Drama ddadleuol Meic Povey o 1987 yw Perthyn. Cyhoeddwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Wasg Carreg Gwalch ym 1995, fel rhan o'r Gyfres I'r Golau. Mae'r ddrama yn ymdrin â llosgach rhwng tad a merch. Er bod Povey wedi derbyn comisiwn gan Gymdeithas Theatr Cymru ym 1986 ar ran Cwmni Whare Teg, fe fabwysiadwyd hi fel drama gomisiwn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog 1987. Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Whare Teg yn ystod yr wythnos.[1]

Perthyn
AwdurMeic Povey
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncDramâu Cymraeg
CyfresCyfres I'r Golau

Disgrifiad byr

golygu

Delio gyda'r tabŵ o gyfathrach rywiol honedig rhwng y tad (Tom) a'i ferch (Mari) wna'r ddrama, ac effaith hynny ar y fam, (Gwen). Mae'r dramodydd yn dewis un person arall o'r tu allan i'r teulu (Seiciatrydd) sydd â'r awdurdod i holi'r cwestiynau, a rhoi inni ryw lun ar atebion. Cyfres o 16 o olygfeydd sydd ynddi, sy'n gronicl o fywyd Mari'r ferch wrth iddi dyfu.

"Nid yw'r dramodydd yn dangos ochor nac yn gosod bai", yn ôl y dramodydd Huw Roberts ym 1994, "Mae ymdriniaeth y dramodydd yn gytbwys a di-duedd."[1]

"Roedd y ddeialog yn dawnsio a chlecian ac yn byrlymu priod-ddulliau Cymraeg rhywiog, tafodiaith bob dydd", yn ôl Gwenlyn Parry, ond pwysleisiodd hefyd (ym 1987) fod peth beirniadu wedi bod ar y ddrama, gyda rhai yn dweud "fod rhywbeth o'i le ar bob un o'r cymeriadau ac yr oedd 'pechodau'r tadau' hyd yn oed yn ymyrryd."[1]

Cyhoeddwyd astudiaeth mwy manwl o Perthyn gan Gwenno Hughes yn y Gyfres Astudiaethau Theatr Cymru.

Bu i Povey ail-ymweld â'r pwnc dadleuol mewn drama lwyfan ddiweddarach o'r enw Gwaed Oer (1991).

Cymeriadau

golygu
  • Tom - y tad
  • Gwen - y fam
  • Seiciatrydd
  • Mari - y ferch

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1980au

golygu

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog 1987 y gwelwyd y ddrama ddadleuol hon am y tro cyntaf, a hynny gan Gwmni Whare Teg. Theatr Ardudwy, Harlech oedd y lleoliad a David Lyn oedd yn cyfarwyddo, gyda Dafydd Hywel yn cynhyrchu ar ran y cwmni.[1]

Un fu'n gweld y cynhyrchiad gwreiddiol oedd y dramodydd Gwenlyn Parry a ddisgrifiodd y profiad fel "ysgytwad theatrig". "Dwi ddim yn credu i mi erioed o'r blaen glywed am ddrama lwyfan yn ymdrin â phwnc mor sensitif [...] yn sicr nid yn y Gymraeg. [...] Yn fy marn i, dyma waith gorau Michael hyd yma." Canmolodd Gwenlyn ddawn actio yr actores di-brofiad Nia Edwards: "Llwyddodd i ddweud a gwneud pethau allai fod wedi codi cyfog ar ei chynulleidfa pe bai'n actores llai medrus", ychwanegodd.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Povey, Meic (1995). Perthyn. Gwasg Carreg Gwalch.