Gorllewin De Cymru (etholaeth Senedd Ewrop)

etholaeth Senedd Ewrop

Roedd Gorllewin De Cymru yn etholaeth Senedd Ewrop a oedd yn cwmpasu rhan o ddeheubarth Cymru gan gynnwys dinas Abertawe.

Hanes golygu

Cyn mabwysiadu ffurf ar gynrychiolaeth gyfrannol ym 1999, defnyddiodd y Deyrnas Unedig dull "Y Cyntaf i'r Felin" ar gyfer etholiadau Ewropeaidd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Roedd yr etholaethau Senedd Ewropeaidd a ddefnyddid o dan y system honno yn llai na'r etholaethau cyfredol ac yn ethol un aelod yr un.

Cafodd yr etholaeth ei chreu ar gyfer etholiad senedd Ewrop 1994 allan o rannau o etholaethau dde Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru, Daeth y sedd yn rhan o etholaeth Cymru gyfan ym 1999.

Roedd yr etholaeth yn cynnwys etholaethau seneddol Aberafan, Pen-y-bont ar Ogwr, Gŵyr, Castell-nedd, Ogwr, Dwyrain Abertawe a Gorllewin Abertawe.

Aelodau etholedig golygu

Etholiad Aelod Plaid
1994 David Morris Llafur

Canlyniad Etholiad 1994 golygu

Dyma ganlyniadau etholiad 1994.[1]

Etholiad Senedd Ewrop, 1994: Etholaeth Gorllewin De Cymru
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Parch David Morris 104,263 66.1
Ceidwadwyr R J Buckland 19,293 12.2
Democratiaid Rhyddfrydol J G Bushell 15,499 9.8
Plaid Cymru Miss C M Adams 12,364 7.9
Gwyrdd Miss J B Evans 4.114 2.6
Deddf Naturiol Miss H Evans 1,106 0.7
Ymgeisydd Ewropeaidd o'r Blaned Beanus Y Capten Beany 1,106 0.7
Mwyafrif 84,970 53.9
Y nifer a bleidleisiodd 395,131 39.9
Llafur yn cadw Gogwydd

Cyfeiriadau golygu