Pantomeim a lwyfannwyd gan Gwmni Theatr Cymru ym 1982/83 yw Rasus Cymylau. Cyfansoddwyd y gwaith gan Cefin Roberts gyda'r gerddoriaeth gan Dilwyn Roberts. Dyma'r degfed panto i'r cwmni gyflwyno i blant Cymru ers 1971.

Rasus Cymylau
Dyddiad cynharaf1982
AwdurCefin Roberts
GwladBaner Cymru Cymru
Dyddiad cyhoeddiheb ei chyhoeddi
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
Mathpantomeim
DarlunyddJac Jones
Lleoliad y perff. 1afTheatr Gwynedd, Bangor
CyfansoddwrDilwyn Roberts

Disgrifiad byr

golygu

Sioe wedi'i greu efo cymeriadau'r tywydd yw Rasus Cymylau, gyda'r cymeriadau yn cynnwys 'Heulwen Haf', 'Mrs Enfys', 'Eira' a 'Morus Gwynt'. Ras rhwng y gwahanol gymeriadau mewn cymylau oedd prif plot y sioe.

Cefndir

golygu

Hysbysebwyd y panto fel "degfed pantomein Theatr Cymru" gan gyfeirio'n gelfydd iawn at bob un o'r pantos blaenorol : "Wel Mawredd Mawr welsoch chi Madog ac Eli babi yn rhedeg Dan y Don ar ôl Afagddu a Jac y Jyngl a rheini yn Gweld Sêr am eu bod heb gymryd Pwyll Gwyllt wrth wneud Mwstwr yn y Clwstwr! Be mae nhw'n feddwl eu bod yn ei wneud? Chwarae Rasus Cymylau!" [1]

Caneuon

golygu
  • Hei Hei Hei Mrs Enfys!

Cymeriadau

golygu
  • John Dwy Geiniog
  • Heulwen Hâf
  • Mr Haul
  • Mrs Enfys
  • Eira
  • Morus y Gwynt
  • Ifan y Glaw
  • Mr Taran
  • Mr Melltan
  • Neli Niwl
  • Branwen

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfannwyd y pantomeim am y tro cyntaf yn Theatr Gwynedd, Bangor gan Gwmni Theatr Cymru ym 1982. Cyfarwyddwr Gruffudd Jones; cynllunydd Martin Morley; cyfarwyddwr cerdd Dilwyn Roberts; coreograffi Geoff Powell; sain Rolant Jones; band Dilwyn Roberts (Allweddellau), Nigel Rutherford-Young (offerynnau taro), Nigel Taylor (gitâr fas) ac Ann Llwyd (gitâr chwe tant); cast:

Cyfeiriadau

golygu
  1. Tomos, Dafydd (2006-06-27), Rasus Cymylau - tu fewn, https://www.flickr.com/photos/dafydd/176607617, adalwyd 2024-09-12