Grand Theft Auto: The Lost and Damned

Grand Theft Auto IV: The Lost and Damned yw'r cyntaf o ddau becyn ehangu episodig o gêm fideo 2008 Grand Theft Auto IV, a ddatblygwyd gan Rockstar North ac a gyhoeddwyd gan Rockstar Games. Dyma'r trydydd pecyn ehangu yng nghyfres Grand Theft Auto (yr un cyntaf ers Grand Theft Auto: London 1961, a ryddhawyd ym 1999), a'r deuddegfed gêm yn gyffredinol. Rhyddhawyd y gêm yn unigol ar gyfer yr Xbox 360 ar 17 Chwefror 2009,[1] . Fe ryddhawyd ar gyfer y PlayStation 3 a Microsoft Windows ar 13 Ebrill 2010, fel rhan o becyn dau ddisg o'r enw Grand Theft Auto: Episodes from Liberty City, sydd yn cynnwys The Lost and Damned a Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony (yr ail ehangiad Grand Theft Auto IV ). Nid oes angen chwarae na bod yn berchen a'r gêm sylfaen er mwyn ei chware.[2] Ychwanegodd Microsoft Episodes from Liberty City at ei restr ôl cydnawsedd ar gyfer llwyfannau Xbox One ym mis Chwefror 2017.[3]

Grand Theft Auto: The Lost and Damned
Enghraifft o'r canlynolpecyn estyn Edit this on Wikidata
CyhoeddwrRockstar Games Edit this on Wikidata
GwladYr Alban, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi17 Chwefror 2009 Edit this on Wikidata
Genregêm antur ac ymladd Edit this on Wikidata
CyfresGrand Theft Auto Edit this on Wikidata
CymeriadauRoman Bellic, Luis Fernando Lopez, Niko Bellic, Johnny Klebitz Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLiberty City Edit this on Wikidata
DosbarthyddTake-Two Interactive Edit this on Wikidata

Wedi'i osod yr un pryd â digwyddiadau Grand Theft Auto IV a The Ballad of Gay Tony, mae The Lost and Damned yn dilyn campau Johnny Klebitz, is-lywydd cyfrinfa Liberty City o The Lost MC, clwb beicwyr modur.[4] Chwaraeodd Johnny a'r Lost MC rhan mewn nifer o dasgau yn y gêm sylfaen. Mae prif linell stori'r bennod yn canolbwyntio ar ymdrechion Johnny i gadw'r gyfrinfa i redeg, wrth ddelio â gwrthdaro mewnol, rhyfel gangiau, deliau cyffuriau, a gelynion amrywiol. Mae hefyd yn dangos persbectif Johnny yn y llinell stori diemwnt a ddarlunnir yn Grand Theft Auto IV a The Ballad of Gay Tony .

Derbyniodd y gêm adolygiadau cadarnhaol iawn ar ôl ei rhyddhau, ac mae'n cael ei ystyried yn un o'r pecynnau ehangu gemau fideo gorau erioed.

Chware'r gêm golygu

 
Beicwyr

Mae Grand Theft Auto IV: The Lost and Damned yn gêm antur weithredol sydd wedi'i gosod mewn amgylchedd byd agored. Mae'r gêm yn cael ei chwarae o safbwynt trydydd person. Mae'n defnyddio'r un nodweddion chware a Grand Theft Auto IV, ac yn digwydd yn yr un lleoliad yn Liberty City. Mae The Lost and Damned yn cynnwys tua thraean y nifer o dasgau mae'r gêm sylfaen yn ei chynnwys. Mae'n cymryd oddeutu 10-15 awr i'w cwblhau, o roi'r ffocws yn bennaf ar ddilyn llinyn y stori, heb mynd ar grwydr i wneud tasgau ymylol.[5][6] Mae'r gêm hefyd yn cynnwys ychwanegiadau newydd, rhai o ran cysylltiad Johnny â'r Lost MC, a rhai mân newidiadau.

Yr amlycaf o'r ychwanegiadau hyn yw argaeledd pwyntiau gwirio sy'n caniatáu i'r chwaraewr dychwelyd yn awtomatig i leoliad penodol er mwyn sbarduno ac ailchwarae tasg a fethwyd. Bu feirniadaeth am rai o' gemau blaenorol y gyfres Grand Theft Auto o'r angen i wneud teithiau pell o fan arbed gêm i safle tasg a methwyd. Dim ond ar ôl methu (ac arbed y methiant) unwaith bydd y pwyntiau gwirio ar gael. Mae mynd i fan gwirio'r dasg yn cychwyn y dasg o'r dechrau. Ochr yn ochr â'r system gwirio, mae The Lost and Damned yn cynnwys arfau a cherbydau newydd, gan gynnwys beic modur pwrpasol Johnny (mae Johnny ei hun yn fwy medrus gydag unrhyw feic na gydag unrhyw gerbyd arall),[7] y gallu i alw ar gymorth gan aelodau o'r Lost MC, casgliad newydd ond bach o gymeriadau ar hap, gweithgareddau ochr ychwanegol, a swyddi ochr unigryw gan gynnwys Rhyfeloedd Gang a Rasys Beic. Yn ogystal, mae gan y gêm ychydig o newidiadau i gêm Grand Theft Auto IV, yn yr ystyr bod Johnny yn gallu cyrchu Liberty City gyfan o ddechrau gêm newydd, ond ni all newid ei ddillad na mynd i mewn i siopau dillad. Mae clwb comedi'r ddinas, Split Sides, hefyd yn cynnwys digrifwr newydd sbon yn gwneud sioe yno, tra nad yw siopau gwn yn stocio unrhyw un o'r arfau newydd sydd i'w gweld yn The Lost and Damned; dim ond trwy werthwr gwn y clwb y gellir eu prynu.

Crynodeb golygu

Lleoliad golygu

Mae The Lost and Damned yn digwydd yn yr un lleoliad a ddefnyddir ar gyfer Grand Theft Auto IV, Liberty City ac Alderney, er bod y gêm yn rhoi'r gallu i chwaraewyr archwilio'r lleoliad cyfan o'r cychwyn cyntaf. Mae digwyddiadau stori'r gêm yn digwydd ochr yn ochr â rhai'r brif gêm a The Ballad of Gay Tony, gyda thasgau'r gêm yn cydblethu â'r ddau arall, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys digwyddiadau o'r gemau eraill yn cael eu gweld o safbwynt Johnny. Er enghraifft yn y tasgau Museum Piece (GTA IV), Collector's Item (TLAD) a Not So Fast (TBoGT) mae'r un ddêl cyfnewid diemwntau yn cael ei adrodd o safbwynt Niko Bellic, Johnny Klebitz a Luis Fernando Lopez

Plot golygu

Yn 2008, mae Billy Gray (Lou Sumrall), llywydd cyfrinfa Alderney y clwb beic modur Lost, yn cael ei groesawu yn ôl gan ei gyd-aelodau gang yn dilyn ei ryddhau o adsefydlu a orchmynnwyd gan y llys.[8] Er bod yr is-lywydd Johnny Klebitz (Scott Hill) yn awyddus i ailafael mewn busnes, mae Billy yn ei gythruddo trwy dorri cadoediad yr oedd wedi'i drefnu gyda chystadleuwyr The Lost, Angels of Death. Ar ôl i gyd-aelod o’r gang, Jason Michaels (Bill Burr), gael ei ladd yn Broker, mae Billy yn beio ei farwolaeth ar yr Angels, er gwaethaf y diffyg tystiolaeth bendant, ac yn gorchymyn The Lost i losgi eu tŷ clwb er mwyn ddial. Pan mae Johnny yn gweld Billy ac ysgrifennydd The Lost, Brian Jeremy (Adrian Martinez) yn dwyn celc o heroin o’r tŷ clwb cyn iddo losgi i lawr, mae’n cwestiynu gwir reswm Billy am yr ymosodiad.[9]

 
Niko a Johnny yn y ddêl diemwntau

Yn ddiweddarach, mae Billy yn trefnu i Johnny gwrdd â'r arweinydd gang cyffuriau, Elizabeta Torres (Charlie Parker), sy'n darparu prynwr iddo ar gyfer yr heroin. Er iddo gael ei gynorthwyo gan gymdeithion Elizabeta, Niko Bellic (Michael Hollick) a Playboy X (Postell Pringle), mae'r cyfnewid yn troi allan i fod yn gynllun cudd gan yr heddlu. Mae Johnny yn llwyddo i ddianc gyda'r cyffuriau. Yn dilyn hyn, mae Billy yn aseinio Johnny i ddarparu cymorth i'r gwleidydd llygredig Thomas Stubbs III (John Lantz), sydd angen help gyda'i ymgyrch ailethol ac yn addo dychwelyd y ffafr yn y dyfodol. Yn dilyn hyn, mae trysorydd The Lost a ffrind gorau Johnny, Jim Fitzgerald (Chris McKinney), yn cyrraedd gyda newyddion bod yr heroin oedd wedi'i ddwyn yn perthyn i'r Triads ac yn cynghori'r gang i'w ddychwelyd atynt. Mae Billy yn cytuno, ond yn gyfrinachol yn trefnu i'r Triads ladd Johnny a Jim. Mae'r ddau yn llwyddo i ddianc pan fydd y cyfnewid gyda'r Triads yn troi'n hyll, er iddo gael ei orfodi i adael yr heroin ar ôl, ac mae Billy yn cael ei arestio gan yr heddlu yn ystod yr anhrefn.[10]

Mae Johnny yn cymryd yr awenau fel llywydd y clwb, ond mae'n wynebu problemau newydd gan Brian, sy'n dal yn ffyddlon i Billy, ac yn ei ddal yn gyfrifol am ei arestio. Wrth ymdrin â rhyfel cartref a ddechreuwyd gan Brian, mae Johnny yn brwydro i godi arian ar gyfer y clwb ac yn ymgymryd â swyddi gan Elizabeta ochr yn ochr â Malc (Walter Mudu) a DeSean (Craig "muMs" Grant), aelodau o gang yr Uptown Riders, y mae'n dod yn gyfeillgar â nhw. Mae hefyd yn helpu ei gyn-gariad, gaeth i gyffuriau, Ashley Butler (Traci Godfrey) i dalu ei dyledion i'r mobster o Rwsia Dimitri Rascalov trwy herwgipio cefnder Niko, Roman (Jason Zumwalt).[11]

Yn y pen draw, mae Johnny yn lladd Brian i roi diwedd ar y rhyfel ar ôl i Ray Boccino (Joe Barbara) caporegime Teulu Troseddol Pegorino, yn datgelu ei guddfan. Yn gyfnewid am hyn, mae Boccino yn gofyn i'r gang ddwyn llwyth o ddiemwntau sydd ar fin cael eu prynu gan berchennog y clwb nos Gay Tony Prince (DB Cooper). Er bod y lladrad yn llwyddiannus, mae'r cyfnewidiad dilynol gyda'r mob Iddewig, dan oruchwyliaeth Johnny a Niko, yn cael ei rhagodi gan Luis Lopez (Mario D'Leon), gwarchodwr personol Gay Tony. Mae Johnny yn dianc gyda'r arian yn yr anhrefn. Am iddo fynd a'r arian mae Boccino yn ei gipio ef a Jim am eu brad. Mae'r pâr yn llwyddo i ddianc, ond ar ôl i Johnny ddelio â llofruddion a anfonwyd gan Boccino, mae'n dysgu gan Ashley bod Jim wedi'i ladd yn fuan ar ôl iddyn nhw ymwahanu.

Gyda'r gang wedi gwanhau, mae Johnny yn cael ymweliad gan Stubbs yn y clwb gyda newyddion pwysig. Er bod Boccino yn cael ei arsylwi gan orfodaeth cyfraith ffederal ac nad yw bellach yn fygythiad, mae Stubbs yn datgelu bod Billy yn bwriadu troi'n dyst y wladwriaeth yn erbyn The Lost er mwyn ymuno â'r Rhaglen Diogelu Tystion. Mae Johnny ac aelodau’r gang sy’n weddill yn ymosod ar Garchar Talaith Alderney, lle mae Johnny yn ymladd ei ffordd trwy'r gwarchodwyr i gyrraedd a lladd Billy. Wrth ddychwelyd i'w tŷ clwb, mae'r gang yn canfod ei fod wedi ei ddinistrio gan ddynion Boccino, ac yn penderfynu llosgi ei weddillion i lawr a dod o hyd i borfeydd newydd a dechrau pennod newydd mewn man arall. Yn yr epilog, mae Johnny yn torri ei gysylltiadau â Stubbs ac Ashley yn llwyr, ac yn mynegi ei fwriadau i adael y gang dros dro er mwyn cefnogi gweddw a phlentyn Jim yn ariannol.[12]

Derbyniad golygu

Derbyniodd Grand Theft Auto IV: The Lost and Damned "glod cyffredinol" am y fersiwn Xbox 360 ac adolygiadau "ffafriol ar y cyfan" ar gyfer PlayStation 3 gan feirniaid, yn ôl y cwmni agregiadau Metacritic .

Cyfeiriodd beirniaid at ansawdd gwell ei beiciau modur o gymharu â'r gemau blaenorol, llinell stori ddramatig, actio llais o safon, cydran aml- chwaraeydd caethiwus a chynnwys newydd arall a ychwanegodd oriau lawer o amser gêm.

Dadlau golygu

 
Y clip dadleuol

Yn y cyflwyniad ar gyfer y dasg 'Politics', mae Tom Stubbs yn dangos ei organau cenhedlu mewn golygfa lle mae'n wynebu tuag at y camera ar ôl dod oddi ar fwrdd tylino a thrafod ei gynlluniau gyda Johnny. Cyhoeddodd y grŵp cynghori rhieni Common Sense Media rybudd cyhoeddus am y pecyn ehangu oherwydd yr olygfa o noethni gwrywaidd llawn. Roeddent yn honni bod y gêm "hyd yn oed yn fwy dadleuol na'i rhagflaenwyr" oherwydd ei bod yn cynnwys "noethni gwrywaidd llawn".[13]

Cyfeiriadau golygu

  1. Bramwell, Tom (22 Ionawr 2009). "Rockstar prices GTA: The Lost and Damned". Eurogamer. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2020.
  2. Greg Miller (18 Mawrth 2010). "Grand Theft Auto: Episodes from Liberty City Gets Delayed - PlayStation 3 News at IGN". Ps3.ign.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-22. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2020.
  3. "Take-Two Interactive Software, Inc. Reports Second Quarter Fiscal 2009 Financial Results". Take Two. 26 May 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mai 2009. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2020.
  4. Schiesel, Seth (2009-02-17). "Grand Theft Auto: The Story Continues, as Gritty as Ever (Published 2009)". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-11-29.
  5. Surette, Tim (16 February 2009). "GTA IV: The Lost & Damned In-Depth". IGN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Chwefror 2009. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2020.
  6. "How long is Grand Theft Auto IV: The Lost and Damned? | HowLongToBeat". howlongtobeat.com. Cyrchwyd 2020-11-29.
  7. "Grand Theft Auto IV: The Lost And The Damned". Empire (yn Saesneg). 2009-02-28. Cyrchwyd 2020-11-29.
  8. "Grand Theft Auto IV: The Lost and Damned Review". VideoGamer.com. Cyrchwyd 2020-11-29.
  9. Donlan, Christian (2009-02-16). "Grand Theft Auto IV: The Lost and Damned". Eurogamer. Cyrchwyd 2020-11-29.
  10. "The Main Plot - Missions 1-5 | The Main Plot - Grand Theft Auto IV: The Lost and Damned Game Guide | gamepressure.com". Game Guides. Cyrchwyd 2020-11-29.
  11. "The Main Plot - Missions 6-10 | The Main Plot - Grand Theft Auto IV: The Lost and Damned Game Guide | gamepressure.com". Game Guides. Cyrchwyd 2020-11-29.
  12. "The Lost and Damned - Grand Theft Wiki". www.grandtheftwiki.com. Cyrchwyd 2020-11-29.
  13. "Parents Group Warns Against Lost And Damned Nudity", Wired.com, 21 Chwefror 2009

Dolenni allanol golygu