaeth Coleg Llanbed.
Esgob Caer
golyguYmddiswyddodd Jayne o brifathrawiaeth Llanbed ym 1886, ar gael ei benodi’n Ficer plwyf Leeds. Plwyf enfawr, nad oedd yn ddinas ar y pryd. Dwy flynedd yn niweddarach cafodd ei benodi'r Esgob Caer.
Ymddeolodd o’r Esgobaeth ym 1919 wedi torri ei iechyd.
Marwolaeth
golyguBu Jayne farw yng Nghroesoswallt ym 1921, a chladdwyd ei weddillion yn Eglwys Bowden, Caer.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ D. T. W. Price, ‘Jayne, Francis John (1845–1921)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Jan 2007 accessed 21 May 2017
- ↑ JAYNE , FRANCIS JOHN ( 1845 - 1921 ), esgob adalwyd 21 Maii 2017