Gwarchodfa Natur RSPB Burton Mere

Mae Gwarchodfa natur RSPB Burton Mere yn warchodfa natur ar aber Afon Dyfrdwy; mae mwyafrif y warchodfa yn Swydd Gaer, a’r gweddill yn Sir y Fflint. Mae’n agos i bentref Burton ar Gilgwri.

Gwarchodfa Natur RSPB Burton Mere
Mathgwarchodfa natur, gwlyptir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBurton Edit this on Wikidata
SirGorllewin Swydd Gaer a Chaer Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.262°N 3.0449°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ304744 Edit this on Wikidata
Rheolir ganY Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar Edit this on Wikidata
Map

Gwelir Pioden y môr, Gylfinir, Crëyr glas, Crëyr bach, Glas y dorlan, Hwyaden wyllt, Iâr ddŵr, Cwtiar, Bwn, Cornchwiglen, Cambig, Rhostog gynffonfrith, Titw Barfog, Titw Tomos Las, Robin Goch, Alarch y Gogledd, Rhostog Gynffonddu, Corhwyaden, Pibydd Bronllwyd, Coch y Berllan, Boncath, Gŵydd Canada, Telor Cetti, Titw Penddu, Pibydd y dorlan, Mulfran, Pibydd y mawn, Hwyaden lwyd, Nico, Boda tinwyn, Boda gwerni, Hwyaden bengoch, Pibydd coesgoch, Hwyaden yr eithin, Tylluan Glustiog, Hwyaden lydanbig, Pila Gwyrdd, Llydanbig, Hwyaden gopog, Rhegen dŵr, Gŵydd droedbinc, Hebog tramor, Cudyll coch, Cudyll bach, Chwiwell a Gwylan Benddu.[1]

Sefydlwyd y warchodfa ym 1986 ar ôl prynu cae o’r cyngor lleol. Crewyd 3 llyn ac agorwyd cuddfan ym 1992. Prynwyd mwy o dir ar ddechrau 2008[2] ac adeiladwyd mwy o gyflysterau i’r ymwelwyr, a daeth y safle ‘Gwlyptir Burton Mere’ yn 2011. Mae’r gymdeithas hefyd yn warchod y morfa cyfagos ar Afon Dyfrdwy ac mae ardaloedd o gorslwyn rhwng y llynnoedd. Ffermir rhywfaint o’r tir o hyd, yn rhoi bwyd i’r adar, a chedir defaid ar y morfa. Mae gwartheg yn pori’r gwastatir yn yr haf. Codir lefel y dŵr yn y gaeaf ar les yr adar.[3]

Cyfeiriadau

golygu

Dolen allanol

golygu


Rhai o rywogaethau'r warchodfa

golygu