Drama gyfnod Gymraeg yn seiliedig ar hanes y diwygiwr crefyddol Howel Harris, yw Harris, o waith y llenor Islwyn Ffowc Elis. Llwyfannwyd "fersiwn dalfyredig" o'r ddrama wreiddiol gan Gwmni Theatr Cymru ym 1973 gyda Huw Ceredig yn portreadu Howel Harris.[1] Ond, yn ôl y dramodydd, "fe dybiwyd, yn gam neu'n gymwys, y dylid cyhoeddi'r fersiwn lawnach" ac felly dyna a wnaed ym 1973 gan Wasg Gomer.

Harris
Enghraifft o'r canlynoltheatr
Dyddiad cynharaf1973
AwdurIslwyn Ffowc Elis
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1973
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
Genredrama lwyfan

Cefndir

golygu

"Pan ofynnodd Cwmni Theatr Cymru imi, dros flwyddyn yn ôl bellach, sgrifennu drama newydd am Howel Harris," eglura Islwyn Ffowc Elis yn ei ragair i'r ddrama a gyhoeddwyd ym 1973, "fe dderbyniais y gwahoddiad heb sylweddoli beth yr oedd y gwaith yn ei olygu. Fe wyddwn hanes y diwygiwr mawr yn fras, ac o ddarllen Portread o Ddiwygiwr (1969) rhagorol y Parchedig Gomer Morgan Roberts roedd gen i ddarlun yn fy meddwl o athrylith gymhleth a stormus. Ond gan nad oes eto gofiant cronolegol cynhwysfawr i Howel Harris [...] nid hawdd oedd cael darlun clir yn fy meddwl o stori fywyd o'r crud i'r bedd."[1]

"Fe geisiais i [...] lunio drama episodig am ei holl fywyd cyhoeddus.Er imi orfod dwyn y ddrama i ben dros deng mlynedd cyn marw Harris, a chywasgu cymaint ar yr hanes ag y gallwn, fe gefais 'mod i wedi sgrifennu gwaith a gymera yn agos i bedair awr i'w chwarae. Fe fyddai'n gwbl afresymol rhoi peth felly ar lwyfan heddiw."[1]

 
Rhaglen Harris gan Islwyn Ffowc Elis Cwmni Theatr Cymru (llun Martin Morley) 1973

Cymeriadau

golygu
  • Howel Harris
  • William Williams
  • Daniel Rowland
  • Elizabeth James
  • Anne Williams
  • Sidney Griffith
  • Howel Davies
  • Nel
  • Pryce Davies
  • Jemmy Ingram
  • Twrnai
  • Ustus
  • Evan Moses
  • Mary (gwraig William Williams)
  • Hannah Bowen
  • Erlidiwr
  • Cynghorwr

Gwelir hefyd weinydd mewn gwesty, morwyn, pregethwr teithiol a nifer o wrandawyr, cynghorwyr Methodistaidd ac erlidwyr. Clywir Llais o dro i dro.

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Cyflwynwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru yn Nhachwedd 1973; cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts; cyfarwyddwr cynorthwyol Wynford Ellis Owen; cynllunydd Martin Morley; goleuo Murray Clark; rheolwr llwyfan Alwyn Ifans; cast:

Cymeriadau â hepgorwyd

  • Pryce Davies
  • Jemmy Ingram
  • Twrnai
  • Ustus
  • Erlidiwr
  • Cynghorwr

"...Fe gefais 'mod i wedi sgrifennu gwaith a gymera yn agos i bedair awr i'w chwarae", cyfaddefodd Islwyn Ffowc Elis, "Fe fyddai'n gwbl afresymol rhoi peth felly ar lwyfan heddiw. Felly, fe dorrais i ran helaeth o'r ddrama, ac yn garedig iawn, fe ymgymerodd Mr. Wilbert Lloyd Roberts [...] â'r drafferth o'i chwtogi ymhellach fel y gellid ei hactio mewn ychydig dros ddwyawr. Y fersiwn dalfyredig, felly, o raid, a gyflwynir gan Gwmni Theatr Cymru." [1]

Mae'r actor Wynford Ellis Owen yn sôn am y cynhyrchiad yn ei hunangofiant :

"Dewi Pws o'dd yr un gafodd fi i drwbwl yn ystod taith arall. Ro'n in teithio Cymru gyda Harris, drama arall ro'n i wedi'i [gyd-] gyfarwyddo, gan Islwyn Ffowc Elis. Deud y gwir, do'dd Dewi Pws ddim i fod yn y ddrama. Dod i'w gwylio, wnaeth o, fel aelod or gynulleidfa yn y de. 'Ga i fynd ar y llwyfan i roi sypréis i Huw Ceredig?' gofynnodd. Cofio fi'n sôn am fethu dweud 'na'? Wel, yn ystod golygfa lle roedd tyrfa fawr ar y llwyfan yn gwrando ar Howell Harris (Huw Ceredig) yn pregethu, pwy ymddangosodd ar y llwyfan o dan ryw glogyn lliwgar, ond Dewi Pws! Wrth gwrs, taflwyd Huw Ceredig yn llwyr, a dechreuodd aelodau er'ill y cast chwerthin yn afreolus. Difethwyd y perfformiad hwnnw gan Dewi a'i giamocs, a minnau wedi bod mor ffôl a rhoi fy nghaniatâd iddo fynd ar y llwyfan. Sut bynnag, er mawr syndod i mi, dim ond fi oedd i wynebu'r canlyniadau! Ces i fy riportio i Equity, undeb yr actorion, 'for unprofessional behaviour'! [2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Elis, Islwyn Ffowc (1973). Harris. Gwasg Gomer.
  2. Owen, Wynford Ellis (2004). Raslas Bach A Mawr!. Gomer.