Gŵyl Machynlleth
Mae Gŵyl Machynlleth (Machynlleth Festival) yn ŵyl flynyddol sy'n cael ei chynnal yn Awditoriwm Y Tabernacl, Machynlleth, ddiwedd mis Awst.[1][2] Yn ystod yr wythnos mae perfformwyr amlwg yn cymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n amrywio o ddatganiadau i blant i jazz.
Ni ddylid drysu â Gŵyl Gomedi Machynlleth sy'n cael ei chynnal ym mis Mai ac sy'n ŵyl iau ac yn annibynnol o Ŵyl Machynlleth. Saesneg yw prif gyfrwng digwyddiadau'r Ŵyl.
Y Digwyddiad
golyguMae'r ŵyl yn cychwyn gyda Chymanfa Ganu.[3] Ymhlith y nodweddion arbennig mae Darlith Hallstatt ar ryw agwedd ar ddiwylliant Celtaidd.
Gwobr Glyndŵr
golyguRhoddir Gwobr Glyn Dŵr am Gyfraniad Eithriadol i'r Celfyddydau yng Nghymru yn ystod yr ŵyl.[1] Ymysg cyn-enllwyr Gwobr Glyn Dŵr mae; Kyffin Williams (1995), Jan Morris (1996), Gerallt Lloyd Owen (2002), Mererid Hopwood (2011), Karl Jenkins (2018).
Perfformwyr
golyguYmhlith y perfformwyr yn nhri Gŵyl Machynlleth gyntaf roedd y tenor Paul Agnew, y bas-bariton Bryn Terfel (1989) a'r tenor Rhys Meirion (2020). Ymhlith perfformwyr yr Ŵyl yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf roedd: Alan Skidmore, sacsoffonydd tenor, 1990; Bernard Roberts, pianydd, a Kit a The Widow, 1991; a Robin Williamson o'r Incredible String Band, 1992.
Ceir amrywiaeth eang o berfformiadau clasurol gan offerynwyr a chantorion tramor a Chymreig gan gynnwys Elin Manahan Thomas yn 2019. Ceir hefyd ganu corawl, bandiau Klezmer, sioeau hanes a drama.[4]
Roedd y canwr Jazz George Melly a'r trombonydd Christian Lindberg ymhlith uchafbwyntiau 1996.
Dolenni
golygu- Tudalen yr Ŵyl Archifwyd 2019-06-01 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan y Tabernacl, MOMA Archifwyd 2019-10-23 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Karen Price (9 August 2010). "Varied programme for Machynlleth Festival". Wales Online. Cyrchwyd 24 August 2018.
- ↑ "Machynlleth Festival reaches its finale". County Times. Powys. 23 August 2018. Cyrchwyd 24 August 2018.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-01. Cyrchwyd 2019-10-14.
- ↑ http://www.cambrian-news.co.uk/article.cfm?id=130044&headline=Array%20of%20musical%20talent%20to%20perform%20at%20Machynlleth%20Festival§ionIs=news&searchyear=2019[dolen farw]