Roedd Leonard Warren (21 Ebrill 1911 - 4 Mawrth 1960) yn ganwr opera Americanaidd. Roedd yn ganwr bariton ac yn un o artistiaid blaenaf y Metropolitan Opera yn Ninas Efrog Newydd am sawl flwyddyn.[1]

Leonard Warren
Ganwyd21 Ebrill 1911 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 1960 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethcerddor, canwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Leonard Warenoff (enw gwreiddiol y teulu) yn y Bronx i rieni o fewnfudwyr Iddewig o Rwsia. Cafodd Warren ei gyflogi gyntaf ym musnes ffwr ei dad. Ym 1935, ymunodd â'r corws yn Radio City Music Hall. Ym 1938, aeth i mewn i Glyweliadau'r Awyr Opera Metropolitan. Er gwaetha'r ffaith ei bod yn amlwg bod Warren yn ddechreuwr, roedd ei ddoniau naturiol yn amlwg, a rhoddwyd contract iddo ar unwaith. Anfonodd y Met ef i'r Eidal yr haf hwnnw gyda grant astudio.[2]

Wedi dychwelyd i'r Unol Daleithiau, gwnaeth Warren ei gyngerdd cyntaf yn y Metropolitan Opera yn canu darnau o La traviata a Pagliacci yn ystod cyngerdd yn Ninas Efrog Newydd ym mis Tachwedd 1938. Digwyddodd ei début operatig ffurfiol yno ym mis Ionawr 1939, pan ganodd Paolo yn Simon Boccanegra. Dilynodd contract recordio gyda RCA Victor yn fuan.[3]

Wedi hynny, canodd Warren yn San Francisco, Chicago, Dinas Mecsico a Buenos Aires, ac ymddangosodd yn La Scala ym Milan ym 1953. Ym 1958, aeth ar daith hynod lwyddiannus o gwmpas yr Undeb Sofietaidd, ond am y rhan fwyaf o'i yrfa, arhosodd yn Ninas Efrog gan ganu yn y Met. Ym 1950, cafodd dröedigaeth i Gatholigiaeth Rufeinig, ffydd ei wraig Agatha, a daeth yn hynod o bybyr.

Gyrfa recordio

golygu

Er iddo ganu Tonio yn Pagliacci, Escamillo yn Carmen, a Scarpia yn Tosca cafodd glod arbennig fel un o ddehonglwyr gorau rolau mawr i'r bariton gan Verdi, yn anad dim y rôl teitl yn Rigoletto, a recordiwyd ym 1950 ar RCA Victor. Eraill ar y record oedd y soprano Erna Berger a'r tenor Jan Peerce. Yr arweinydd oedd Renato Cellini. Hwn oedd y recordiad operatig cyflawn cyntaf i'w ryddhau ar LP. Canodd y rôl hefyd mewn cyngerdd budd i'r Groes Goch yn Madison Square Garden ym 1944.Dim ond act olaf yr opera a ymddangoswyd ar record. Canodd Jan Peerce y Dug unwaith eto, ond y tro hwn roedd Zinka Milanov yn Gilda, ac Arturo Toscanini oedd arweinydd Cerddorfa Symffoni NBC.

Mae ei recordiadau opera cyflawn eraill yn cynnwys

Cymerodd Warren ran mewn carreg filltir deledu hanesyddol ym 1948, pan ganodd yn y telecast byw cyntaf o'r Opera Metropolitan. Darlledwyd Otello Giuseppe Verdi gan ABC-TV ar 29 Tachwedd 1948, noson agoriadol y tymor. Roedd Ramon Vinay yn Otello, Licia Albanese yn Desdemona, a chanodd Warren rôl Iago.

Ym 1958, teithiodd Warren yn yr Undeb Sofietaidd.[4] Roedd yn un o'r ychydig artistiaid Americanaidd a wahoddwyd i wneud hynny a chafodd lwyddiant mawr mewn cyngherddau yn Leningrad a Kiev. Cafodd y cyngherddau eu recordio a rhyddhawyd dyfyniadau gan RCA Victor ar yr albwm Leonard Warren: On Tour in Russia, sydd ar gael ar LP a CD.

Marwolaeth

golygu
 
Bedd Warren

Perfformiad cyflawn olaf Warren oedd rôl y teitl yn Simon Boccanegra ar 1 Mawrth, 1960 yn y Met. Dri diwrnod yn ddiweddarach, ar 4 Mawrth, yn ystod perfformiad o La forza del destino gyda Renata Tebaldi fel Leonora a Thomas Schippers yn arwain, cwympodd Warren yn sydyn a bu farw ar y llwyfan. Roedd Warren yn bedwar deg wyth oed. Effeithiodd ei farwolaeth ar amserlen y Met am nifer o flynyddoedd wedyn; roedd wedi cael ei gastio yn rôl y teitl ar gyfer perfformiad cyntaf y Met o Nabucco, Verdi yn ystod tymor 1960-61.[5]

Mae Leonard Warren wedi ei gladdu ym Mynwent y Santes Fair yn Greenwich, Connecticut.[6]

Cyfeiriadau

golygu