Gruffudd Jones (cyfarwyddwr)

Cyfarwyddwr theatr a dramodydd oedd Gruffudd Jones neu Gruffydd Jones (marw 2013). Bu'n ran blaenllaw o sefydlu Theatr Bara Caws ac yn cyfarwyddo sawl cynhyrchiad i Gwmni Theatr Cymru a Hwyl A Fflag.

Gruffudd Jones
FfugenwGruff Jones
GanwydGruffudd Jones
Bu farw2013
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
GalwedigaethCyfarwyddwr theatr a dramodydd
Cysylltir gydaTheatr Bara Caws a Hwyl a Fflag

Bu farw yn 2013 wedi cyfnod o salwch.[1] Dywedodd Linda Brown o Theatr Bara Caws: “Mae pawb yma yn drist iawn ar ôl clywed y newyddion am Gruff. Roedd ei gyfraniad i’r theatr a’r ddrama Gymraeg yn amhrisiadwy. Bu’n gweithio’n agos iawn â’r cwmni ar hyd y blynyddoedd a bydd colled enfawr ar ei ôl." Dywedodd Linda Brown fod nifer o actorion wedi ffonio’r cwmni yn talu teyrngedau i Gruffydd Jones a bod hyn ynddo’i hun yn adlewyrchu pa mor boblogaidd oedd. Ychwanegodd: “Roeddwn yn ymwybodol nad oedd wedi bod yn dda ers tro ond pan glywais y newyddion, roedd yn sioc fawr. Roedd yn ddyn annwyl yn ogystal â bod yn hynod alluog.”[1]

 
Clawr rhaglen y cynhyrchiad Rasus Cymylau

Theatr

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Gruffydd Jones wedi marw". Golwg360. 2013-07-02. Cyrchwyd 2024-09-12.