Llandegwning

pentref yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Llandygwynin)

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yn Llŷn, Gwynedd yw Llandegwning ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Ceir ffurf arall ar yr enw, sef Llandygwynin, sy'n fwy hanesyddol gywir efallai (gweler isod), ond 'Llandegwning' a geir ar lafar ac ar y map yn gyffredinol.

Llandegwning
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBotwnnog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.84°N 4.57°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH265299 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Lleolir y pentref fymryn i'r de o Fotwnnog rhwng Abersoch ac Aberdaron ym Mhen Llŷn. I'r de ceir traeth llydan Porth Neigwl.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Yr eglwys

golygu

Cysylltir y plwyf, sy'n hynafol, â Gwynin Sant, un o feibion Helig ap Glannog, arglwydd chwedlonol Tyno Helig. Dyna sy'n cyfrif am y sillafiad Llandygwynin. Dywedir ei fod wedi treulio cyfnod ym mynachlog Bangor Is Coed cyn ffoi oddi yno i Ynys Enlli. Mae'n nawddsant plwyf Dwygyfylchi hefyd. Nid yw eglwys bresennol y plwyf yn hen. Cafodd yr eglwys wreiddiol ei hailadeiladu yn gyfangwbl bron yn 1840, ond mae'r clochdy yn lled hen.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato