Helena Kaut-Howson
Cyfarwyddwr theatr ac opera byd-enwog o Wlad Pwyl yw Helena Kaut-Howson (ganed 1940), a fu'n Gyfarwyddwr Artistig ar Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug ar gychwyn y 1990au.
Helena Kaut-Howson | |
---|---|
Ganwyd | 1940 Gwlad Pwyl |
Dinasyddiaeth | Gwlad Pwyl |
Galwedigaeth | Cyfarwyddwr Theatr ac Opera |
Cysylltir gyda | Theatr Clwyd |
Un o'i chynyrchiadau mwyaf cofiadwy yng Nghlwyd oedd ei haddasiad llwyfan o nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad ym 1995, o dan y teitl Full Moon.
Bu Kaut-Howson yn Theatr Clwyd rhwng 1991 a 1995, ac fe godwyd statws y Theatr i dir uchel iawn yn sgîl ei chynyrchiadau anturus a llwyddianus. Llwyddodd i ddenu actorion byd enwog i gydweithio â hi gan gynnwys Syr Anthony Hopkins, Julie Christie, Kathryn Hunter, Timothy West, Janet Suzman, Maria Aitkeen ac eraill. Enillodd glod am ei gweledigaeth a gwobrau lu am ei chynyrchiadau, gyda sawl un yn teithio i lwyfannau Llundain.[1]
Ymddiswyddodd ym 1995 yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol, ac fe barodd ei hymadawiad gryn anhapusrwydd ym Myd y Theatr yng Nghymru. Terry Hands oedd ei holynydd yn Theatr Clwyd rhwng 1997 a 2015.
Enillodd Wobr Theatr Peter Brook Open Space Award ym 1994 am ei gwaith yn Theatr Clwyd.
Cynyrchiadau nodedig yn Theatr Clwyd
golygu- The Devils (1991) John Whiting, Theatr Clwyd
- A Doll's House (1992) Henrik Ibsen / Ingmar Bergman, Theatr Clwyd a thaith yng Nghymru
- Full Moon (1993-1995) Caradog Pritchard / John Owen / Helena Kaut-Howson, Theatr y Young Vic a thaith ryngwladol (KPP). Cast: Betsan Llwyd, Simon Gregor, Gareth Potter, Glyn Pritchard, Cler Stephens, Jon Strictland, Russell Armstrong, Owain Bevan, Matthew Bunting, Kevin Griffiths, Paul Jones a Glyn Owen.[2]
- Macbeth (1994) William Shakespeare, Theatr Clwyd
- The Rose Tattoo (1995) Tennessee Williams, Theatr Clwyd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "RESUMÉ". www.helenakauthowson.com. Cyrchwyd 2024-08-25.
- ↑ "Production of Full Moon | Theatricalia". theatricalia.com. Cyrchwyd 2024-08-25.