Garthewin
Plasdy ac ystad yng ngogledd Cymru yw Garthewin. Lleolir y plasdy ei hun ger Llanfair Talhaearn yn Sir Conwy. Roedd yn gartref i Wynniaid Melai a Garthewin. Mae ganddo le yn hanes y theatr yn Gymraeg oherwydd cysylltiad y theatr fach sydd yno â Saunders Lewis.
Math | plasty |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanfair Talhaearn |
Sir | Llanfair Talhaearn |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 148.9 metr |
Cyfesurynnau | 53.2203°N 3.62631°W |
Perchnogaeth | Robert Wynne, Brownlow Wynne Cumming |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Theatr
golyguCafodd y Chwaraedy (Saesneg: The Playhouse) ei greu trwy ailadeiladu hen ysgubor ger y plasdy (codwyd yn wreiddiol yn 1722). Syniad R.O.F. Wynne oedd hynny. Clough Williams-Ellis (pensaer Portmeirion) oedd y pensaer. Mae'r muriau o gerrig gyda tho llechi a gynhelir gan ddwy fwa sylweddol o waith bric. Ychwanegwyd y llwyfan yn 1937-38.[1] Roedd seddi i ryw gant o gynulleidfa yno. Morris Jones oedd y cyfarwyddwr o 1946 ymlaen.[2]
Perfformwyd sawl un o ddramâu cynnar Saunders Lewis yng Ngarthewin, yn cynnwys Blodeuwedd (cyhoeddwyd 1948). Ymddangosodd y ddwy act gyntaf o'r ddrama honno yn Y Llenor yn 1923 a 1925 ond ym 1947 y gorffennodd Saunders y gwaith pan ofynnodd Chwaraewyr Garthewin iddo am ddrama i'w hactio yn y Chwaraedy.[3]
Llyfryddiaeth
golygu- Hazel Walford Davies, Saunders Lewis a Theatr Garthewin (Gwasg Gomer, 1995)
- Saunders Lewis, Blodeuwedd (Gwasg Gomer, 1948)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Chwaraedy Garthewin, Y Theatre Trust.
- ↑ Frank Price Jones, Crwydro Gorllewin Dinbych (Cyfres Crwydro Cymru, 1969).
- ↑ Saunders Lewis, Blodeuwedd. Rhagymadrodd.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Chwaraedy Garthewin, ar wefan y Theatre Trust.
- 'Papurau Garthewin' Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback Prifysgol Bangor, sef dogfennau stad Garthewin, ar wefan Archifau Cymru.