Gwynin
Sant o Gymru oedd Gwynin (bl. 6g?). Ychydig a wyddys amdano.
Gwynin | |
---|---|
Ganwyd | Gogledd Cymru |
Man preswyl | Dwygyfylchi, Llandegwning, Bangor-is-y-coed |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Dydd gŵyl | 31 Rhagfyr |
Traddodiadau
golyguYn ôl traddodiad roedd yn un o feibion Helig ap Glannog, arglwydd chwedlonol Tyno Helig. Roedd yn frawd i Sant Boda. Dywedir iddo fynd yn fynach ym Mangor Is Coed ac wedyn i Ynys Enlli.
Eglwysi
golyguCysylltir Gwynin â dau blwyf yng Nghymru, sef Dwygyfylchi yng nghymuned Penmaenmawr, Sir Conwy, a Llandegwning (Llandygwynin) yn Llŷn, Gwynedd.
Eglwys Gwynin Sant yw eglwys plwyf Dwygyfylchi. Fe'i lleolir ym mhentref Dwygyfylchi ei hun. Nid yw'r eglwys bresennol yn hen iawn ond bu eglwys yma yn yr Oesoedd Canol a oedd ym meddiant Abaty Aberconwy. Cafodd yr hen eglwys ei ailadeiladu o'r newydd bron yn 1760, a dim ond darn o ffenestr o'r 16g sy'n aros ohoni; ailadeiladwyd rhan helaeth yr adeilad hwnnw yn ei dro yn y 19g. Mae Syr John Wynn o Wydir yn cyfeirio ati ac yn dweud bod Gwynan a'i frawd Boda, meibion Helig ap Glannog, wedi eu claddu yno.[1]
Gŵyl mabsant: 31 Rhagfyr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ H. Hughes a H. L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, Capel Curig, 1984).