Drama lwyfan Gymraeg gan Meic Povey yw Gwaed Oer. Mae'r ddrama yn ddilyniant i'w ddrama gynharach Perthyn ac yn ymdrin unwaith eto gyda'r pwnc o losgach o fewn un teulu. Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Whare Teg ym 1992.[1] Addasiad o'r ddrama lwyfan hon yw cychwyn y gyfres ddrama Talcen Caled ar S4C

Gwaed Oer
Dyddiad cynharaf1992
AwdurMeic Povey
Cyhoeddwrheb ei chyhoeddi
GwladCymru
IaithCymraeg
Pwncllosgach

Disgrifiad byr

golygu

"Newydd adael yr ysgol y mae Gwenno, [...] yn un ar bymtheg oed, a'i dyfodol yn bopeth iddi hi a'i theulu. Ond cyn i antur ei bywyd fel oedolyn fynd rhagddo yn Kwiks a'r Coleg Technegol, rhaid iddi gael caniatâd ei rhieni i fynd i gampio, ar y penwythnos, efo'i rapscaliwn amheus o gariad, Terry. Mae hwnnw'n awchu lawn cymaint am yr arian y gall Gwenno ei swyno gan ei thad ag am ei chorff. Wrth gydymffurfio â'i ofynion, yng ngwynfyd ei sicrwydd mai hi ydi'r 'Nymbar Wan', mae Gwenno'n ei chael ei hun ynghanol cyfres o ddigwyddiadau sy'n dinoethi celwyddau, rhagrith a gwirioneddau brwnt sy'n newid bywydau pob un ohonynt yn y teulu. Cawn ein hunain mewn byd o obaith a dadrith, o gelu'r gwir a byw celwyddau. Mae'n fyd o losgach, lle mae'r tad a'r taid [...] yn ymhel â Gwenno, lle mae'r fam [...] yn caru ar y slei ac yn bargeinio'n dan-dîn am eiddo'i mam farw tra'n cynllwynio i hel ei thad i gartref hen bobl. Mae pob cymeriad, yn ei dro, yn twyllo a bradychu'r gweddill; yr unig un sy'n aros yn driw i Gwenno yn y pen draw, ac yn groes i bob disgwyl, yw Terry, a hynny trwy ddryllio rhagrithiau'r gweddill."[2]

Cefndir

golygu

"Er mai drama fodern ydi honno, [Gwaed Oer] mae ei henaid hi ym Mhorthmadog yn y chwedegau," yn ôl Meic Povey mewn cyfweliad gyda Menna Baines ym 1991. "A dweud y gwir, mae enaid bob dim dwi wedi’i sgwennu yn y gorffennol", ychwanegodd. [3]

"Mae Gwaed Oer, fel llawer o waith yr awdur, yn troi o amgylch teulu o 'werins' ", yn ôl Rhiannon Tomos mewn adolygiad o'r cynhyrchiad yn Barn:[2] "ond eu profiad a'u perthynas fel pobl - ac nid fel sbesimens cymdeithasol - yw holl injan ac olwynion y ddrama. Mae ynysu ei themâu i'r 'dosbarth gweithiol' ac i'r 'ffordd mae pobl felna'n bihafio' yn Ilwyr anwybyddu'r ffaith bod yma ddrama bwerus am sefyllfa a allai ddigwydd, yr un mor hawdd, yn y cartrefi dosbarth canol clyd", ychwanegodd.[2]

"Adeiladwaith drama glasurol sydd i Gwaed Oer, sut bynnag; yng nghymhlethod cywrain y plot, dengys law meistr ar waith. Caiff pob llinyn yn y cwlwm cymhleth ei ddatod fesul un, yn ei iawn dro, gan ddatblygu'r sefyllfa a'i gymeriadaeth yn eironig berffaith, gyda phob elfen yn cyfateb yn union i un arall nes rhoi balans anhygoel i'r holl greadigaeth. Yng nghywreinrwydd ei Saernïaeth a dwyster ei themâu, siawns bod Gwaed Oer yn un o ddramâu mawr ein cyfnod ni."[2]

Cymeriadau

golygu
  • Gloria
  • Les
  • Dic
  • Terry
  • Gwenno

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfannwyd y ddrama ym 1992 gan Gwmni Whare Teg. Cyfarwyddwr Dafydd Hywel; cynllunydd John Jenkins; cerddoriaeth Peter Williams; cast:

"Mewn tŷ cyngor y digwydd y cyfan, a hynny wedi ei gyfleu'n gampus gan set gwbl realistig John Jenkins" medde Rhiannon Tomos; "Plesiwyd Dafydd Hywel gan y rhai a sylwodd ar yr effaith Arthur Milleraidd a fwriadwyd i'r set a'r goleuo. Agorwyd y tŷ, i ni fedru gweld i mewn i'w ddau lawr, fel petai cyllell wedi ei rhoi trwy gacen. Dyna'n union a wnaeth yr awdur: torri sleisen o gacen briodas, a oedd wedi ei chadw'n rhy hir, ei thu mewn yn siwrwd o dan eisin a marsipan ei pharchusrwydd cyffredin. Y dadfeilio hwn yw plot y ddrama; hwnnw sy'n digwydd ar y llwyfan", ychwanegodd.[2]

"Roedd perygl gwirioneddol mewn cynhyrchu'r ddrama mewn arddull mor 'ffwr' â hi: hawdd iawn fyddai iddi fod wedi syrthio dros y dibyn i abswrdiaeth ffars. Cafwyd eiliad gas iawn yn Theatr Gwynedd, pan gollwyd amseru rhwng cast a chriw. Chwarddodd y gynulleidfa wrth i'r taid ymhel â Gwenno: boed hynny'n arwydd o'r peryglon. Aeth Dafydd Hywel a'r cast yn ddychrynllyd o agos at y ffin, a rhoi sbarc ychwanegol i'r ddrama wrth wneud; pob clod, felly, i'w camp, eu cynildeb a'u disgyblaeth, am beidio â syrthio i ddifancoll."[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rhaglen cynhyrchiad Cwmni Whare Teg o Gwaed Oer. 1992.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Tomos, Rhiannon (Tachwedd 1992). "Pobl, Nid Sbesimens". Barn 358.
  3. "Cloddio Haenau'r Co' gan Menna Baines; atodiau theatr bARN cyfrol 407/408, Rhagfyr 1996/ Ionawr 1997". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-02.