Gwenith Gwyn
Drama gerdd o waith Rhisiart Arwel, Rhydwen Williams a Siôn Eirian ac a lwyfannwyd gan Gwmni Theatr Cymru ym 1980, oedd Gwenith Gwyn. Cyflwynwyd y ddrama gerdd yn Gymraeg a Saesneg. Cyflwynwyd y gwaith yn Theatr Gwynedd, Bangor ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Lliw 1980.[1]
Dyddiad cynharaf | 1979 |
---|---|
Awdur | Rhisiart Arwel a Rhydwen Williams a Siôn Eirian |
Gwlad | Cymru |
Dyddiad cyhoeddi | heb ei chyhoeddi |
Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru |
Cyfansoddwr | Rhisiart Arwel |
Disgrifiad byr
golyguDrama gerdd yn seiliedig ar hanes Y Ferch O Gefn Ydfa. Gosodir y ddrama ym mhlasdy Cefn Ydfa ac yn nhafarn y Royal Oak yn Llangynwyd. Digwydd y ddrama rhwng Mai 1724 a Mai 1725.
Cefndir
golygu"Roedd y cynhyrchiad yn rhan o 'Dymor yr Haf' yn Theatr Gwynedd", yn ôl Marion Fenner yn ei hunangofiant Ŵ, Metron; "oedd yn golygu ein bod ni'n perfformio'r gwaith yn Gymraeg ac yn Saesneg, oedd yn gallu bod yn bur ddryslyd, a fwy nag unwaith, fe deimlais i dipyn o banig wrth gerdded ar y llwyfan heb fod yn hollol siwr pa iaith o'n i fod i'w siarad."[2]
Cymeriadau
golygu- Mair y forwyn
- Ifan y Gwas
- Ann Thomas
- Catherine Thomas - Mam Ann
- Wil Hopcyn
- Anna y forwyn
- Rhys Price
- Jac
- Marged
- a nifer o drigolion ifanc Llangynwyd.
Cynyrchiadau nodedig
golyguLlwyfannwyd y gwaith am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru yn Theatr Gwynedd ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Lliw 1980.[1]Cyfarwyddwr Gruffudd Jones; cynllunydd Martin Morley; coreograffi Geoff Powell; cast:
- Mair y forwyn - Marion Fenner
- Ifan y Gwas - Ifan Huw Dafydd
- Ann Thomas - Gillian Elisa [Thomas]
- Wil Hopcyn - Bryn Fôn
- Anna y forwyn - Gwen Ellis
- Catherine Thomas - Menna Trussler [3]
- Rhys Price - J.O Jones
- Jac - Dilwyn Young Jones
- Marged - Sian Meredydd
- Trigolion Llangynwyd : Gwyn Vaughan Jones [1], Rhys Parry Jones, Janet Jones [Janet Aethwy], Dafydd Dafis, Carys Llewelyn a Gwenan Evans.
- Telynores - Siwan Jones
Mae'r actores Marion Fenner yn cofio am rai digwyddiadau doniol a thrasig, tra'n teithio gyda'r sioe :
"Falle taw dyma'r adeg iawn i fi ymddiheuro i fy nghyd actor, Ifan Huw Dafydd, am ei anharddu a'i greithio am oes. Roedd un foment yn ail act y ddrama pan oedd Mair ac Ifan yn cyfarfod mewn golygfa fach gariadus. Roedd angen i ni redeg tuag at ein gilydd, a byddai e wedyn yn cydio ynddo i ac yn fy nghodi i'r awyr cyn dod a fi i lawr yn araf i mewn i gusan. Un noson, ar y ffordd i lawr, fe gnoiais ei drwyn yn ddamweiniol, a thorri cwt - ac fe waedodd y pwr dab fel mochyn. Roedd raid i fi ddefnyddio coler wen, lân fy ngwisg i sychu'r gwaed cyn i'r holl gynhyrchiad fynd ir gwellt, A falle fod y cnoiad yn waeth nag on i wedi'i feddwl, achos mae craith fach yn dal i fod ar drwyn Huw, os edrychwch chi'n agos. [...] Mewn golygfa arall yn Gwenith Gwyn, ro'n i a Gwen [Ellis] yn paratoi bwyd. Roedd Gwen yn gwneud bara, a finnau'n gorfod tynnu plisgyn pys mewn powlen. Ta beth, ar y noson ola, beth wnaeth rhywun - a sai'n siwr hyd y dydd heddi pwy yn union - o'dd newid y props yng nghefn y llwyfan, ac nid pys oedd yn y fowlen ond winwnsyn amrwd, a finnau'n gorfod ei dorri'n fân. Sai'n gwybod sut lwyddes i fynd drwy'r olygfa."[2]
"Ond mae rheswm arall gen i dros gofio noson ola' Gwenith Gwyn. Cyn y perfformiad, ro'n i wedi ffonio Mam a Daddy, yn llawn hanes a sgwrs, ac yn edrych mlaen at y parti i ddathlu diwedd y cynhyrchiad. Fel sy'n digwydd mewn lot o deuluoedd, Mam o'dd yr un fyddai'n sgwrsio fwya', a Daddy'n cael yr hanes wedyn, neu'n dod at y ffôn am ychydig ar y diwedd. Wel, ar ôl siarad am sbel, galwodd Mam ar Daddy i ofyn lice fe ddod i ddweud gair wrthof i, a glywes i fe yn y pellter ar ben arall y ffôn yn dweud, 'It's all right, you come and tell me all about what she said'. Felly cwplo'n ni'r sgwrs, ac wrth i Mam adrodd fy hanes wrth Daddy, medde fe'n sydyn: 'Oh my gosh, I do feel funny'. Aeth Mam i arllwys gwydred o frandi iddo, ond erbyn iddi ddod â'r ddiod ato, roedd e wedi mynd. Druan. Jest fel 'ny. Yn bum deg wyth oed, buodd e' farw'n gwbwl ddirybudd."[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "North Wales Weekly News 1980".
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Fenner, Marion (2014). Ŵ, Metron. Y Lolfa.
- ↑ "Catalog ar-lein Rhagorol". diogel.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2024-09-12.