Gwen Redvers Jones

llenor o Gymru

Awdures a cyn-athrawes yw Gwen Redvers Jones (ganwyd 25 Ebrill 1939).

Gwen Redvers Jones
Ganwyd24 Ebrill 1930 Edit this on Wikidata
Blaenau Ffestiniog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, athro Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd ym Mlaenau Ffestiniog a bu'n byw yn Y Friog, Dolgellau, Penmynydd a Llangefni. Aeth i ysgolion cynradd yn ardal Dolgellau ac yna yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, Ysgol Gyfun Llangefni a Phrifysgol Cymru Caerdydd a Prifysgol Cymru, Bangor.[1]

Cyn ymddeol bu'n athrawes Gymraeg yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin ac mae hi’n byw yng Nghwmffrwd ar gyrion y dref. Mae ei hadnabyddiaeth o blant o bob oed dros yr holl flynyddoedd o gymorth, mae’n siŵr, wrth fynd ati i lenydda ar eu cyfer. Enillodd wobr Tir na n'Og deirgwaith.[2]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Adnabod Awdur, Cyngor Llyfrau". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-21. Cyrchwyd 2020-01-10.
  2. "www.gwales.com - 9781848511743, Cyfres Swigod: Diolch Sgrwff!". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-10.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.