Garbha Pindasana (Baban mewn Croth)
Asana o fewn ioga yw Garbha Pindasana (Sansgrit: ङर्भ Pइण्डआसन, IAST: Garbha Piṇḍāsana ), Baban mewn Croth,[1][2] weithiau'n cael ei fyrhau i Garbhasana.[3][4][5]
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas eistedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asana cydbwyso ydyw yn y bôn, gydag elfen o eistedd hefyd, ac fe'i ceir o fewn i ioga hatha ac ioga modern fel ymarfer corff.
Mae'r ystum yn union yr un fath ag Uttana Kurmasana (y Crwban gwrthdro, oddigerth bod y corff ar y cefn yn yr asana hwnnw yn lle bod yn cydbwyso'n unionsyth.[6]
Geirdarddiad
golyguDaw'r enw o'r geiriau Sansgrit garbha sy'n golygu "croth"; piṇḍa, sy'n golygu "embryo" neu "ffoetws"; ac āsana (आसन) sy'n golygu "osgo" neu "siap y corff".[7]
Disgrifir yr asana hwn yn Bahr al-Hayāt o'r 17g.[8]
Disgrifiad
golyguCroesir y coesau yn Padmasana; gall ymarferwyr sy'n methu cadw'r traed yn Padmasana yn hawdd groesi'r coesau yn Sukhasana. Mae'r breichiau wedi'u cordeddu trwodd y tu ôl i'r pengliniau, ac yna mae'r dwylo'n ymestyn i fyny i afael yn y clustiau. Yna caiff y corff ei gydbwyso ar gwtyn y cynffon.[1][9]
Yn ioga ashtanga vinyasa, mae'r ystum yn y gyfres gynradd.[2]
Amrywiadau
golyguGall safle'r fraich fod yn amrywiol.[10]
Ffurf arall yw'r asana lledorwedd Supta Garbhasana gyda'r fferau wedi'u croesi y tu ôl i'r gwddf, yr un fath â Yoganidrasana (Iogi'n Cysgu).[11]
Hawliadau
golyguHonodd rhai eiriolwyr ioga yn yr 20g, megis BKS Iyengar, fod ioga'n effeithio'n bositif ar organau penodol, heb nodi unrhyw dystiolaeth o hynny.[12][13] Honnodd Iyengar fod yr ystum hwn yn gwneud i'r gwaed gylchredeg yn dda o amgylch organau'r abdomen, sydd "wedi'u contractio'n llwyr", gan eu cadw'n iach.[1]
Gweler hefyd
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. ISBN 978-1855381667.
- Jain, Andrea (2015). Selling Yoga: from Counterculture to Pop Culture. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-939024-3. OCLC 878953765.
- Newcombe, Suzanne (2019). Yoga in Britain: Stretching Spirituality and Educating Yogis. Bristol, England: Equinox Publishing. ISBN 978-1-78179-661-0.
- Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace (arg. 2nd). Abhinav Publications. ISBN 81-7017-389-2.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Iyengar 1979.
- ↑ 2.0 2.1 "Primary Series of Ashtanga Vinyasa Yoga: yoga chikitsa (cikitsa) | Garbha Pindasana". Ashtanga Vinyasa Yoga. Cyrchwyd 30 Ionawr 2019. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw "Ashtanga" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ Aggarwal, Dholan Dass (1 Ionawr 1989). Yogasana & Sadhana. Pustak Mahal. t. 72. ISBN 978-81-223-0092-5.
- ↑ Hewitt, James (3 Ionawr 1990). Complete Yoga Book. Schocken Books. t. 307.
- ↑ Stearn, Jess (1965). Yoga, youth, and reincarnation. Doubleday. t. 350.
- ↑ Sjoman 1999, tt. 81, Plate 15 (pose 85).
- ↑ Sinha, S. C. (1 Mehefin 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
- ↑ Mallinson, James (9 December 2011). "A Response to Mark Singleton's Yoga Body by JamesMallinson". Cyrchwyd 4 Ionawr 2019. revised from American Academy of Religions conference, San Francisco, 19 Tachwedd 2011.
- ↑ Keleher, Neil (17 December 2018). "Ashtanga Yoga Poses, Seated Poses Part 1". Sensational Yoga Poses. Cyrchwyd 30 Ionawr 2019.
- ↑ "Garbha Pindasana | The Embryo". Yoga in Daily Life. 2019. Cyrchwyd 31 Ionawr 2019.
- ↑ "Supta-Garhbasana". OMGYAN. Cyrchwyd 6 Ionawr 2019.
- ↑ Newcombe 2019.
- ↑ Jain 2015.