Gorllewin Dundee (etholaeth seneddol y DU)
Mae Gorllewin Dundee yn etholaeth fwrdeistrefol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1950 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi ewid rhyw ychydig ers hynny. Holltwyd un etholaeth enfawr yn 1950 (etholaeth Dundee) i greu dwy newydd: yr etholaeth hon (Gorllewin Dundee) a Dwyrain Dundnee. Mae rhan o'r etholaeth o fewn y siroedd: Aberdeen a Swydd Aberdeen.
Gorllewin Dundee | |
---|---|
Etholaeth Bwrdeistref ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Gorllewin Dundee yn Yr Alban. | |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 1950 |
Aelod Seneddol | Chris Law SNP |
Nifer yr aelodau | 1 |
Crewyd o | Dundee |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Chris Law, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei afael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.
Am flynyddoedd roedd hon yn etholaeth saff i'r Blaid Lafur, yn fwy felly hyd yn oed na'i hefaill: Dwyrain Dundee. Hyd at 2015, cynrychiolwyd yr etholaeth gan Llafur ers y 1950au. Lleihawyd pleidlais Llafur yn enbyd yn Etholiad Cyffredinol, 2005 gan Joe Fitzpatrick, ar ran yr SNP ac yn 2015 gorchfygodd y Cenedlaetholwyr.
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|