Giulietta Simionato

Roedd Giulietta Simionato (12 Mai 1910 - 5 Mai 2010) yn fezzo-soprano Eidalaidd. Roedd ei gyrfa yn rhychwantu'r cyfnod o'r 1930au hyd iddi ymddeol ym 1966. Roedd yn enwog, am roi slap ar draws wyneb i Maria Callas, er i'r ddwy ddod yn ffrindiau yn y pen draw.[1]

Giulietta Simionato
Ganwyd12 Mai 1910 Edit this on Wikidata
Forlì Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mai 2010 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Man preswylRhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Ganwyd Siminato yn Forlì, Romagna. Astudiodd yn Rovigo a Padua, a gwnaeth ei ymddangosiad operatig yn Montagnana ym 1928. Ym 1928, canodd yn Rigoletto Verdi.[2] Roedd pymtheng mlynedd gyntaf ei gyrfa yn rhwystredig, dim ond rhannau bychain a roddwyd iddi, ond fe ddenodd sylw cynyddol ar ddiwedd y 1940au, ac erbyn diwedd ei gyrfa cafodd ei chydnabod fel un o gantorion mwyaf uchel ei pharch ei chenhedlaeth.

Gyrfa golygu

Ym 1936, ymddangosodd am y tro cyntaf yn La Scala ac ymddangosodd yno'n rheolaidd rhwng 1936 a 1966. Gwnaeth hi ei hun am y tro cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden ym 1953, lle fu hefyd yn ymddangos yn rheolaidd rhwng 1963 a 1965.

Gwnaeth Simionato ei ymddangosiad opera cyntaf yn yr Unol Daleithiau ym 1953 fel Charlotte yn Werther gan Jules Massenet. Perfformiwyd yr opera yn Opera San Francisco gyda Cesare Valletti yn rôl y teitl.[3].Ym 1959 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Metropolitan Opera, fel Azucena yn Il trovatore, gyda Carlo Bergonzi, Antonietta Stella, a Leonard Warren.[4]. Ymddangosodd Simionato hefyd yng Ngŵyl Caeredin (1947), y San Francisco Opera (1953), y Teatro Nacional de São Carlos (1954), Opera'r Lyric o Chicago (1954-1961), Opera Fienna (o 1956), a Gŵyl Salzburg. Yn 1957 canodd yn Maria Bolena gyda Maria Callas.[5] Ym 1961, methodd a chyflawni tri pherfformiad yn y Metropolitan Opera, o herwydd dioddef gyda niwralgia trigeminol.[6]

Roedd gan Simionato repertoire mawr gan gynnwys Rosina gan Rossini a Cinderella, Charlotte yn Werther, a Carmen. Roedd hefyd wedi rhagori yn repertoire Verdi, fel Amneris, Eboli ac Azucena, ac fel Santuzza yn Cavalleria rusticana Mascagni.

Roedd yn artist recordio o bwys, a chafodd llawer o'i pherfformiadau eu darlledu'n fyw ar y radio neu cawsant eu dal ar ffilm. Mae Fono wedi casglu ei recordiadau ar y CD, The Color of a Voice. Ymddeolodd yn 1966, a phriododd Dr. Cesare Frugoni.[7]

Parhaodd i dderbyn edmygedd trwy ei gwaith yn addysgu a swyddi cyfarwyddo amrywiol, gyda bywiogrwydd anhygoel hyd yn oed yn ei 90au. Roedd yn rhan o ffilm ddogfen arobryn Daniel Bacmid Il Bacio di Tosca (Cusan Tosca) ym 1984 am gartref i gantorion opera sydd wedi ymddeol a sefydlwyd gan Giuseppe Verdi. Ymddangosodd hefyd mewn cyfweliad doniol gan Stefan Zucker yn ffilm 1999 Jan Schmidt-Garre, Opera Fanatic.

Disgyddiaeth dethol golygu

Blwyddyn Cyfansoddwr – Opera
(rôl)
Cast,
Cerddorfa, Corws,

Arweinydd

Label
1940 Pietro MascagniCavalleria Rusticana
(Lucia)
Lina Bruna Rasa (Santuzza), Beniamino Gigli (Turiddu), Gino Bechi (Alfio)
Cerddorfa a chorws Teatro alla Scala
Pietro Mascagni
CD: Pearl GEMM CDS 9288 (+Pagliacci),
Naxos Historical 8.110714-15 (+excerpts) (2001)
1954 Georges BizetCarmen
(Carmen)
Nicolai Gedda (Jose), Hilde Güden (Micaela), Michel Roux (Escamillo)
Wiener Symphoniker, Wiener Singerverein
Herbert von Karajan
Recordiad o gyngerdd (8 Hydref 1954)
CD: Andante
AN 3100 (2005)
1954 Giuseppe VerdiRigoletto
(Maddalena)
Aldo Protti (Rigoletto), Hilde Güden (Gilda), Cesare Siepi (Cesare Siepi)
Cerddorfa a chorws Santa Cecilia
Alberto Erede
CD: Decca
440 242-2 (1994)
1955 Giuseppe VerdiLa Forza del Destino
(Preziosilla)
Mario del Monaco (Alvaro), Renata Tebaldi (Leonora), Ettore Bastianini (Don Carlo), Cesare Siepi (Padre Guardiano), Fernando Corena (Fra Melitone)
Cerddorfa a chorws Santa Cecilia
Alberto Erede
CD: Decca Originals
475 8681 (2007)
1956 Giuseppe VerdiIl trovatore
(Azucena)
Mario del Monaco (Manrico), Renata Tebaldi (Leonora), Ugo Savarese (Conte di Luna)
Grand Théâtre de Genève, Maggio Musicale Fiorentino
Alberto Erede
CD: Decca 470 589-2
(2002)
1957 Giuseppe VerdiLa Forza del Destino
(Preziosilla)
Pier Miranda Ferraro (Alvaro), Anita Cerquetti (Leonora), Aldo Protti (Don Carlo), Boris Christoff (Padre Guardiano), Renato Capecchi (Fra Melitone)
Cerddorfa a chorws RAI Roma
Nino Sanzogno
Recordiad o berfformiad a darlledwyd ar 29 Medi 1957
CD: Bongiovanni GAO 174–176 (1995),
Myto 3MCD 992 203 (1999)
1959 Giuseppe VerdiAida
(Amneris)
Carlo Bergonzi (Radames), Renata Tebaldi (Aida), Cornell MacNeil (Amonasro)
Wiener Philharmoniker, Wiener Singerverein
Herbert von Karajan
CD: Decca Legends
460 978-2 (1999)
1960 Giuseppe VerdiLa Forza del Destino
(Preziosilla)
Giuseppe di Stefano (Alvaro), Antonietta Stella (Leonora), Ettore Bastianini (Don Carlo), Walter Kreppel (Padre Guardiano), Karl Dönch (Fra Melitone)
Cerddorfa a chorws Wiener Philharmoniker
Dimitri Mitropoulos
Recordiad o berfformiad gan Opera Taleithiol Fienna (23 Medi1960).
CD: Myto 2MCD 004 228 (2000),
Orfeo C 681 0621 (2007)
1960 Pietro MascagniCavalleria Rusticana
(Santuzza)
Mario del Monaco (Turiddu), Cornell MacNeil (Alfio)
Cerddorfa a chorws Santa Cecilia
Tullio Serafin
CD: Decca
467 484-2 (+Pagliacci) (2002)
1962 Giuseppe VerdiIl trovatore
(Azucena)
Franco Corelli (Manrico), Leontyne Price (Leonora), Ettore Bastianini (Conte di Luna)
Corws y Wiener Staatsoper, Wiener Philharmoniker
Herbert von Karajan
Recordiad o berfformiad yn Salzburg (31 Gorffennaf 1962)
CD: DG 447 659-2 (1995)
1964 Giuseppe VerdiIl trovatore
(Azucena)
Franco Corelli (Manrico), Gabriella Tucci (Leonora), Robert Merrill (Conte di Luna)
Cerddorfa a chorws Teatro dell'Opera di Roma
Thomas Schippers
CD: HMV Classics
HMVD 5 73413-2(1999)

Cyfeiriadau golygu

  1. Great Singers - Giulietta Simionato adalwyd 3 Mai 2016
  2. Washington Post 6 Mai, 2010 Obituary: Italian mezzo-soprano Giulietta Simionato dies adalwyd 3 mai 2019
  3. Driscoll, F. Paul Gorffennaf 2010). "Obituaries: The peerless Giulietta Simionato dies at ninety-nine". Opera News. 75 (1) Archifwyd 2019-05-03 yn y Peiriant Wayback. ] adalwyd 3 mai 2019
  4. "A New Production of 'Trovatore' Opens Met's 75th Season". The New York Times. 25 Hydref 1959
  5. "Giulietta Simionato, star scaligera, muore a 99 anni a Roma", Reuters Italia, 5 Mai 2010 Archifwyd 2019-05-03 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 3 mai 2019
  6. "ILLNESS CURTAILS SOPRANO'S SEASON; Giulietta Simionato Stricken With Neuralgia", The New York Times, 18 Chwefror 1961
  7. Giulietta Simionato obituary - Music The Guardian 7 Mai 2010 adalwyd 3 mai 2019