Roman Bellic

ail gymeriad yn Grand Theft Auto IV

Mae Roman Bellic yn gymeriad yng Nghyfres Grand Theft Auto sy'n ymddangos fel yr ail gymeriad yn Grand Theft Auto IV ac fel mân gymeriad yn The Lost and Damned a The Ballad of Gay Tony. Mae Roman yn gefnder i brif gymeriad GTA IV, Niko Bellic. [1] Mae'r cymeriad yn cael ei leisio gan Jason Zumwalt.[2]

Roman Bellic
Ganwyd1977 Edit this on Wikidata
Iwgoslafia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
MamMam Roman Edit this on Wikidata
PlantPlentyn Roman Edit this on Wikidata
PerthnasauNiko Bellic Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Mae Roman ychydig o flynyddoedd yn hŷn na'i gefnder. Mae o'n 31 mlwydd oed ar ddechrau'r gêm sy'n awgrymu iddo gael ei eni tua 1977.

Cafodd Roman ei eni a'i fagu yn hen Iwgoslafia (Serbia heddiw) yn Nwyrain Ewrop.[3] Fe'i magwyd gyda'i gefnder Niko. Mae Niko yn honni bod ei fam yn gofalu amdano ef a Roman a bod ei fam wedi celcio arian er mwyn anfon y ddau ohonynt i Unol Daleithiau America ym 1998. Penderfynodd Niko i beidio mynd er mwyn aros ymladd yn y rhyfel oedd yn digwydd yn ei wlad ar y pryd. Wrth siarad efo Kate McReary, mae Niko yn datgan bod mam Roman wedi ei threisio a’i llofruddio. Mae Roman yn credu ei bod hi wedi marw yn ddamweiniol mewn tân yn ei chartref. Roedd tadau Niko a Roman yn frodyr ac roedd y ddau yn feddwon oedd yn gam drin eu gwragedd a'u plant.

Wedi cyrraedd America mae Roman yn ysgrifennu at ei fodryb a'i gefnder i adrodd sut roedd yn byw Y Freuddwyd Americanaidd o godi o ddim i fod yn ŵr llewyrchus, llwyddiannus.[4] Mae'n honni ei fod yn byw mewn plasty, yn cynnal partïon sy'n cael eu mynychu gan y sêr a merched nwydus bodlon eu ffafrau ac yn gyrru ceir cyflym drudfawr.

Tra fo Roman yn fyw'r breuddwyd, yn ôl ei sôn, bu fywyd ei gefnder yn hunllef. Ar ôl ymosodiad ar uned o bymtheg o ddynion o’i bentref, dihangodd Niko a daeth i’r casgliad bod yr uned wedi’i bradychu gan un o’r milwyr eu hunain. Dysgodd fod dau arall wedi goroesi, Florian Cravic a Darko Brevic, ac mae'n addo chwilio am y bradwr. Ar ôl y rhyfel, cafodd Niko anhawster i arwain bywyd normal, trodd at isfyd troseddol gwledydd y Balcan. Ymunodd â chylch smyglo a masnachu pobl a oedd yn cael ei rhedeg gan y troseddwr Rwsiaid, Ray Bulgarin. Yn ystod un rhediad smyglo i'r Eidal, suddodd y cwch yr oedd Niko yn gweithio arno yn Môr Adria.[5] Nofiodd Niko i ddiogelwch, ond cyhuddodd Bulgarin ef o ddianc gyda'r arian. Yn ddiweddarach, ymunodd Niko â'r llynges fasnachol er mwyn ffoi o Bulgarin. Ymunodd â chriw llong cargo'r Platypus. Roedd y Platypus yn hwylio Liberty City cartref Roman a chartref un o oroeswyr yr ymosodiad ar ei uned, Florian Cravic.

Y Cychwyn golygu

Mae holl gemau Grand Theft Auto IV yn cychwyn gyda glaniad Niko yn Liberty City a'i aduniad efo'i gefnder Roman.

Y Freuddwyd v Y Gwirionedd golygu

 
Aduniad Roman a Niko yn nociau Liberty City

Mae Niko yn glanio ym mhorthladd Liberty City. Mae Roman yn ei gyfarfod, nid mewn sbortscar ond mewn tacsi. Nid fel teithiwr mewn tacsi, ond yn gyrru tacsi. Mae'n chwil ac yn flêr ac mae golwg tlodaidd arno. Gan ei fod yn chwil mae Niko yn ei yrru i'w gartref. Wedi cyrraedd cartref Roman mae Niko'n darganfod nad yw'n byw mewn plasty. Mae'n byw mewn fflat un ystafell, pwdr, drewllyd, llawn chwilod duon mawr. Yn hytrach na nofio mewn golud mae Roman yn boddi mewn dyledion gamblo sy'n cael eu hariannu gan bobl beryglus, megis siarcod benthyg Maffia'r Rwsiaid. O'r cychwyn cyntaf, yn hytrach na rhannu bywyd gwych breuddwydiol Roman, mae Niko yn gorfod amddiffyn Roman rhag oblygiadau ei fywyd gwachul go iawn.

Er gwaethaf ymffrost Roman am ei fywyd rhywiol rhyddfrydol efo merched tethfawr di rifedi, mewn gwirionedd mae'n caru'n ffyddlon efo un fenyw, Mallorie Bardas.[6]

Cyfeillgarwch golygu

Er eu bod yn gefndryd dydy Niko a Roman ddim yn gyfeillion o'r cychwyn cyntaf. Yn y gêm mae modd adeiladu cyfeillgarwch gyda gwahanol gymeriadau trwy gymdeithasu a hwy. Dydy'r ffaith bod Niko yn achub tîn ac yn achub bywyd Roman mewn llawer o dasgau'r gêm ddim yn creu cyfeillgarwch rhyngddynt. I ddod yn gyfaill triw mae'n rhaid i Niko mynd a fo i glybiau stripio, sioeau, bwytai, a chware gemau megis bowlio deg, dartiau a phŵl gydag o. O ddod yn gyfaill iddo mae modd i Niko ffonio Roman am wasanaeth y cwmni tacsi mae'n rhedeg i gael siwrne tacsi rhad ac am ddim, sy'n gymorth mawr wrth gyrchu tasgau o bell neu ar siwrneiau cymhleth.[7]

Helyntion golygu

Un o brif themâu GTA IV ac is thema The Lost and Damned a Ballad of Gay Tony yw sut mae Roman yn mynd i helyntion ei hun ac yn tynnu Niko i mewn i'w helyntion, a'r hyn mae Niko yn gwneud i amddiffyn Roman a sut mae Niko yn datrys y problemau.

Ymysg helyntion Roman mae:

 
Niko Bellic
 
Johnny Klebitz
  • Tasg It's Your Call. Mae siarcod benthyg o Albania yn chwilio am Roman i gasglu dyled. Mae Niko yn cadw golwg amdanynt dra fo Roman yn chware cardiau . Wedi iddynt droi fyny mae Niko yn casglu Roman yn ei gar. Mae'r Albaniaid yn eu hymlid ond mae Niko'n llwyddo i ddianc gyda Roman cyn iddynt gael eu dal.[8]
  • Tasg Three's a Crowd . Mae Niko'n rhoi crasfa i'r Albaniaid wedi iddynt ganfod Roman yn ei swyddfa tacsi. Yn ystod y dasg mae Mallory, cariad Roman, yn cyflwyno Niko i Michelle. Mae Michelle yn dod yn gariad iddo ond yn ddiweddarach yn y gêm mae Niko yn canfod bod Michelle yn asiant ffederal cudd. I osgoi carchar mae'n rhaid i Niko gweithio i'w asiantaeth.[9]
  • Tasg Bleed Out. Rhaid i Niko lladd yr Albaniaid sy'n rhoi crasfa i Roman ar faes pêl fâs .[10]
  • Tasg Easy Fare. Mae Niko'n gorfod ffoi rhag yr heddlu wrth roi taith tacsi i un o gwsmeriaid amheus Roman. Yn ystod y dasg mae Niko'n cael ei gyflwyno i un o arweinwyr Maffia'r Rwsiaid, Vlad Glebov.[11]
  • Cynorthwyo un o gyfeillion Roman, Little Jacob, mewn nifer o dasgau sy'n ymwneud a'i fusnes gwerthu cyffuriau.
  • Tasg Uncle Vlad Mae Niko yn lladd Vlad Glebov wedi iddo ganfod ei fod wedi gorfodi Mallory, cariad Roman, i gael rhyw efo fo fel rhandaliad am ddyledion Roman. Wedi ei ladd mae Niko yn dod yn elyn i Maffia'r Rwsiaid.[11]
  • Tasg Crime and Punishment. Mae Roman a Niko yn cael eu herwgipio gan Mikhail Faustin [12] a Dimitri Rascalov [13] am ladd Vlad Glebov. Mae Niko yn cael ei orfodi i weithio fel gangster iddynt i sicrhau rhyddid Roman ac ef.
  • Tasg Logging On . Dwyn ceir ar ran Brucie Kibbut, perchennog garej, cyfaill Roman.[14]
  • Tasg Roman's Sorrow . Wedi i Niko pechu Dimitri Rascalov, mae Dimitri yn llosgi fflat a swyddfa tacsi Roman. Rhaid i Roman a Niko ffoi'n alltud i Bohan.[15]
  • Tasg Roman's Holiday (The Lost and Damned). Mae Roman yn cael ei herwgipio gan Johnny Klebitz ar ran Dimitri [16] ac yn cael ei gadw'n gwystl mewn warws yn Bohan. Gobaith Dimitri yw y bydd hyn yn denu Niko i geisio ei achub gan roi cyfle i Dimitri lladd Niko yn ystod yr ymgais.
  • Tasg Hostile Negotiation. Mae Niko yn mynd i achub Roman o'i gaethiwed, heb i Dimitri llwyddo yn ei ymgais i'w lladd.

Priodas Roman a Mallory golygu

 
Priodas Roman a Mallory

Mae Roman yn derbyn llawer iawn o arian yswiriant am ei fusnes ar fflat dinistriwyd gan Dimitri. Mae'n ail sefydlu ei fusnes tacsi ac yn prynu fflat yn Algonquin. Mae Roman hefyd yn cynnig priodi Mallorie, mae hi'n derbyn y cynnig.

Yn y cyfamser mae Don Jimmy Pegorino o'r maffia Eidalaidd yn gwysio Niko i helpu gyda dêl heroin hynod broffidiol gyda Dimitri. Mae'r gêm yn caniatáu i'r chwaraewr penderfynu os yw Niko yn taro bargen â Dimitri fel rhan o'r dasg neu i ddial arno. Mae'r dewis yn cael effaith ar ddiweddglo'r gêm.

Os yw Niko yn derbyn y fargen, mae Dimitri unwaith eto yn ei fradychu ac yn cadw’r heroin iddo’i hun.[17] Ym mhriodas Roman, mae llofrudd a anfonwyd gan Dimitri i ladd Niko wrth iddo gyrraedd yr eglwys yn lladd Roman yn anfwriadol.[18] Gyda chymorth Little Jacob, mae Niko'n llofruddio Dimitri. Yn ddiweddarach, mae Mallorie yn hysbysu Niko ei bod yn feichiog gyda phlentyn Roman os yw'r plentyn yn fachgen bydd o'n cael ei enwi'n Roman jr er cof am ei dad.

Os yw Niko yn dewis dial, mae'n brwydro dynion Dimitri ar fwrdd y llong Platypus i'w gyrraedd a'i ladd. Mae Pegorino yn gandryll ar ôl brad Niko mae o'n targedu Niko mewn cyrch saethu o gar wrth iddo gyrraedd yr eglwys ar gyfer priodas Roman. Mae'n methu Niko ond yn lladd ei gariad newydd, Kate McReary. Gyda chymorth Little Jacob a Roman, mae Niko yn lladd Pegorino. Yn ddiweddarach, dywed Roman wrth Niko fod Mallorie yn feichiog, ac os yw'r babi yn ferch, byddant yn ei henwi er cof am Kate.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Roman Bellic". Rockstar Games Fandom. Cyrchwyd 2020-11-30.
  2. "Jason Zumwalt". IMDb. Cyrchwyd 2020-11-30.
  3. Boyer, Crispin (March 2008). "Sweet Land of Liberty". Electronic Gaming Monthly (EGM Media, LLC): 44-56. Sam Houser: "He's from that gray part of broken-down Eastern Europe, a war-torn area."
  4. Barone, Adam. "What Is the American Dream?". Investopedia. Cyrchwyd 2020-11-30.
  5. Schiesel, Seth (2008-04-28). "Grand Theft Auto Takes On New York (Published 2008)". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-11-27.
  6. "Mallorie Bardas". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-11-26.
  7. "Grand Theft Auto IV/Friends — StrategyWiki, the video game walkthrough and strategy guide wiki". strategywiki.org. Cyrchwyd 2020-11-30.
  8. "It's Your Call - Grand Theft Wiki, the GTA wiki". www.grandtheftwiki.com. Cyrchwyd 2020-11-30.
  9. Three's a Crowd - GTA 4 IGN, https://www.ign.com/wikis/grand-theft-auto-4/Three%27s_a_Crowd, adalwyd 2020-11-30
  10. "Bleed Out". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-11-30.
  11. 11.0 11.1 "Vlad Glebov". Neoseeker. Cyrchwyd 2020-11-26.
  12. "Mikhail Faustin - Grand Theft Wiki, the GTA wiki". www.grandtheftwiki.com. Cyrchwyd 2020-11-26.
  13. "Dimitri Rascalov". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-11-26.
  14. "Brucie Kibbutz". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-11-30.
  15. "Roman's Sorrow - Grand Theft Wiki, the GTA wiki". www.grandtheftwiki.com. Cyrchwyd 2020-11-30.
  16. "The Main Plot - Missions 6-10 | The Main Plot - Grand Theft Auto IV: The Lost and Damned Game Guide | gamepressure.com". Game Guides. Cyrchwyd 2020-11-29.
  17. Rockstar North (29 Ebrill 2008). Grand Theft Auto IV (PlayStation 3 and Xbox 360) (1.0 ed.). Rockstar Games. Level/area: "One Last Thing".
  18. Rockstar North (29 Ebrill 2008). Grand Theft Auto IV (PlayStation 3 and Xbox 360) (1.0 ed.). Rockstar Games. Level/area: "Mr and Mrs Bellic".