Giovanni Battista Riccioli
Seryddwr o'r Eidal oedd Giovanni Battista Riccioli (17 Ebrill 1598 – 25 Mehefin 1671).
Giovanni Battista Riccioli | |
---|---|
Darluniad o Giovanni Battista Riccioli | |
Ganwyd | Galeazzo Riccioli 17 Ebrill 1598 Ferrara |
Bu farw | 25 Mehefin 1671 Bologna |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | selenograffydd, diwinydd, seryddwr, mapiwr, academydd, llenor, athronydd |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Almagestum Novum |
Ganed ef yn Ferrara, yn Nhaleithiau'r Babaeth, ac ymunodd â Chymdeithas yr Iesu ym 1614. Wedi iddo astudio'n fanwl bob cangen o wybodaeth fel eu dysgid yn yr oes honno, dewiswyd ef yn athro athroniaeth, rhethreg, barddoniaeth, a diwinyddiaeth yng ngholegau'r Iesuwyr yn Parma a Bologna. Serch, gan fod ei dueddfryd naturiol yn ei arwain i astudio daearyddiaeth a seryddiaeth, rhoddodd i fyny'r swyddi hyn, ac ymroddodd i efrydu'r gwyddorau hynny.
Ym 1653 cyhoeddwyd ganddo draethawd ar bwnc seryddiaeth, a elwid Almagestum Novum. Yr oedd y byd dysgedig y pryd hwn yn rhanedig yn eu barnau am gyfundrefn y greadigaeth, rhwng dilynwyr Aristoteles a disgyblion Nicolaus Copernicus. Yn yr Almagestum mae Riccioli, ar ôl egluro syniadau Copernicus ynghylch symudiad y ddaear, yn dwyn ymlaen restr faith o wrthwynebiadau iddynt. Y mae'n cydnabod, fodd bynnag, po mwyaf y bydd i ni chwilio'r ddamcaniaeth am amrywiol symudiadau'r ddaear, mwyaf yn y byd y rhaid i ni edmygu athrylith a synnwyr Copernicus, yr hwn a lwyddodd i egluro mewn dull mor syml wahanol bethau yn dal perthynas â'r cyrff nefol, a gofidia fod ffrwyth dychymyg disglair, fel y dywed, yn cael eu gosod allan ganddo fel gwirioneddau sylweddol. Y mae'r edmygedd a amlygir gan Riccioli yn wastad o Copernicus, ac hyd yn oed y dull yn yr hwn y mae ei wrthwynebiadau i'w ddamcaniaeth yn cael eu gosod allan, wedi arwain llawer i gredu fod yr Iesuwr dysgedig hwn yn credu yn ei galon yr un peth am gyfundrefn y greadigaeth â Copernicus. Cynnwysa'r Almagestum rannau a ddengys fod yr awdur yn ddarostyngedig i ragfarnau'r oes.
Cyhoeddodd Riccioli waith ar ddaearyddiaeth a môr-ddarluniaeth, yn yr hwn y rhoddir adroddiad o'r gweithrediadau a ddygwyd ymlaen ganddo ef a Francesco Maria Grimaldi o berthynas i gyhydedd y ddaear. Ym 1665, cyhoeddodd ei Astronomia Reformata. Ysgrifennai Riccioli ei draethodau yn Lladin, yn groes i esiampl Galileo Galilei o ysgrifennu ar bynciau gwyddonol drwy gyfrwng iaith y werin.[1] Bu farw Riccioli—yr hwn, fe allai, a fu yn fwy defnyddiol i ddynolryw fel un yn cofnodi darganfyddiadau rhai eraill nag fel darganfyddwr ei hun—yn Bologna ym 1671, yn 73 oed.
Llyfryddiaeth
golygu- Geographicae crucis fabrica et usus (Bologna, 1643).
- Almagestum novum astronomiam veterem novamque complectens (Bologna, 1651, 1653).
- Theses astronomicae de novissimo comete anni 1652 (Bologna, 1653), gwaith di-enw a briodolir i Riccioli.
- Geographiae et hydrographiae reformatae (Bologna, 1661; Fenis, 1672).
- Astronomiae reformatae, dwy gyfrol (Bologna, 1665).
- Vindiciae kalendarii Gregoriani adversus Franciscum Leveram (Bologna, 1666), cyhoeddwyd dan yr enw Michele Manfredi.
- Argomento fisico-mattematico… contro il moto diurno della terra (Bologna, 1668).
- Apologia proargumento physico-mathematico contra systema Copernicanum (Fenis, 1669).
- Chronologiae reformatae et ad certas conclusiones redactae, tair cyfrol (Bologna, 1669).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Luigi Campedelli, "Riccioli, Giambattista" yn Complete Dictionary of Scientific Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 20 Tachwedd 2022.