Leontyne Price
Mae Mary Violet Leontyne Price (ganwyd 10 Chwefror 1927) yn gantores opera Americanaidd. Mae ganddi lais soprano. Hi oedd yr American Affricanaidd cyntaf i fod yn Prima Donna yn y Metropolitan Opera.
Leontyne Price | |
---|---|
Ganwyd | Mary Violet Leontyne Price 10 Chwefror 1927 Laurel |
Label recordio | RCA Victor |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera |
Arddull | opera, cerddoriaeth boblogaidd |
Math o lais | soprano |
Priod | William Warfield |
Gwobr/au | Medal Spingarn, Y Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Gramophone am Waith Gydol Oes, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr Emmy, Gwobr Grammy, International Opera Awards, Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman |
Fel soprano lirico spinto (Eidalaidd ar gyfer telyneg wthiol), ystyriwyd ei bod yn arbennig o addas ar gyfer rolau gan Giuseppe Verdi a Giacomo Puccini, yn ogystal â nifer o operâu gan Wolfgang Amadeus Mozart.[1]
Ar ôl iddi ymddeol o'r llwyfan opera yn 1985, parhaodd i ymddangos mewn datganiadau a chyngherddau cerddorfaol hyd 1997.
Cefndir
golyguGanwyd Price yn Laurel, Mississippi yn blentyn i James a Katie Price. Roedd Katie Price yn fydwraig a oedd yn canu yng nghôr ei eglwys. Dechreuodd Price ddysgu canu'r piano pan oedd yn 3 mlwydd oed. Dilynodd ei mam i ymuno â chôr yr eglwys gan ddod yn unawdydd i gyfeiliant côr eglwys Fethodistaidd St Paul. Bu yn ennill arian ychwanegol i'r teulu trwy ganu mewn priodasau a chynebryngau.
Wedi ymadael a'r ysgol aeth i ddysgu bod yn athrawes cerdd yng ngholeg ar gyfer pobl groenddu yn unig, Coleg Wilberforce yn Wilberforce, Ohio. Trwy berfformio efo cymdeithasau cerddorol y coleg daeth ei doniau fel cantores yn amlwg. Cafodd ei hannog gan ei athrawon i geisio am hyfforddiant llais. I helpu talu'r gost o gael addysg gerddorol bellach rhoddodd y canwr a'r dyngarwr Paul Robeson cyngerdd bydd iddi.[2] Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Juilliard, Dinas Efrog Newydd, lle cafodd ei hyfforddi gan Florence Page Kimball
Gyrfa
golyguYm 1952 dewisodd Virgil Thomson Price ar gyfer adferiad ar Broadway o'i opera Four Saints in Three Acts. Opera gyda chast croenddu. Ym 1953 chafodd ei chastio i rôl Bess mewn cynhyrchiad newydd o opera George Gershwin Porgy and Bess.[3] Wedi tymor yn Theatr Ziegfeld ar Broadway aeth ar daith ryngwladol gyda'r opera. Aeth y daith a hi i Chicago, Pittsburgh, Washington DC, Fienna, Berlin, Llundain a Pharis.
Gyda'r bwriad o gael gyrfa fel cantores cyngerdd canodd y perfformiad cyntaf o Hermit Songs, cylch o ganeuon gan Samuel Barber, yn Llyfrgell y Gyngres. Cyflwynodd, hefyd, waith newydd gan Lou Harrison a John La Montaine.
Ail afaelodd ar ei gyrfa yn yr opera drwy ymddangosiad teledu llwyddiannus iawn yn canu rôl y teitl yn Tosca ym 1955. Ymddangosodd yn San Francisco ym 1957 fel Madame Lidoine yn Dialogues des Carmélites Francis Poulenc ac yn rôl y teitl yn Aida, Giuseppe Verdi. Yn ei débuts yn Arena Verona, Vienna a'r Tŷ Opera Brenhinol (pob un o 1958) a La Scala (1960), cafodd fuddugoliaethau pellach fel Aida. Bu ei ymddangosiad gyntaf yng Ngŵyl Salzburg ym 1960, fel Donna Anna yn Don Giovanni Mozart. Ddychwelyd i'r ŵyl ym 1962 fel Leonora yn Il trovatore.
Un ymddangosiad nodedig ymhlith llawer yn y Metropolitan Opera, Efrog Newydd oedd fel Cleopatra yn Antony a Cleopatra gan Samuel Barber, a gomisiynwyd ar gyfer agor y Theatr Fetropolitan newydd ym 1966 [4]. Ym 1975 chwaraeodd Manon yn Manon Lescaut gan Giacomo Puccini yn y Met Yno, a gwnaeth ei hymddangosiad ffarwelio, hefyd, yn rôl teitl Aida ym 1985.[5]
Galwyd arni'n aml fel unawdydd ar gyfer achlysuron y gwladol. Ym mis Ionawr 1973, canodd "Precious Lord, Take My Hand" a "Onward, Christian Soldiers" yn angladd gwladol yr Arlywydd Lyndon B. Johnson, yr oedd hi wedi canu iddo ym 1965. Gwahoddodd yr Arlywydd Jimmy Carter hi i ganu datganiad a ddarlledwyd yn genedlaethol o'r Tŷ Gwyn ym 1978, a dychwelodd i ganu ar gyfer ciniawau'r wladwriaeth ar ôl llofnodi'r Cytundebau Camp David ac ar ymweliad y Pab Ioan Pawl II.[6]
Er bod ei repertoire yn cofleidio rolau gan Mozart, Puccinia a Handel, yn operâu Verdi, yn bennaf, y cyflawnodd enwogrwydd fel un o'r sopranos mwyaf blaenllaw. Roedd ei llais yn wir lirico-spinto, yn gallu llenwi ymadroddion hir Verdi gyda thôn lân, llawn a swmpus.
Cyn ymddeol, rhoddodd Price sawl dosbarth meistr yn Ysgol Juilliard ac ysgolion eraill. Ym 1997, ar awgrym RCA Victor, ysgrifennodd fersiwn llyfr plant o Aida,[7] a ddaeth yn sail i'r sioe gerdd Broadway gan Elton John a Tim Rice yn 2000.
Ym mis Hydref 2001, yn 74 oed, gofynnwyd i Price ddod allan o ymddeoliad i ganu mewn cyngerdd coffa yn Neuadd Carnegie ar gyfer dioddefwyr ymosodiadau Medi 11, 2001. Gyda James Levine ar y piano, canodd y gan ysbrydol, "This Little Light of Mine", ac yna "God Bless America" yn ddigyfeiliant.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Blyth, A. (2009, May 15). Price, (Mary Violet) Leontyne. Grove Music Online adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ Randye Jones, "Biographies: Leontyne Price (b. 1927)", Afrocentric Voices in "Classical" Music adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ "Price, Mary Violet Leontyne". Encyclopedia of African-American Culture and History adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ NY Times 22 Rhagfyr 2017 Leontyne Price, Legendary Diva, Is a Movie Star at 90 adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ Garland, Phyl (June 1985). "Leontyne Price: Getting Out At the Top. A prima donna assoluta says goodbye to the opera, will continue as concert singer", Ebony Magazine; adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ Office of Staff Secretary; Series: Presidential Files; Folder adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ Encyclopædia Britannica Leontyne Price AMERICAN OPERA SINGER adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ MUSIC REVIEW; A Concert Offers City Some Time For Healing gan ANTHONY TOMMASINI 1 Hydref 2001; adalwyd 1 Mai 2019