Llanelli, Sir Fynwy
Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Llanelli[1][2] (Saesneg: Llanelly). Saif rhwng Bryn-mawr a'r Fenni. Heblaw Llanelli ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Gilwern, Clydach a'r Darren Felen. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,810.
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 4,114 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8265°N 3.1158°W |
Cod SYG | W04000786 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
- Erthygl am y pentref a chymuned yn Sir Fynwy yw hon. Am y dref o'r un enw yn Sir Gaerfyrddin, gweler Llanelli. Am ddefnyddiadau eraill o'r enw "Llanelli", gweler Llanelli (gwahaniaethu).
Hyd at 1974, roedd yr ardal yma yn rhan o Sir Frycheiniog. Bu Thomas Price (Carnhuanawc) yn gurad Llanelli o 1816 hyd 1825, a sefydlodd ysgol gynradd Gymraeg yn Nhellifelen, yr unig un yng Nghymru yr adeg honno. Mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn mynd trwy'r gymuned.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]
Enwogion
golyguSyr Thomas Phillips (1801–1867), cyfreithiwr, gwleidydd a dyn busnes a wasanaethodd fel Maer Casnewydd ar adeg Terfysg Casnewydd[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Rhagfyr 2021
- ↑ "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "PHILLIPS, Syr THOMAS (1801 - 1867), bargyfreithiwr ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-29.
Trefi
Brynbuga · Cas-gwent · Cil-y-coed · Y Fenni · Trefynwy
Pentrefi
Aber-ffrwd · Abergwenffrwd · Betws Newydd · Bryngwyn · Caer-went · Castellnewydd · Cemais Comawndwr · Cilgwrrwg · Clydach · Coed Morgan · Coed-y-mynach · Cwmcarfan · Cwm-iou · Drenewydd Gelli-farch · Y Dyfawden · Yr Eglwys Newydd ar y Cefn · Gaer-lwyd · Gilwern · Glasgoed · Goetre · Gofilon · Y Grysmwnt · Gwehelog · Gwernesni · Gwndy · Hengastell · Little Mill · Llanarfan · Llan-arth · Llanbadog · Llancaeo · Llandegfedd · Llandeilo Bertholau · Llandeilo Gresynni · Llandenni · Llandidiwg · Llandogo · Llanddewi Nant Hodni · Llanddewi Rhydderch · Llanddewi Ysgyryd · Llanddingad · Llanddinol · Llanelen · Llanelli · Llanfable · Llanfaenor · Llanfair Cilgedin · Llanfair Is Coed · Llanfihangel Crucornau · Llanfihangel Gobion · Llanfihangel Tor-y-mynydd · Llanfihangel Troddi · Llanfihangel Ystum Llywern · Llanfocha · Llan-ffwyst · Llangatwg Feibion Afel · Llangatwg Lingoed · Llangiwa · Llangofen · Llan-gwm · Llangybi · Llanhenwg · Llanisien · Llanllywel · Llanofer · Llanoronwy · Llan-soe · Llantrisant · Llanwarw · Llanwenarth · Llanwynell · Llanwytherin · Y Maerdy · Magwyr · Mamheilad · Matharn · Mounton · Nant-y-deri · Newbridge-on-Usk · Y Pandy · Pen-allt · Penrhos · Pen-y-clawdd · Porth Sgiwed · Pwllmeurig · Rogiet · Rhaglan · Sudbrook · Tre'r-gaer · Tryleg · Tyndyrn · Ynysgynwraidd