Gwylys
Gwylys | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
Ddim wedi'i restru: | Rosids |
Urdd: | Fabales |
Teulu: | Fabaceae |
Is-deulu: | Faboideae |
Llwyth: | Galegeae |
Genws: | Glycyrrhiza |
Rhywogaeth: | G. glabra |
Enw deuenwol | |
Glycyrrhiza glabra L.[1] | |
Cyfystyron | |
Codlys lluosflwydd o deulu'r pys yw gwylys (Glycyrrhiza glabra). Mae'n frodorol i'r Dwyrain Canol a De Ddwyrain Ewrop, ger arfordir Môr y Canoldir. Tyfir i echdynnu'r sudd melys a elwir yn licris o'i wraidd.
Mae'r gwylys yn tyfu dros 0.9 m (3 troedfedd), ac uwchben y ddaear mae ganddo goesynnau hirion a dail adeiniog sy'n cynnwys 9 i 17 o ddeilios wyffurf, a blodau gleision sy'n dwyn sypiau sy'n cynnwys 3 neu 4 hedyn. Mae ei wreidd yn rhwydwaith dwfn o wreiddgyffion.[2]
Tyfir y planhigyn am 3 i 5 flynedd cyn ei gynaeafu. Caiff y gwreiddiau a'r rhisomau eu glanhau, eu gwasgu'n fwydion, a'u berwi ac yna fe grynhoir y sudd licris drwy broses anweddu. Tyfir gwylys heddiw yn Rwsia,[2] De Ewrop a'r Unol Daleithiau.[3] Fe'i dyfir ym Mhrydain ers yr 16g pan gafodd ei dyfu gan fynachod Dominicaidd yn Pontefract, Swydd Efrog.[2]
Mae ganddo flas chwerwfelys cryf sy'n debyg i anis a ddaw o'r sylwedd glysyrhisin,[3] ac arogl melys. Yn y gegin, defnyddir gwylys i wneud melysion megis licris cymysg a theisenni Pontefract, i flasu Guinness, sambwca a chyrfau a gwirodlynnau eraill a diodydd ysgafn. Yn y fferyllfa mae ei arogl cryf a'i flas neilltuol o fudd wrth gelu blasau cas y moddion, er enghraifft mewn surop peswch a losin gwddf.[2] Defnyddir hefyd i drin wlseri peptig a chlefyd Addison.[3]
Geirdarddiad
golyguGelwir gwylys hefyd yn licris, licoris neu licorys, benthycair o'r enw Saesneg liquorice,[4] a ddaw o'r Roeg: glyks/glukus (melys) a rhiza (gwreiddyn).[2] Gair arall arno yw perwraidd, cyfuniad o "pêr" a "gwraidd".[5] Bathwyd y gair "gwylys" gan William Owen Pughe ym 1800 mewn ymgais i drosi liquorice gan iddo gamdybio taw liquor (Saesneg am wirod) oedd yr elfen gyntaf yn y gair hwnna. Cyfansoddair o gwy ‘dŵr, hylif’ a llys ‘llysiau’ yw bathiad Pughe.[6] Heddiw yn gyffredinol defnyddir licris i gyfeirio at yr ystyr goginiol a gwylys i gyfeirio at yr ystyr fotanegol.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Glycyrrhiza glabra information from NPGS/GRIN". www.ars-grin.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-20. Cyrchwyd 6 March 2008.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Morris, Sallie. The New Guide to Spices (Llundain, Lorenz, 1999), t. 53.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) licorice (herb). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
- ↑ licris. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
- ↑ perwraidd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
- ↑ gwylys. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
- ↑ Geiriadur yr Academi, [liquorice].