Guillaume Faye
Llenor a damcaniaethwr gwleidyddol o Ffrainc oedd Guillaume Faye (7 Tachwedd 1949 – 6 Mawrth 2019) a oedd yn un o ddeallusion blaenaf cenedlaetholdeb yr adain dde eithafol yn Ewrop.
Guillaume Faye | |
---|---|
Ffugenw | Guillaume Corvus, Pierre Barbès, Skyman, Gérald Foucher, Willy Eyaf |
Ganwyd | Guillaume Louis Marie Faye 7 Tachwedd 1949 Angoulême |
Bu farw | 6 Mawrth 2019 o canser 16ain bwrdeistref Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, damcaniaethwr gwleidyddol, gweithredydd gwleidyddol, newyddiadurwr, darlithydd, awdur ffeithiol, awdur ysgrifau, academydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol |
Swydd | cadeirydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Q116052044 |
Mudiad | Nouvelle Droite |
Gwefan | http://www.gfaye.com/ |
Ganwyd yn Angoulême yn département Charente, yng ngorllewin canolbarth Ffrainc. Derbyniodd ddoethuriaeth mewn gwyddor gwleidyddiaeth o'r Sefydliadau Astudiaethau Gwleidyddol ym Mharis. Ymunodd â Groupement de recherche et d'études pour la civilisation européenne (GRECE) yn 1970. Daeth yn aelod blaenllaw o garfan neo-baganaidd y Nouvelle Droite (y Dde Newydd) yn y 1970au.
Yn y 1980au arddelai Faye, a sawl cenedlaetholwr adain-dde arall, safbwyntiau gwrth-Americanaidd, gan wrthwynebu'r hilgymysgedd a chosmopolitaniaeth a ddygwyd gan globaleiddio a'r drefn neo-ryddfrydol. Yn ôl Faye, roedd mewnfudo i Ewrop yn tanseilio hunaniaeth a diwylliant y mewnfudwyr yn ogystal â'r Ewropeaid cynhenid. Dadleuodd y dylsai gwledydd Ewrop ymgynghreirio â Gweriniaeth Islamaidd Iran, dan yr Aiatola Ruhollah Khomeini, er hybu daearwleidyddiaeth genedlaetholgar.[1]
Roedd Faye yn gyfeillgar â sawl elfen radicalaidd ac eithafol yng ngwleidyddiaeth Ewrop, gan gynnwys carfanau chwyldroadol, neo-Natsïaid, a chenedlaetholwyr Llydewig ffasgaidd. Cafodd ei ddiarddel o GRECE yn 1987 oherwydd ei gysylltiadau â'r bobl hyn. Treuliodd Faye rhyw deng mlynedd y tu allan i fyd gwleidyddiaeth, ac yn y cyfnod hwn mi oedd yn ddigrifwr ac yn gastiwr ar orsaf radio Skyrock. Bu hefyd yn actio mewn ffilmiau pornograffig.[2]
O 1998 ymlaen, ysgrifennodd Faye sawl llyfr ar bynciau gwleidyddol a diwylliannol. Yn ei waith, mae'n rhagweld cwymp y gwareiddiad Ewropeaidd o ganlyniad i fewnfudo ar raddfa eang a rhyfel rhwng y Gorllewin ac Islam. Trodd ei gefn ar y Nouvelle Droite a'i wrthwynebiad i Gristnogaeth, a dangosodd safbwynt mwy elyniaethus tuag at fewnfudwyr unigol, gan weld bygythiad jihad, glanhau ethnig, a thrais yn erbyn merched gan ddynion Mwslimaidd ifainc yn Ewrop. Nid oedd Faye yn aelod arferol o'r adain dde eithafol. Er enghraifft, dadleuai o blaid rhyddid y rhywioldeb, gan ei alw'n rhinwedd Prometheaidd,[1] ac nid oedd yn gwadu'r Holocost nac ychwaith yn gwrthwynebu bod Gwladwriaeth Israel. Cofleidiwyd ei syniadaeth gan amrywiaeth o garfanau'r adain dde, gan gynnwys yr alt-right, Israeliaid tra-Seionaidd, y mudiad gwrth-jihad, yr hunaniaethwyr, cenedlaetholwyr ethnig Ewropeaidd, a chenedlaetholwyr croenwyn. Cyhoeddir cyfieithiadau Saesneg o lyfrau Faye gan y cwmni dde-eithafol Arktos.
Bu farw o ganser yn 69 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Ffrangeg) Nicolas Lebourg, "Guillaume Faye, théoricien phare de l’extrême droite, ex animateur sur Skyrock et acteur porno", Slate (8 Mawrth 2019). Adalwyd ar 14 Mawrth 2019.
- ↑ (Ffrangeg) "Qui était donc Skyman sur Skyrock? Archifwyd 2019-03-11 yn y Peiriant Wayback", Blog90 (15 Hydref 2008). Adalwyd ar 14 Mawrth 2019.