Helke Sander

actores

Awdures o'r Almaen yw Helke Sander (ganwyd 31 Ionawr 1937) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfarwyddwr ffilm, newyddiadurwr, ymgyrchydd dros hawliau merched ac academydd. Caiff ei chofio fwyaf am ei gadw ar gof a chadw, mewn ffilmiau dogfen, hanes ymgyrchoedd ffeministaidd y 1960au a'r 1970au yn yr Almaen ac fe'i nodweddir gan ei gwaith arbrofol hefyd; darluniodd bywyd pob dydd y fenyw, a'r problemau sy'n eu hwynebu. Caiff ei hystyried gan lawer fel sylfaenydd y mudiad a'r symudiad ffeministaidd "newydd", a sbardunwyd gan ei hanerchiad i Gynhadledd Myfyrwyr Sosialaidd yr Almaen yn 1968.[1]

Helke Sander
Ganwyd31 Ionawr 1937 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
  • Academi Ffilm a Theledu Almaeneg Berlin Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, newyddiadurwr, ysgrifennwr, academydd, actor ffilm, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Hochschule für bildende Künste Hamburg Edit this on Wikidata
PriodMarkku Lahtela Edit this on Wikidata
PlantSilvo Lahtela Edit this on Wikidata
Gwobr/auDeutscher Filmpreis Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.helke-sander.de/ Edit this on Wikidata

Magwraeth golygu

Gyda'i mam, goroesodd hi fomio Dresden gan Brydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a hithau'n wyth oed. Erbyn iddi raddio yn yr ysgol uwchradd, roedd wedi bod i 15 o ysgolion amrywiol ledled yr Almaen. Derbyniodd ei Abitur yn Remscheid yn 1957 ac aeth rhagddi i astudio yn Ysgol Ida Ehre yn Hamburg. Ym 1959, priododd Markku Lahtela, awdur o'r Ffindir yn 1959, a chawsant fab, Silvio Lahtela. Ar ôl genedigaeth Silvio, symudodd Sanders a'i theulu i Helsinki lle bu'n astudio Almaeneg a seicoleg ym Mhrifysgol Helsinki.[2][3][4][5]

Coleg golygu

Yno, bu'n actio a chyfarwyddo drama Ernst Toller, "Der deutsche Hinkemann and Grass' "Noch zehn Minuten bis Buffalo." Bu'n darlithio dosbarthiadau drama ac actio byr fyfyr hefyd. Rhwng 1966 a 1969, bu'n fyfyriwr yn yr ysgol ffilm newydd, Deutsche Film und Fernsehakademie. Mae ei gwaith sinema bron i gyd yn weithiau sy'n ymwneud â ffeministiaeth.[6][7]

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Undeb Myfyrwyr Sosialaidd yr Almaen am rai blynyddoedd. [8][9]

Ffilmyddiaeth golygu

Cyfarwyddwr (30 teitl)

  • 2005 Mitten im Malestream [In Midst of the Malestream] (rhaglen ddogfen)
    • Ail-don ffeministiaeth yr Almaen.[7]
  • 2001 Village (TV rhaglen ddogfen)
  • 1998 Muttertier - Muttermensch [Animal Mother - Human Mother] (TV rhaglen ddogfen)
    • Dogfen ar rol y fam.[7]
  • 1997 Dazlak
  • 1992 BeFreier und BeFreite (rhaglen ddogfen)
  • 1992 Krieg und Sexualle Gewalt [Rhyfel a Thrais Rhywiol] (rhaglen ddogfen)
  • 1989 Die Deutschen und ihre Männer - Bericht aus Bonn [Yr Almaenwyr, a'u Dynion - Adroddiad o Bonn] (dogfen deledu)
    • Effaith ffeministiaeth ar y cyhoedd yn yr Almaen.[7]
  • 1989 Die Meisen von Frau S. (dogfen fer)
  • 1988 Felix (segment "Muss ich aufpassen?")
  • 1987 Nr. 5 - Aus Berichten der Wach- und Patrouillendienste (gwaith byr)
  • 1986 Nr. 8 - Aus Berichten der Wach- und Patrouillendienste (gwaith byr)
  • 1986 Seven Women, Seven Sins (segment "Völlerei? Füttern!")
  • 1985 Nr. 1 - Aus Berichten der Wach- und Patrouillendienste (gwaith byr)
  • 1984 Der Beginn aller Schrecken ist Liebe [Cariad yw Cychwyn Pob Uffern]
    • Gwaith dychan, gan Helke Sander. Dyn rhwng dwy ddynes.[7]
  • 1983 Die Gedächtnislücke - Filmminiaturen über den alltäglichen Umgang mit Giften (dogfen deledu)
  • 1981 Der subjektive Faktor
  • 1981 Wie geht das Kamel durchs Nadelöhr? (dogfen deledu)
  • 1978 Die allseitig reduzierte Persönlichkeit - Redupers
  • 1973 Männerbünde (dogfen deledu)
  • 1973 Macht die Pille frei? (dogfen deledu)
  • 1971 Eine Prämie für Irene [Gwobr i Irene] (ffilm deledu)
    • Ffilm ar sut mae menywod yn cael eu cam-drin a chymryd mantais arnynt, ac mewn ffatrioedd.
  • 1970 Kinder sind keine Rinder [Nid Gwartheg yw Plant] (dogfen fer)
    • Rhaglen ddogfen ar blant mewn gofal.[7]
  • 1969 Das schwache Geschlecht muss stärker werden - Weibergeschichten (ffilm deledu)
  • 1968 Die rote Fahne (dogfen fer)
  • 1967/68 Brecht die Macht der Manipulateure! (ffilm ddogfen)
    • Ymgyrch y myfyrwyr yn erbyn Springer.
  • 1967 Silvo (dogfen fer)
  • 1967 Subjektitüde (gwaith byr)
  • 1965 Naurukierukka (ffilm deledu)
  • 1965 Skorpioni (ffilm deledu)
  • 1965 Teatterituokio (Cyfres deledu)

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Deutscher Filmpreis .

Cyfeiriadau golygu

  1. McCormick, Richard (1977). German Essays on Film. tt. 215–222.
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12089774r. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12089774r. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.fembio.org/english/biography.php/woman/biography/helke-sander/.
  4. Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 16 Hydref 2015. http://www.filmdirectorssite.com/helke-sander. "Helke Sander". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014
  6. "Helke Sander". Women Make Movies.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 7.5 7.6 "Helke Sander". www.fembio.org. Cyrchwyd 2016-12-06.
  8. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 1 Ebrill 2015
  9. Galwedigaeth: http://www.nytimes.com/movies/movie/83512/Die-Allseitig-Reduzierte-Redupers/overview.