Griffith Edwards (Gutyn Padarn)
Offeiriad Anglicanaidd, bardd, a hynafiaethydd o Gymru oedd Griffith Edwards (Gutyn Padarn) (1 Medi 1812 –29 Ionawr 1893).[1]
Griffith Edwards | |
---|---|
Ffugenw | Gutyn Padarn |
Ganwyd | 1 Medi 1812 Llanberis |
Bu farw | 29 Ionawr 1893 Y Trallwng |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | clerig, bardd, hynafiaethydd |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol |
Cefndir
golyguGanwyd Gutyn Padarn yn Llanberis yn blentyn i William Edwards, (Gwilym Padarn),[2] chwarelwr a bardd gwlad, ac Elin ei wraig.
Gyrfa
golyguDechreuodd gyrfa Gutyn Padarn yn y chwarel gyda'i dad. O weithio fel chwarelwr aeth i gadw ysgol ddyddiol yn Llanrug ac wrth gadw 'r ysgol derbyniodd rhywfaint o addysg glasurol gan y Parch Peter Bailey Williams, rheithor Llanrug ac ysgolhaig a hynafiaethydd adnabyddus yn ei ddydd. Bu hyn yn ei alluogi i fynd yn fyfyriwr i Goleg y Drindod, Dulyn, lle graddiodd B.A. ym 1843, ac M.A. ym 1846.[3]
Wedi ei ordeinio'n offeiriad Eglwys Loegr dechreuodd ei weinidogaeth fel curad plwyf Llangollen rhwng 1843 a 1849. Ym 1849 daeth yn beriglor Y Mwynglawdd ger Wrecsam ac ym 1863 fe'i penodwyd yn Rheithor Llangadfan lle arhosodd hyd ei ymddeoliad.
Gyrfa lenyddol
golyguRoedd Gutyn yn un o'r beirdd o ardal Caernarfon oedd yn cael eu hadnabod fel Cywion Dafydd Ddu sef beirdd a ddysgodd y grefft o farddoni gan Dafydd Ddu Eryri ac ef yw awdur un o englynion bedd Dafydd Du:
Wele, — Dyma gell dywell Dewi, — fardd clodfawr
O orawr Eryri
Tristwch mawr sy'n awr i ni
O'i ddwyn, ddyn addwyn, iddi.[4]
Ym 1831, cyhoeddodd cyfres o erthyglau hynafiaethol yn y Gwyliedydd.[5] Ym 1832 dyfarnwyd y wobr iddo yn Eisteddfod Biwmares am y Farwnad orau er Cof am y Parch. John Jenkins (Ifor Ceri), a derbyniodd y wobr o fedal arian gan y Dywysoges Fictoria, (y Frenhines Fictoria yn ddiweddarach). Yna enillodd wobr mewn Eisteddfod yng Nghaerdydd am ysgrifennu cerdd o glod i'r dywysoges Fictoria ym 1840. Roedd yn fuddugol yn Eisteddfod Lerpwl am Farwnad i Syr Watkin Williams-Wynn ac yn y Bala am Farwnad i wraig Syr Watkin y Ledi Henrietta Wynn.
Wedi hynny mae'n ymddangos ei fod wedi rhoi'r gorau i gystadlu ar farddoni mewn eisteddfodau gan droi fwy at feirniadu.
Cyfrannodd cerddi a thraethodau i'r Gwladgarwr, y Traethodydd, yr Haul, a chylchgronau Cymraeg eraill. Ym 1839 golygodd wythnosolyn o'r enw Y Protestant.
Cyhoeddodd blodeugerdd o'i gerddi Prydyddiaeth Gutyn Padarn ym 1846 a chyfrol o bregethau Deg-ar-hugain o Bregethau ym 1854. Cyfieithodd traethawd Saesneg poblogaidd Easy Lessons for Sunday Schools fel Gwersi Hawdd i Ysgolion Sul. Golygodd Ceinion Alun sef gyfrol o waith barddonol John Blackwell ym 1851 ac fe gyfrannodd cofiant byr i Alun fel rhagymadrodd i'r llyfr.[6]
Yn ystod ei gyfnod yn Llangadfan roedd yn aelod brwd o Glwb Hynafiaethau Powysland ac ysgrifennodd traethodau ar hanes plwyfi Llangadfan, Garthbeibio, a Llanerfyl ar gyfer eu cyfnodolyn The Mongomeryshire Collection [7]
Fe'i hetholwyd yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol.[8]
Marwolaeth
golyguYchydig fisoedd cyn ei farwolaeth ymddeolodd o'i waith offeiriadol oherwydd iechyd bregus ac aeth i fyw yn agos at berthynas iddo yn y Trallwng, lle fu farw yn ddi-briod.[9] Ar ôl ei farwolaeth cyhoeddwyd llyfr teyrnged iddo The works of the Rev. Griffith Edwards (Gutyn Padarn). M.A., F.R.H.S., late Vicar of LLangadfan, Montgomeryshire edited by Elias Owen; parochial histories of LLangadfan, Garthbeibio, and Llanerfyl, Montgomeryshire, together with Welsh and English poetry. [10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gutyn Padarn yn y Bywgraffiadur
- ↑ Gwilym Padarn yn y Bywgraffiadur
- ↑ Gutyn Padarn - Y Geninen cylchgrawn cenedlaethol; Mawrth 1893
- ↑ Cymru; Cyf. 33, 1907 - Beirdd Llanberis
- ↑ Achau Teulu Cefn Llanfair gan Gutyn - Y Gwyliedydd Chwefror 1831
- ↑ EDWARDS, Rev. GRIFFITH, M.A., F.R.Hist.S. (Gutyn Padarn) yn Williams, Richard; Montgomeryshire Worthies, ail argraffiad (1894)
- ↑ "Y Diweddar Gutyn Padarn - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1893-02-16. Cyrchwyd 2020-02-10.
- ↑ "HYN AR LLALL O'R GOGLEDD - Y Celt". H. Evans. 1893-02-24. Cyrchwyd 2020-02-11.
- ↑ "THE LATE REV G EDWARDS MA - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1893-03-18. Cyrchwyd 2020-02-11.
- ↑ Edwards, Griffith; Owen, Elias. (1895). The works of the Rev. Griffith Edwards (Gutyn Padarn). M.A., F.R.H.S., late Vicar of LLangadfan, Montgomeryshire. London: E. Stock.