Greg Minnaar
Seiclwr ffordd proffesiynol o Dde Affrica ydy Greg Minnaar (ganwyd 13 Tachwedd 1981 yn Pietermaritzburg). Ef enillodd Gwmpan y Byd beicio mynydd lawr allt yn 2005. Mae'n rasio dros Team G Cross Honda ac yn cystadlu yng nghyfres pwyntiau NORBA a Cypan y Byd, Beicio Mynydd, UCI.
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Greg Minnaar |
Dyddiad geni | 13 Tachwedd 1981 |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Beicio Mynydd Lawr Allt |
Rôl | Reidiwr |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2003 2004 – |
Haro/Lee Dungarees Team G Cross Honda |
Golygwyd ddiwethaf ar 19 Medi, 2007 |
Er i Greg fod yn llwyddiannus iawn ym myd beicio mynydd, nid dyma oedd ei uchelgais. Bu diddordeb Greg mewn motocross gynt, roedd ei rieni yn gorfod ei gludo i'r trac ac aros a'i wylio tra oedd yn ymarfer motocross, ond roedd eu amser yn brin gan eu bod yn rhedeg siop feics felly ni fu Greg yn gallu ymarfer mor aml a fuasai'n hoffi. Oherwydd hyn, dechreuodd fynd allan ar feic mynydd yn y goedwig i'r gogledd o Pietermaritzburg, datblygodd hyn i fod yn brif chwaraeon iddo gan ei fod yn mwynhau gymaint, yr adrenalin a'r cyffro o fynd lawr allt yn gyflym.[1]
Gadawodd yr ysgol yn fuan yn 16 oed i droi'n seiclwr proffesiynol, er fod ei rieni yn ansicr o'r penderfyniad, roedd ei brifathro yn Alexander High School yn cefnogi hyn gan ddweud y buasai Greg wastad yn gallu dychwelyd i addysg os na fyddai'r gyrfa newydd yn llwyddiannus.[1]
Enillodd wobr Beiciwr Mynydd y Flwyddyn De Affrica yn 2002.[1]
Canlyniadau
golygu- 2001
- 1af, Cwpan y Byd, Beicio Mynydd Lawr Allt
- 2003
- 1af, Pencampwriaeth Cyfres Bwyntiau NORBA
- 2004
- 1af, Pencampwriaeth Cyfres Bwyntiau NORBA
- 1af, NORBA DH, Cymal 2
- 1af, NORBA DH, Cymal 3, Mount Snow, Yr Unol Daleithiau
- 1af, NORBA DH, Cymal 4, Sandpoint
- 1af, NORBA DH, Cymal 6, Durango, Colorado, Yr Unol Daleithiau
- ?, Cwpan y Byd Lawr Allt
- 1af, Cymal 1, Cwpan y Byd Lawr Allt, Fort William, Yr Alban
- 4ydd, Cymal 6, Cwpan y Byd Lawr Allt, Livigno, Yr Eidal
- 1af, 'Mexican National DH Finals'
- 2il, Pencampwriaethau'r Byd, Beicio Mynydd Lawr Allt, Les Gets, Ffrainc
- 2005
- 3ydd, Pencampwriaethau'r Byd, Beicio Mynydd Lawr Allt
- 4ydd, Pencampwriaethau'r Byd, Beicio Mynydd 4X
- 1af, Cwpan y Byd Lawr Allt
- 1af, Cymal 2, Cwpan y Byd Lawr Allt, Willingen, Yr Almaen
- 1af, Cymal 5, Cwpan y Byd Lawr Allt, Balneario Camboriu, Brasil
- 1af, Cymal 6, Cwpan y Byd Lawr Allt, Angel Fire, Mexico Newydd
- 2il, Cymal 4, Cwpan y Byd Lawr Allt, Mount Sainte Anne, Canada
- 2il, Cymal 7, Cwpan y Byd Lawr Allt, Pila, Yr Eidal
- 2il, Cymal 8, Cwpan y Byd Lawr Allt, Fort William, Yr Alban
- 4ydd, Cymal 3, Cwpan y Byd Lawr Allt, Schladming, Awstria
- Safle ?, Pencampwriaeth Cyfres Bwyntiau NORBA
- 2il, NORBA DH, Deer Valley, Yr Unol Daleithiau
- 2006
- Safle ?, Pencampwriaeth Cyfres Bwyntiau NORBA
- 1af, NORBA DH, Cymal 3, Mount Snow, Yr Unol Daleithiau
- 1af, NORBA DH, Cymal 4, Deer Valley, Yr Unol Daleithiau
- 1af, NORBA DH, Cymal 6, Snowmass, Yr Unol Daleithiau
- 2il, NORBA DH, Cymal 5, Brian Head, Yr Unol Daleithiau
- 2il, Pencampwriaethau'r Byd, Beicio Mynydd Lawr Allt, Rotorua, Seland Newydd
- Safle ?, Cwpan y Byd Lawr Allt
- 2il, Cymal 3, Cwpan y Byd Lawr Allt, Willingen, Yr Almaen
- 2il, Cymal 4, Cwpan y Byd Lawr Allt, Mount Sainte Anne, Canada
- 3ydd, Cymal 2, Cwpan y Byd Lawr Allt, Fort William, Yr Alban
- 3ydd, Cymal 6, Cwpan y Byd Lawr Allt, Schladming, Awstria
- 4ydd, Megavalanche Reunion
- 2007
- 1af, Crankworx Dual Slalom
- 2il, Pencampwriaethau'r Byd, Beicio Mynydd Lawr Allt
- 2il, Wheels Of Speed Downhill Challenge, Willingen, Yr Almaen
- 3ydd, Crankworx Air Downhill
- 3ydd, Canadian Open Downhill, Whistler, Canada
- I'w benderfynnu Cwpan y Byd Lawr Allt
- 2il, Cymal 3, Cwpan y Byd Lawr Allt, Mount Sainte Anne, Canada
- 3ydd, Cymal 1, Cwpan y Byd Lawr Allt, Vigo, Sbaen
- 3ydd, Cymal 4, Cwpan y Byd Lawr Allt, Schladming, Awstria
- 4ydd, NPS Downhill, Cymal 2, Ae Forest, Yr Alban
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Adrenaline rush: Greg Minnaar Archifwyd 2008-01-19 yn y Peiriant Wayback Brad Morgan, 15 Ionawr 2003
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Swyddogol Greg Minnaar
- Gwefan Swyddogol Team G Cross Honda Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback
- Cyfweliad â Greg Archifwyd 2007-10-11 yn y Peiriant Wayback