Mae hanes Portiwgal yn y cyfnod cynnar yn rhan o hanes Penrhyn Iberia yn gyffredinol. Daw'r enw Portiwgal o'r enw Rhufeinig Portus Cale. Yn y cyfnod cyn dyfodiad y Rhufeiniad, poblogid yr ardal sydd yn awr yn ffurfio Portiwgal gan nifer o bobloedd wahanol, yn cynnwys y Lwsitaniaid a'r Celtiaid. Ymwelodd y Ffeniciaid a'r Carthaginiaid a'r ardal, a bu rhan ohoni dan reolaeth Carthago am gyfnod.

Teml Diana, Évora

Ymgorfforwyd yr ardal yn yr Ymerodraeth Rufeinig wedi i Cathago gael ei gorchfygu; roedd talaith Rufeinig Lusitania, wedi 45 CC, yn cyfateb yn fras i'r wlad bresennol. Wedi diwedd yr ymerodraeth, meddiannwyd y wlad gan lwythau Almaenig megis y Suevi, Buri a'r Fisigothiaid. Wedi'r goresgyniad Islamaidd ar ddechrau'r 8g daeth yn rhan o Al Andalus. Ffurfiwyd tiriogaeth o'r enw Portiwgal yn 868, wedi i'r Cristionogion ddechrau ad-ennill tir yn y Reconquista. Wedi buddugoliaeth dros y Mwslimiaid yn Ourique yn 1139, ffurfiwyd Teyrnas Portiwgal. Parhaodd yr ymladd yn erbyn y Mwslimiaid, ac yn 1249 cipiwyd yr Algarve gan y Cristionogion, gan sefydlu ffiniau presennol Portiwgal.

Yn niwedd y 14g, hawliwyd coron Portiwgal gan frenin Castilla, ond bu gwrthryfel poblogaidd, a gorchfygwyd Castillia ym Mrwydr Aljubarrota gan Ioan o Aviz, a ddaeth yn Ioan I, brenin Portiwgal. Dros y blynyddoedd nesaf, bu gan Bortiwgal ran flaenllaw yn y gwaith o fforio a gwladychu gwledydd tu allan i Ewrop. Yn 1415, meddiannodd Ceuta yng Ngogledd Affrica, ei gwladfa gyntaf; dilynwyd hyn gan feddiannu Madeira a'r Azores. Yn 1500, darganfuwyd Brasil gan Pedro Álvares Cabral, a'i hawliodd i goron Portiwgal, a deng mlynedd wedyn, cipiwyd Goa yn India, Ormuz yng Nghulfor Persia a Malacca yn yr hyn sy'n awr yn Maleisia. Cyrhaeddodd llongwyr Portiwgal cyn belled a Siapan ac efallai Awstralia.

Wedi marwolaeth y brenin Sebastian heb aer mewn brwydr ym Moroco, hawliwyd ei orsedd gan Philip II, brenin Sbaen, a rhwng 1580 a 1640, roedd brenin Sbaen yn frenin Portiwgal hefyd, er ei bod yn parhau i gael ei hystyried fel teyrnas annibynnol. Yn 1640, bu gwrthryfel, a chyhoeddwyd Ioan IV yn frenin Portiwgal.

O ddechrau'r 19g, dechreuodd grym Portiwgal edwino; daeth Brasil yn annibynnol yn 1822, er iddi feddiannu rhannau o Affrica yn nes ymlaen yn y ganrif, yn cynnwys y tiriogaethau sy'n awr yn wledydd Penrhyn Verde, São Tomé a Príncipe, Gini Bisaw, Angola a Mosambic.

Wedi gwrthryfel yn Lisbon, dymchwelwyd y frenhiniaeth a sefydlwyd gweriniaeth ddemocrataidd yn 1910. Yn 1926, bu gwrthryfel milwrol a sefydlwyd llywodraeth filwrol a arweiniodd at unbennaeth António de Oliveira Salazar. Collodd Portiwgal ei meddiannau yn India pan oresgynnwyd hwy gan fyddin India yn 1961. Tua dechrau'r 1960au hefyd y dechreuodd rhyfeloedd annibyniaeth yn Angola a Mosambic. Wedi gwrthryfel yn 1974, rhoddwyd diwedd ar unbennaeth a daeth Portiwgal yn wlad ddemocrataidd. Yn 1999, dychwelwyd Macau, yr olaf o'i meddiannau tramor, i Tsieina.