Georges Bizet

cyfansoddwr a aned yn 1838

Cyfansoddwr a phianydd Ffrengig oedd Georges Bizet (25 Hydref 18383 Mehefin 1875). Bu'n weithgar yn ystod y cyfnod Rhamantus a mae'n fwyaf adnabyddus am yr opera Carmen.

Georges Bizet
GanwydAlexandre Cesar Leopold Bizet Edit this on Wikidata
25 Hydref 1838 Edit this on Wikidata
Rue Louise-Émilie-de-La-Tour-d'Auvergne, Paris Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd16 Mawrth 1840 Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mehefin 1875 Edit this on Wikidata
Bougival Edit this on Wikidata
Man preswylHôtel Halévy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr clasurol, arweinydd, pianydd, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCarmen, Les pêcheurs de perles Edit this on Wikidata
Arddullopera, symffoni, French opera, cerddoriaeth ramantus Edit this on Wikidata
Mudiadcerddoriaeth ramantus Edit this on Wikidata
TadAdolphe Armand Bizet Edit this on Wikidata
MamAimée Léopoldine Joséphine Delsarte Edit this on Wikidata
PriodGeneviève Halévy Edit this on Wikidata
PlantJacques Bizet Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, Prix de Rome Edit this on Wikidata
llofnod
Delwedd:Bizet Georges signature 1869.jpg, Georges Bizet signature.png

Bywgraffiad golygu

Bywyd Cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Bizet yn 26 rue de la Tour d'Auvergne yn 9fed arrondissement Paris ym 1838. Cofrestrwyd ei enedigaeth gyda'r enw Alexandre César Léopold Bizet,[1] ond cafodd ei fedyddio ar 16 Mawrth 1840 gyda'r enw cyntaf Georges, a Georges Bizet oedd ei enw o hynny ymlaen. Roedd ei dad Adolphe Armand Bizet (1810–1886) yn gantor a chyfansoddwr amatur, a'i fam Aimée Léopoldine Joséphine née Delsarte (1814–1861), yn chwaer i'r athrawes canu enwog François Delsarte.

Aeth i'r Conservatoire de Paris ar 9 Hydref 1848, am bythefnos cyn ei ddegfed ben-blwydd. Ei athrawon oedd Pierre Zimmermann (ffiwg a gwrthbwynt; yn aml gyda chymorth ei fab-yng-nghyfraith Charles Gounod), Antoine François Marmontel (piano), François Benoist (organ) ac, ar farwolaeth Zimmermann, Fromental Halévy, priododd Bizet ferch Halévy yn ddiweddarach.[2] Enillodd wobrau cyntaf am yr organ a'r ffiwg ym 1855 a cwblhaodd ei gyfansoddiadau cynharaf.[3]

Cyfansoddodd ei symffoni cyntaf, y Symffoni yn C, ym mis Tachwedd 1855, pan oedd yn 17 oed, mae'n debyg fel aseiniad myfyriwr. Ni ddaeth hwn i'r golwg tan1933, pan gafodd ei ganfod yn archifau llyfrgell Conservatoire de Paris.[3] Perfformiwyd am y tro cyntaf ym 1935, a chafodd ei ystyried yn syth fel campwaith iau ac roedd yn ychwanegiad a groesawyd at repertoire cynnar yr oes Ramantus. Mae'r symffoni yn dangos arddull debyg i symffoni cyntaf Gounod,[4] a gafodd ei chwarae am y tro cyntaf yn gynharach yr un flwyddyn, ac y bu i Bizet drefnu ar gyfer dau biano[3] er gall gwrandawyr cyfoes sylwi ar debygrwydd â cherddoriaeth Franz Schubert.

Ym 1857, enillodd osodiad operetta un-act Le docteur Miracle ran o wobr iddo, a gynnigwyd gan Jacques Offenbach. Enillodd hefyd gystadleuaeth am ysgoloriaeth cerddorol Prix de Rome, a gynigwyd dan yr amod y bu'n raid iddo astudio yn Rhufain am dair mlynedd. Yno, datblygodd ei dalent tra cyfansoddodd gweithiau megis yr opera buffa Don Procopio (1858–1859). Yno cyfansoddodd hefyd ei unig waith sanctaidd, Te Deum (1858), a ymostyngodd i gystdlaeuaeth y Prix Rodrigues, a oedd wedi ei neilltuo ar gyfer enillwyr y Prix de Rome yn unig. Ni enillodd Bizet y Prix Rodrigues, a ni gyhoeddwyd Te Deum hyd 1971. Ceisiodd gyfansoddi dwy symffoni arall ym 1859, ond dinistriodd y llawysgrifau ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno. Heblaw'r cyfnod hwn yn Rhufain, bu Bizet yn byw yn ardal Paris drwy gydol ei fywyd.

Teithio a dychwelyd i Baris golygu

Yn fuan wedi gadael Rhufain ym mis Gorffennaf 1860, ond tra'n dal i deithio o gwmpas yr Eidal, cafodd y syniad o gyfansoddi symffoni lle buasai'r pedwar symudiad o fewn iddi yn gynrychiolaeth gerddorol o ddinas Eidalaidd gwahanol – Rhufain, Fenis, Fflorens a Napoli. Wedi clywed bod ei fam yn ddifrifol wael, torrodd ei daith yn fyr a dychwelodd i Baris ym mis Medi 1860; bu farw ei fam yn ddiweddarach y flwyddyn honno.[3] Cyflawnwyd Scherzo o'r symffoni erbyn Tachwedd 1861, ond ni ysgrifennwyd fersiwn cyflawn o'r symffoni tan 1866. Adolygodd hi sawl gwaith tan 1871, ond bu farw Bizet cyn iddo greu fersiwn a ystyriai ef yn un terfynol. Oherwydd hyn, weithiau disgrifir y gwaith fel un "an-orffenedig", ond nid yw hyn yn ddisgrifiad cwbl gywir gan fod y sgôr yn gyflawn. Fe'i cyhoeddwyd ym 1880 fel y Roma Symphony.

Ym Mehefin 1862, ganwyd mab, Jean, i forwyn y teulu, Mary Reiter. Magwyd y plentyn i gredu mai Adolphe Bizet oedd ei dad, a'i fod yn hanner-brawd i Georges, ond datgelodd ei fam yn ddiweddarach mai Georges oedd ei dad.[5] Bu farw ei gyn-athro Halévy ym 1862, gan adael ei opera olaf Noé heb ei orffen. Cwblhaodd Bizet y gwaith, ond ni pherfformiwyd ef tan 1885, deng mlynedd wedi marwolaeth Bizet.

Cyfansoddodd yr opera Les pêcheurs de perles (Y Pysgotwyr Perlau), drama cariad a defod yn Ceylon (Sri Lanca heddiw) ar gfer y Théâtre Lyrique ym 1863, roedd hwn yn fethiant yn wreiddiol. Ym 1866, comisiynwyd ef i osod dau o operâu Ambroise Thomas ar gyfer piano unigol a deuawd.[5] Mae ei weithiau a greodd yn ei ieuenctid yn dangos ei bŵer yn galwr teimlad o awyrgylch egsotig, megis La jolie fille de Perth (ar ôl nofel Walter Scott), sydd wedi ei osod yn yr Alban yn rhamantus (perfformiwyd gyntaf yn y Théâtre Lyrique, ym 1867), a symffoni Roma (1868). Er nad oedd yr operâu rhain yn andros o lwyddiannus, sefydlont enw Bizet fel cyfansoddwr iw gyfrif.

Ar 3 Mehefin 1869, priododd Bizet â Geneviève (1849–1926), merch ei gyn-athro Fromental Halévy. Ar gychwyn y Rhyfel Ffranco-Prwsiaidd ym mis Gorffennaf 1870, ymunodd Bizet â Gwarchodlu Cenedlaethol Ffrainc, ynghyd â nifer o gyfansoddwyr eraill adnabyddus. Goriodd hyn datblygiad nifer o'i weithiau. Wedi cadoediad Ionawr 1871 dechreuodd gwrthryfel sifil, a bu cyfnod o dywallt gwaed am ddeufis ym Mharis. Dihangodd Bizet a'i wraig i Le Vésinet ger Paris, er mwyn osgoi'r trais.[5] O fis Tachwedd 1871 hyd ei farwolaeth roedd Bizet yn aelod o bwyllgor arholi'r Conservatoire ar gyfer cyfansoddi, gwrthbwynt a ffiwg, ac ar gyfer y piano a'r telyn.

Cyfansoddodd Bizet ddeuawd piano Jeux d'enfants (Gemau plant) ym 1871. Cynhyrchwyd yr opéra comique un-act Djamileh ar 22 Mai 1872, a cysidrir hwn yn aml i fod yn rhagflaenydd i Carmen. Cyfansoddodd gerddoriaeth achlysurol ar gyfer drama L'Arlésienne gan Alphonse Daudet, a perfformiwyd am y tro cyntaf ar 1 Hydref 1872. Deilliodd Bizet L'Arlésienne Suite o'r cerddoriaeth (perfformiwyd gyntaf 10 Tachwedd 1872), a trefnodd Ernest Guiraud yr ail gyfres yn ddiweddarach; mae'r ddau yn cynnwys cryn ail-ysgrifennu o'r sgôr gwreiddiol (mae nifer o berfformiadau yn hepgor cyfraniadau Guiraud). Cyfansoddwyd ei agorawd Patrie ym 1873 (doedd dim cysylltiad â drama Patrie! Victorien Sardou).

Carmen a'i farwolaeth golygu

 
Bedd Georges Bizet ym Mynwent Père Lachaise

Carmen (1875) yw gwaith mwyaf adnabyddus Bizet. Mae wedi ei seilio ar novella o'r un enw a ysgrifennwyd gan Prosper Mérimée ym 1846. Cyfansoddodd Bizet rôl y teitl ar gyfer mezzo-soprano. Roedd eisoes wedi ei gyfansoddi yn sylweddol erbyn 1873, ond ni orffenwyd hyd diwedd 1874, yn y cyfnod hwnnw daeth ei briodas dan gryn straen a gwahanodd oddi wrth ei wraig am ddeufis.[5] Cafodd Carmen ei premiere ar 3 Mawrth 1875 yn yr Opéra-Comique ym Mharis, a ni dderbyniwyd yn dda i gychwyn, er iddo redeg am 37 perfformiad dros y tri mis canlynol, gyda tair perfformiad pob wythnos ar gyfartaledd; dyma oedd llwyddiant mwyaf Bizet hyd yn hyn. Roedd Bizet wedi taflu pob dim oedd ganddo i mewn i gyfansoddi Carmen, ac roedd ei derbyniad llugoer yn siomedigaeth chwerw. Ond daeth clod yn ddiweddarach gan gyfoedion adnabyddus gan gynnwys Claude Debussy, Camille Saint-Saëns a Pyotr Ilyich Tchaikovsky. Mynychodd Johannes Brahms dros ugain o berfformiadau ohoni, a cysidrodd hi i fod yr opera gorau i gael ei chynhyrchu yn Ewrop ers y Rhyfel Ffranco-Prwsiaidd. Profwyd y cyfansoddwyr rheiny'n gywir, ers hynnu mae Carmen wedi dod yn un o'r gweithiau mwyaf poblogaidd yn y repertoire operatig. Mae Carmen yn cynnwys dau o ganeuon enwocaf Bizet, sef "Habanera" a "Cân y Toreador", sy'n cystadlu o ran poblogrwydd gyda'r deuawd tenor-bariton "Au fond du temple saint" o Les pêcheurs de perles.

Ond ni fu Bizet fyw yn ddigon hir i weld Carmen yn ddod yn llwyddiant. Bu farw o drawiad i'r galon yn 36 oed yn Bougival (Yvelines), tua 10 milltir i'r gorllewin oBaris. Mae wedi cael ei grybwyll mai Élie-Miriam Delaborde, a dybwyd i fod yn fab anghyfreithlon i Charles-Valentin Alkan, oedd yn gyfrifol yn anuniongyrchol am farwolaeth Bizet, a ddigwyddodd yn dilyn cystadleuaeth nofio rhwng y ddau, wedi i Bizet ddal fferdod.[6] Bu farw ar chweched pen-blwydd ei briodas, bron yn union tair mis wedi perfformiad cyntaf Carmen. Daeth ei farwolaeth mewn cyfnod pan oedd newydd ganfod ei arddull aeddfed. Claddwyd ym Mynwent Père Lachaise ym Mharis, wrth ymyl mawrion eraill megis Frédéric Chopin a Gioachino Rossini. Daeth perfformiadau Carmen i ben yn y Opéra-Comique yn syth. Ond, o fewn tair mlynedd roedd wedi gwneud ei ffordd i Vienna, Brwsel, Llundain ac Efrog Newydd. Pum mlynedd yn ddiweddarach dychwelodd yr opera i Baris, a derbyniwyd hi'n afieithus gan lawnsio gyrfa lwyddiannus yr opera hyd heddiw, erbyn hyn mae'n un o hoff operâu'r byd.

Wedi ei farwolaeth golygu

Cafodd Geneviève berthynas yn ddiweddarach â Élie-Miriam Delaborde; mae cais am briodas rhyngddynt yn bodoli,[7] ond ni weithredwyd ar y cais. Yn hytrach, priododd â Émile Straus, bancwr gyda chysylltiadau â'r teulu Rothschild, a daeth yn westeiwraig cymdeithasol o nôd. Defnyddiodd Marcel Proust hi fel model ar gyfer y Duchesse de Guermantes yn ei fleuve Rhufeinig À la recherche du temps perdu. Bu mab y Bizets, Jacques (1872–1922), llenor, yn gyfaill gyda Proust yn yr ysgol.

Mae cerddoriaeth Bizet wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer sawl ballet yn yr 20g. Carmen Suite (1967), yn yr oes Sofietaidd a osodwyd i gerddoriaeth o Carmen a drefnwyd gan Rodion Shchedrin, daeth hwn yn un o rôlau llofnod y ballerina Bolshoi Maya Plisetskaya; coreograffwyd gan Alberto Alonso. Yn y gorllewin, caiff L'Arlesienne gan Roland Petit ei ystyried yn dda, ac ystyrir y Symffoni yn C gan George Balanchine i fod yn un o ballets gorau'r 20g. Cyflwynwyd am y tro cyntaf yn Le Palais de Crystal gan y Paris Opera Ballet ym 1947, ac mae wedi bod yn rhan o'r repertory yno ers hynny. Nid oes gan y ballet stori; mae ond yn ffitio'r gerddoriaeth: mae gan bob symudiad y symffoni ei fallerina, cavalier, a corps de ballet, ac mae pob un yn dawnsio ar y cyd yn y finale.

Cysgodwyd gallu Bizet i chwarae'r piano gan ei waith fel cyfansoddwr. Gallai yn hawdd fod wedi cael gyrfa fel pianydd cyngherddau petai wedi dewis hynny. Ar 26 Mai 1861, mewn parti swper yn nhŷ'r Halévys lle roedd Franz Liszt yn bresennol, rhoddodd Bizet berfformiad di-nam o un o weithiau llafurfawr Liszt, gan ddarllen o olwg o'r llawysgrif nad oedd wedi ei gyhoeddi. Datganodd Liszt fod Bizet yn un o'r tri pianydd gorau yn Ewrop. Cafodd gallu Bizet ar y piano glod gan Hector Berlioz, ei athro Marmontel, yn ogystal â nifer o bobl eraill.[2]


Operâu golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Hugh Macdonald (1992). "Bizet, Georges (Alexandre César Léopold)", gol. Stanley Sadie: The New Grove Dictionary of Opera. Efrog Newydd: Macmillan, tud. 485. ISBN 0-935859-92-6
  2. 2.0 2.1 (1954) Grove's Dictionary of Music and Musicians
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 W. Dean (1978). Bizet
  4. M. Curtiss (1958). Bizet and his world. Efrog Newydd: Vienna House
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 "Music Academy online". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-12-06. Cyrchwyd 2009-10-29.
  6. Minna Curtis (1958). Bizet and his world, tud. 369-70, 418
  7. Hervé Lacombe (2000). Bizet, naissance d'une identité créatrice, tud. 400

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: